Part of the debate – in the Senedd at 3:07 pm on 15 June 2016.
Thank you, Presiding Officer. In over a week’s time, the people of Wales will have a huge responsibility: the responsibility of deciding what kind of future we want for our country. Do we want to live in an introverted, narrow country or live in an outward-looking nation that understands that if we want to have influence in the world we need to collaborate with our closest neighbours? This decision will impact on our future for generations to come, and I wish to underline today that I believe that we benefit in Wales more than any other part of the United Kingdom from our membership of the European Union. We are more prosperous, more secure and more influential because of our membership of the European Union.
Roedd tîm pêl-droed Cymru yn destun cryn dipyn o falchder i ni yr wythnos diwethaf. Maent hefyd wedi ein hatgoffa ein bod yn gryfach gyda’n gilydd. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd ar y cae pêl-droed ac mae angen i ni ddeall ein bod yn gryfach pan fyddwn yn gweithredu ar y cyd gyda’n cymdogion agosaf hefyd. Y ffaith yw bod Cymru yn well ei byd yn ariannol diolch i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn derbyn llawer mwy yn ôl nag a rown i mewn: £79 y pen yn ôl adroddiad diweddar. Mae ein seilwaith wedi cael ei ailadeiladu diolch i arian Ewropeaidd. Mae pobl wedi cael eu hyfforddi—200,000 ohonynt—diolch i gyllid Ewropeaidd a chrëwyd swyddi wrth y miloedd diolch i arian yr UE.
Yn ddamcaniaethol, gallem barhau i gael yr haen uchaf hon o gyllid tan 2020. Rydym eisoes wedi clustnodi’r arian ar gyfer adfywio ein cymunedau, cefnogi’r di-waith ac ailadeiladu ein seilwaith, gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth fel y metro. Nid oes gennym unrhyw syniad a fydd y cyllid hwn yn dod. Gallai’r prosiectau hyn fod mewn perygl ac nid oes gennyf fi, yn un, unrhyw hyder o gwbl y bydd Llywodraeth adain dde yn Llundain sy’n gwneud cam â ni’n barod drwy fformiwla Barnett yn ein digolledu am yr hyn a gymerir oddi wrthym pe baem yn gadael yr UE.
Mae rhai yn yr ymgyrch dros adael yn gwneud addewidion i ffermwyr er nad eu lle hwy fydd penderfynu. Mae’n amlwg nad ydynt eto wedi deall fod amaethyddiaeth yn fater wedi’i ddatganoli. Ond nid y cyllid hwn yw’r prif reswm economaidd dros aros yn yr UE. Dylem geisio gwella ein cyfoeth fel nad oes angen y cyllid hwn arnom. Ond mae’r sicrwydd o berthyn i’r farchnad economaidd fwyaf yn y byd—500 miliwn o bobl—sy’n rhoi cyfleoedd i ni werthu ein nwyddau ac yn rhoi cyfleoedd nad ydynt wedi dechrau cael eu gwireddu yn y sector gwasanaeth eto, yn bethau na ddylem eu peryglu.
Yr wythnos hon, clywsom fod Cymru unwaith eto wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed o fewnfuddsoddiad. Mae’r cwmnïau hyn yn dewis ymsefydlu yma am ei fod yn rhoi llwyfan iddynt fynd i mewn i’r farchnad sengl honno. Gwyddom fod 150,000 o swyddi yn ddibynnol ar y berthynas honno. Nawr, nid oes neb yn awgrymu bod y swyddi hynny’n mynd i ddiflannu dros nos, ond os ydych yn eistedd ym mhencadlys Ford, yna mae angen i chi wneud penderfyniad yn y blynyddoedd sydd i ddod ynglŷn ag a ydych yn mynd i ymsefydlu yn Sbaen, lle mae ganddynt ffatri hefyd, neu yma yng Nghymru. Os edrychwch ar yr ychwanegiad at y pris sydd ei angen arnoch i fynd i mewn i’r farchnad honno—bron 10 y cant pe baem y tu allan i ardal y farchnad sengl Ewropeaidd—yna mae’n rhaid i chi ofyn, ‘Pa ddewis y maent yn debygol o wneud?’ Faint o’n cwmnïau allforio ein hunain all barhau’n gystadleuol mewn gwirionedd pan fo’r ychwanegiad at y pris bron 10 y cant yn fwy na’u cystadleuwyr Ewropeaidd?
Caiff 94 y cant o gig oen Cymru ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd. A wyddoch chi beth? Mae llawer o ffermwyr rwy’n eu hadnabod wedi dweud, ‘Edrychwch, gadewch i ni droi cefn ar yr Undeb Ewropeaidd, gadewch i ni droi cefn ar fiwrocratiaeth’, ond maent â’u pennau yn y cymylau os ydynt yn credu y byddant yn gallu parhau i allforio a rhwygo’r rheolau a’r rheoliadau sydd angen iddynt lynu atynt os ydynt am gael mynediad at y farchnad honno. Y gwahaniaeth mawr yw na fydd ganddynt unrhyw lais yn y modd y llunnir y rheolau hynny.
