Part of the debate – in the Senedd at 2:22 pm on 11 May 2016.
Thank you, Presiding Officer, and congratulations.
A gaf fi ychwanegu fy niolch i Rosemary Butler ac i David Melding am yr adegau y buont yn y Gadair yn ystod y Cynulliad diwethaf? Deuthum i’r pumed Cynulliad hwn, fel John, o fod wedi bod yma ers 1999, ond o fod wedi tyfu i fyny gyda thaith datganoli, o fod wedi tyfu i fyny’n rhwystredig â thaith datganoli ar y ffordd, ond o fod wedi gweld y sefydliad hwn, er hynny, yn dod yn rhan annatod o raglen ddeddfwriaethol pobl Cymru, ond hefyd yn ffordd y gallwn ni yng Nghymru wneud pethau'n wahanol bellach, ac ar wahân.
Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd John. Bydd pawb ohonoch yn gwybod am fy rhwystredigaeth, ond byddwch hefyd yn gwybod fod gennyf feddwl annibynnol—byddai’n well i chi ofyn i'r rhes flaen ynglŷn â pha mor annibynnol fy marn oeddwn i yn y Cynulliad diwethaf neu'r Cynulliadau cyn hynny—ond rwyf bob amser wedi meddwl bod lle yma i bobl sy'n gallu datblygu’r syniadau hynny, datblygu'r sgiliau hynny a bod yn deg ag Aelodau’r meinciau cefn. Rwy’n meddwl bod John a minnau ein dau’n teimlo hynny fel Aelodau'r meinciau cefn.
Rwyf eisiau datblygu menywod mewn bywyd gwleidyddol a Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y cymerodd y cyn-Lywydd—. Ond rwyf hefyd yn awyddus i weld—. Nid oes gennym gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer pobl ag anableddau ac rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd o hyd ym maes anabledd o ran dod i gysylltiad â phobl ag anableddau—caniatáu iddynt ddod ymlaen mewn gwirionedd a chwarae eu rhan mewn cymdeithas.
Felly, rwy'n gofyn am gefnogaeth heddiw. Rwyf wedi gwneud 17 mlynedd. Rwy'n teimlo mai nawr yw’r amser i mi gynorthwyo'r Llywydd i newid y pumed Cynulliad hwn, sy’n mynd i fod yn wahanol. Mae pob un wedi bod yn wahanol. Ac rwy’n meddwl mai nawr yw’r amser i mi ddweud: credaf fod gennyf syniadau newydd, mae gennyf syniadau annibynnol, ond rwyf am wrando ar eich holl syniadau chi yn ogystal ac rwyf am eu datblygu gyda'n gilydd, ar y cyd, fel Cynulliad, fel sefydliad, ond yn anad dim, gan gofio bod pobl Cymru yno ac y dylem fod yno i'w gwasanaethu. Diolch yn fawr iawn.