<p>Questions Without Notice from the Party Leaders</p>

Part of 2. 1. Questions to the First Minister – in the Senedd at 1:41 pm on 14 June 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:41, 14 June 2016

(Translated)

Thank you very much, Presiding Officer.

Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod ffermio yng Nghymru mewn argyfwng ar hyn o bryd. Mae incwm ffermydd yn gyffredinol 25 y cant yn is ac, mewn rhai sectorau, fel llaeth, maent gymaint â hanner yn is. Wrth gwrs, y cwymp mewn prisiau nwyddau sy’n achosi hyn i raddau helaeth, ond mae rhesymau gweinyddol y tu ôl iddo hefyd, yn enwedig yr anhrefn yn y system taliadau a chynllun y taliad sylfaenol. Mae problem benodol i ffermwyr trawsffiniol gyda thir yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru, lle mae cannoedd ohonynt yn dal i fod heb gael eu talu, ac, yn wir, nid yw’r wybodaeth a ddarparwyd flwyddyn yn ôl wedi ei dilysu o hyd ac eto maen nhw'n— [Torri ar draws.]