Byddai ein prifysgolion yn dioddef yn enbyd o golli cyllid ymchwil a datblygu. Mae’r rhain yn creu swyddi’r dyfodol, y swyddi a fydd yn talu am ein model cymdeithasol, yn talu am ein pensiynau a’n systemau iechyd. A bydd pris i’w dalu ar unwaith. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi awgrymu y gallai’r economi golli oddeutu £30 biliwn pe baem yn gadael—£30 biliwn sydd ar hyn o bryd yn cael ei wario ar ein systemau iechyd ac addysg. Ac nid pobl fel Boris a Gove fydd yn dioddef; y mwyaf agored i niwed a’r tlotaf yn ein cymdeithas fydd yn dioddef baich y toriadau hyn. Nid yw’r ymgyrch dros adael, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, wedi rhoi unrhyw syniad i ni sut beth fydd eu gweledigaeth o ‘adael’. Ni fyddech yn cyfnewid eich tŷ am un arall heb ei weld yn gyntaf, heb fod yn siŵr ynglŷn â’i leoliad a’r amwynderau lle bo’n briodol. Mae’r naid hon i’r tywyllwch yn wallgofrwydd yn fy marn i.
Ac mae’r syniad fod unrhyw wlad unigol yn gallu arwain penderfyniadau yn y byd cynyddol fyd-eang sydd ohoni heddiw yn ffantasi. Pan aeth yr awyrennau i mewn i’r tyrrau, cymerodd funudau iddo effeithio ar ein marchnad stoc. Eisoes mae’r ansicrwydd o beidio â gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yr wythnos nesaf wedi dileu biliynau oddi ar y farchnad stoc; mae wedi gostwng gwerth y bunt. Nid ydym yn rheoli hynny. Mae sofraniaeth yn y gymdeithas fyd-eang heddiw yn rhith. Mae fel dychmygu Tim Peake yn brolio i fyny yn ei orsaf ofod, yn annibynnol, yn gwneud ei benderfyniadau, ond y gwir amdani yw na fyddai yno heb fod llwyth o wahanol gymunedau a gwledydd yn cydweithio gyda’i gilydd, yn gwneud yn siŵr ei fod yn gallu gwneud ei waith.
Nawr, mae’r UE yn bell o fod yn berffaith, ond ar ôl eistedd mewn siambr euraid lle’r oedd pobl yno oherwydd damwain eu geni’n unig, gallaf ddweud wrthych na ddylem daflu cerrig. Wrth gwrs, mae Llafur yn awyddus i weld UE sy’n ymrwymedig i gyfiawnder cymdeithasol, UE sy’n amddiffyn hawliau pobl fel gweithwyr, fel dinasyddion, fel defnyddwyr, UE sy’n deall yr angen i warchod yr amgylchedd, yr angen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’r angen i barchu datblygu cynaliadwy. Rydym wedi elwa o lu o ddeddfau Ewropeaidd. Mae gennym rai o’r traethau glanaf yn Ewrop. Mae gennym safonau uchel ar gyfer cyfraddau ailgylchu. Mae gennym aer sy’n lanach. A fyddem yn cael caniatâd i fynd ar drywydd troseddwyr tramor, monitro eithafwyr a gweithio gyda Europol? Y ffaith amdani yw nad oes neb yn gwybod.
A chri’r Torïaid heddiw ynghylch ‘biwrocratiaeth’ yw ein cri ninnau dros ddiogelu gweithwyr. Mae’r felin drafod Open Europe, y seiliwyd llawer o ffigurau’r ymgyrch dros adael arni, wedi cyfrifo costau’r fiwrocratiaeth hon. Gadewch i mi roi un enghraifft i chi. Maent yn dweud bod y gyfarwyddeb oriau gwaith, sy’n cyfyngu ar oriau gwaith i 48 awr yr wythnos, yn costio £4 biliwn i’r wlad. Maent yn dweud nad oes unrhyw fanteision iddi. Wel, dywedwch hynny wrth y glanhawr sydd heb lais ynglŷn ag yw’n cael gweithio goramser. Dywedwch hynny wrth y fam orlwythog â gwaith sydd eisiau mynd i weld ei phlant. Dywedwch hynny wrth bobl fel fy ngŵr a oedd, pan oedd yn feddyg dan hyfforddiant, yn gorfod gweithio 110 awr i’r GIG. Fy hun, rwy’n hapus i ildio rhywfaint o sofraniaeth er mwyn sicrhau’r amddiffyniad sydd ei angen arnom ac y gwyddom na fyddwn yn ei gael gan Lywodraeth sy’n benderfynol o leihau hawliau gweithwyr, fel y gwelsom yn eu cyflwyniad i’r Bil Undebau Llafur. Ond rwy’n credu bod rhaid i ni gofio, wrth sôn am farchnadoedd, am hawliau ac am yr amgylchedd, mai’r UE yw’r enghraifft fwyaf llwyddiannus mewn hanes o sefydliad sy’n creu heddwch.
Wyddoch chi, 75 mlynedd yn ôl, tua dwy filltir i ffwrdd o’r union fan hon, cafodd tŷ fy nhad ei ddymchwel yn llwyr gan fom Almaenig. Pwy all ddychmygu braw’r plentyn hwnnw druan a phlant eraill o’i gwmpas? Roeddent yn meddwl eu bod yn ddiogel yn eu cartrefi yma yng Nghymru a daethant yn darged i’r gelyn. Yn y byd hwn sy’n llawn o ansefydlogrwydd, o fygythiadau, o heriau byd-eang newydd, gwae ni os cymerwn yr heddwch hwnnw’n ganiataol. Gobeithiaf y bydd pobl Cymru yn meddwl yn ofalus iawn yr wythnos nesaf ac yn dewis pleidleisio dros ffyniant, dros heddwch a diogelwch a thros barhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.