7. 7. Plaid Cymru Debate: The Wales Bill

Part of the debate – in the Senedd at 4:56 pm on 15 June 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:56, 15 June 2016

(Translated)

Lywydd, wrth alw am ddatganoli plismona i’w le naturiol, mae Plaid Cymru yn cydnabod y byddai hynny’n golygu galw am gydweithredu synhwyrol ac aeddfed rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan. Mae’n hanfodol cael fframwaith wrth wraidd y broses ar gyfer cydweithio agos rhwng Gweinidogion plismona yng Nghymru a San Steffan a rhwng heddluoedd yng Nghymru a heddluoedd yn Lloegr, ar ôl ei ddatganoli. Bydd fframwaith clir a chadarn ar gyfer cymorth ar y cyd yn hanfodol ac yn wir mae gennym eisoes enghreifftiau da o gytundebau cymorth ar y cyd rhwng gwasanaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru a gwasanaethau sy’n cyfateb iddynt yn Lloegr ac ar draws yr ynysoedd hyn. Mae cytundebau cymorth ar y cyd yn bodoli rhwng yr Alban a San Steffan a cheir cydweithrediad agos rhwng gwasanaeth heddlu Gogledd Iwerddon a’r Garda Síochána, yn enwedig yn dilyn adroddiad Patten. Byddai’r heriau cymhleth iawn sy’n wynebu’r rhai sy’n gorfodi’r gyfraith ar draws y byd yn gwneud cydweithredu yn hanfodol.

Nid yw cefnogaeth Plaid Cymru i ddatganoli plismona wedi’i hysgogi gan ryw freuddwyd gul ynghylch codi Clawdd Offa ar gyfer plismona, ond yn hytrach gan awydd i sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion, cydlyniant ar draws y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a mwy o atebolrwydd. Byddai gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer plismona yng Nghymru yn ceisio adeiladu ar y gorau o egwyddorion Peel ar gyfer plismona drwy gydsyniad a’i egwyddor ganolog mai’r heddlu yw’r cyhoedd a’r cyhoedd yw’r heddlu. Yn yr ysbryd hwnnw, gallwn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes gan heddluoedd yng Nghymru i fod yn arloesol a rhannu arferion gorau gyda phartneriaid mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Yn y ddadl hon heddiw, gobeithiaf y gall Aelodau o bob plaid gefnogi cynnig Plaid Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at glywed safbwynt Llywodraeth Cymru, ei gweledigaeth ar gyfer sut y gellir achub y Bil Cymru cyfredol er mwyn sicrhau mwy o ddatganoli i Gymru, ac yn benodol byddwn yn gwerthfawrogi cael esboniad gan y Prif Weinidog ar safbwynt ei gydweithwyr yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn dilyn y gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon ar ddatganoli plismona i Gymru. Diolch yn fawr.