4. 2. Statement: Cabinet Appointments

Part of the debate – in the Senedd at 2:31 pm on 24 May 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:31, 24 May 2016

(Translated)

Thank you, Llywydd.

I was very pleased last week to announce my ministerial appointments, following the approval of my nominations by Her Majesty the Queen. May I, therefore, list the names, and their responsibilities?

Lywydd, rwyf wedi cydgysylltu'r economi gydag isadeiledd. Mae gennym agenda uchelgeisiol i symud Cymru ymlaen, a bydd Ken Skates yn mynd i’r afael â’r heriau hynny yn egnïol. Julie James fydd yn datblygu'r agenda sgiliau o fewn y portffolio hwn, ac rydym yn parhau â'n pwyslais gweinidogol ar wyddoniaeth.

Mae’r portffolio iechyd a lles yn cael ei gysylltu'n benodol â chymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, er mwyn cydnabod y pwysigrwydd o wneud Cymru yn wlad iachach a gwell. Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy integreiddio darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac rydym yn parhau â'r dull hwn drwy'r gwaith ar y cyd a wneir gan Vaughan Gethin a Rebecca Evans.

Lywydd, bydd Mark Drakeford yn dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, swyddogaeth ganolog a heriol wrth i ni symud, fel Llywodraeth ac fel Cynulliad Cenedlaethol—neu fel Senedd, fel y byddwn yn galw ein hunain, yn ddiau, mewn amser—i'r cyfnod datganoledig o godi refeniw.

Lywydd, fel y gŵyr yr Aelodau, mae Kirsty Williams yn ymuno â'r Cabinet a hi fydd yn gyfrifol am addysg, maes polisi y mae hi wedi siarad amdano gydag angerdd ac argyhoeddiad dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn gwybod bod ysgolion yn bwysig, wrth gwrs, ond nid hwy yw'r unig agwedd bwysig ar addysg o bell ffordd, ac rydym yn adlewyrchu hyn drwy benodi Alun Davies yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Lywydd, mae’r amgylchedd a materion gwledig yn cynrychioli rhan sylweddol iawn o gyfrifoldebau’r Llywodraeth, gan effeithio ar bob cwr o Gymru, ac rwy'n ffyddiog y bydd Lesley Griffiths yn cyfuno ymdeimlad cryf o fudd cenedlaethol gyda phwyslais pwerus ar weithredu lleol.

Carl Sargeant fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Roedd yr elfen gymunedau yn rhan sefydledig o’r Llywodraeth ddiwethaf, ond, y tro hwn, rydym yn nodi buddiannau plant fel cyfrifoldeb gweinidogol ar wahân. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried ein hymrwymiadau o ran gofal plant a chosb resymol.

Lywydd, heddiw, daw Jane Hutt y Gweinidog sydd wedi gwasanaethu hwyaf yn hanes y sefydliad, a bydd hi’n parhau â’i hanes rhagorol o wasanaeth cyhoeddus fel Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip.

Lywydd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, bydd hon yn weinyddiaeth agored, gynhwysol a thryloyw, ac rydym yn barod iawn i weithio gydag eraill er budd y genedl. Yn wir, bydd presenoldeb Kirsty Williams yn y Llywodraeth yn tystiolaethu i'r ymagwedd honno. Ond mae gennym hefyd, wrth gwrs, y trefniadau gyda Phlaid Cymru a amlinellwyd yr wythnos diwethaf. Yn wir, pryd bynnag y bydd modd datblygu consensws a chydweithrediad mewn cysylltiad â deddfwriaeth a chynlluniau gwariant, dyna fyddwn yn ceisio ei wneud. Nid yn unig y mae hyn yn llywodraethu da, ond y mae hefyd yn adlewyrchu dymuniadau pobl Cymru.

Lywydd, amlinellais yr wythnos diwethaf rai o'r blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth hon. Rwyf wedi pwysleisio ein dull gweithredu agored, ond mae'n rhaid i mi hefyd ychwanegu elfen o wirionedd. Nid oes gennym arian di-ben-draw. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei harian yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU, drwy'r grant bloc. Mae’r grant bloc hwn wedi ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac ar ein llwybr presennol, bydd yr adnoddau fydd ar gael i ni yn y flwyddyn 2020 wedi eu torri mewn termau real i lefelau 2003. Nawr, ni all ymagwedd agored a thryloyw i lywodraethu olygu rhestr siopa sy’n ehangu. Gwyddom y bydd yn rhaid talu am bob ymrwymiad newydd yn y weinyddiaeth hon drwy dorri yn rhywle arall.

Lywydd, rwy'n falch iawn â'r tîm Llywodraeth yr wyf wedi ei gasglu at ei gilydd. Mae cyfnod pum mlynedd hynod bwysig o'n blaenau. Byddwn yn canolbwyntio’n ddi-baid ar ysgogi gwelliant yn ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n ffyddiog fod gan y tîm hwn y weledigaeth a'r egni i gynnig cyfle i bawb ac i greu Cymru unedig a chynaliadwy, ar hyn o bryd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.