7. 7. Plaid Cymru Debate: The Wales Bill

Part of the debate – in the Senedd at 5:31 pm on 15 June 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:31, 15 June 2016

(Translated)

Among the questions in this Bill that will feel very far removed from everyday life is the question of legal jurisdiction. It will seem like a concern for academics and lawyers alone, but there are practical aspects of this that should be grappled with within this Bill if we are serious about strengthening the foundations of devolution to deal with the enhanced powers that this Chamber will have.

Yn y ddadl ar gwestiwn awdurdodaeth, nid yw’n glir i mi beth yw’r sail resymegol dros gynnal y status quo. Rwy’n gobeithio nad yw’n deillio o reddf i’w roi yn y blwch ‘rhy anodd’, oherwydd nid yw hynny’n wir. Mae mater cynnal awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr yn wynebu’r risg o fod yn fater sy’n cyfateb mewn cyfraith i’r syniad o oruchafiaeth seneddol—rhyw fath o flanced gysur gyfansoddiadol y daliwyd gafael arni oherwydd ofn neu syrthni ac sydd, a bod yn onest, yn methu â mynd i’r afael â chymhlethdodau cynyddol y trefniadau democrataidd presennol. Newid cyfreithiol cyfyngedig yw awdurdodaeth gyfreithiol benodol ar gyfer Cymru ac mae iddo fanteision ymarferol sylweddol.

I fod yn glir, nid wyf yn dadlau dros wahanu llysoedd a barnwyr yn llwyr. Nid yw’n fater sy’n ymwneud ag adeiladau neu bobl, neu liw y wisg neu’r arfbais uwchben y siambr. Mewn gwirionedd, bydd manteision sylweddol i ymgyfreithwyr a’r cyhoedd os mai’r un unigolion fydd y personél cyfreithiol, boed yn farnwyr neu’n ymarferwyr, yn gweithredu’n ddi-dor yn awdurdodaethau cyfochrog Cymru a Lloegr. Nid yw’n anghyffredin o gwbl yn nhraddodiad cyfraith gwlad i gyfreithwyr fod wedi cymhwyso’n ddeuol yn y ffordd hon, felly nid yw’n dir arloesol. Ond gyda chorff cynyddol o gyfraith ar gyfer Cymru yn unig, ynghyd â daearyddiaeth benodol, byddai’n ymddangos yn synnwyr cyffredin, heb sôn am fod yn ddeniadol yn gyfreithiol, i gael rheol i gyd-fynd â hyn y dylai’r deddfau a basiwyd gan y corff hwn effeithio’n unig ar ddeddfau Cymreig sydd wedi’u datganoli ac nad ydynt yn effeithio ar gyfraith Lloegr—a elwir fel arall i bob pwrpas yn awdurdodaeth benodol Gymreig. Mae hwn yn newid pragmataidd, a bydd yn effeithio’n gadarnhaol drwy helpu i osgoi rhai o’r ysgarmesoedd ar y ffin, os mynnwch, sydd fel arall yn anochel wrth ddrafftio’r gyfraith ac wrth ei gweithredu.

Ond mae yna fater arall i’w ystyried hefyd. Yn y traddodiad cyfraith gwlad rydym ni yng Nghymru a Lloegr yn perthyn iddo, caiff barnwyr eu rhwymo gan gynseiliau wrth ddehongli’r gyfraith. Cânt eu rhwymo i ddilyn penderfyniadau barnwyr llysoedd uwch yn yr un awdurdodaeth. Gydag awdurdodaeth gyfreithiol sengl, gallai cynsail a grëwyd mewn llys yn Lloegr ar fater sydd wedi’i ddatganoli yng Nghymru effeithio ar farnwr sy’n dyfarnu achos yng Nghymru, yn rhinwedd y ffaith ei fod yn rhan o’r un awdurdodaeth. Mewn gwirionedd mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd gyda datganoli arfaethedig agweddau ar gyfraith gontractau, cyfraith droseddol a chyfraith eiddo. Mae’n bwysig iawn fod gennym ffiniau clir ynglŷn â pha ffactorau y bydd barnwyr yng Nghymru yn edrych arnynt wrth benderfynu achosion. Mae hyn er budd y cyhoedd. Y ffordd i ddatrys hyn yw cydnabod, mewn perthynas â materion datganoledig fan lleiaf, fod cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr yn wahanol. Ni fyddai barnwyr sy’n penderfynu achosion dan gyfraith Cymru yn anfwriadol yn effeithio ar gyfraith Lloegr, fwy nag y byddai barnwyr sy’n penderfynu achosion dan gyfraith Lloegr yn anfwriadol yn rhwymo barnwyr yng Nghymru. Wrth i gorff cyfraith Cymru ehangu, daw hon yn fwy, yn hytrach na llai o broblem. Nid yw’n anodd ei datrys. Mae’r gwaith a wnaed mewn perthynas â Bil drafft Llywodraeth Cymru, a dadansoddiad y grŵp rhanddeiliaid yn ddiweddar dan gadeiryddiaeth Mick Antoniw, yn cynnig trywydd yma, ac yn bwysig, mae gan y dull hwn o weithredu fanteision i Gymru a Lloegr.

Un pwynt olaf: mae’n ymddangos i mi fod y Bil hwn eisiau rhoi’r argraff fod yna awdurdodaeth benodol heb ei sefydlu mewn gwirionedd. Mae’r gydnabyddiaeth yn adrannau agoriadol y Bil, fod corff o gyfraith Gymreig yn bodoli, yn awgrymu hynny. Credaf fod angen i ni fynd â’r gydnabyddiaeth honno un cam ymhellach a chyflwyno awdurdodaeth benodol i Gymru yn y Bil hwn.