Part of the debate – in the Senedd at 6:10 pm on 15 June 2016.
Thank you to Llyr Gruffydd for the opportunity to speak tonight.
I’r rhai hynny ohonom sy’n cymryd y dystiolaeth wyddonol o ddifrif nid oes unrhyw ddadl fod angen i ni wneud newidiadau radical i’r ffordd rydym yn harneisio ac yn defnyddio ynni. Ac i’r rhai ohonom sydd o ddifrif ynghylch tystiolaeth economaidd, ni all fod fawr o ddadl fod angen i ni, er mwyn dechrau lleihau’r bwlch rhyngom a gweddill y DU, ddefnyddio ein manteision naturiol i greu cyfoeth a swyddi i’n cymunedau. Mae croesawu potensial enfawr ynni adnewyddadwy, ac arbed ynni, yn diwallu’r ddau amcan hwn. Dylem anelu at gynhyrchu ein holl anghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy, ac anelu i allforio ynni dros ben. A gadewch i ni ddod â’r cymunedau gyda ni. Ni chynhyrchir mwy na 1.5 MW o ynni sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru, o’i gymharu â’r Alban, lle y ceir 504 MW o ynni yn eiddo i’r gymuned ac yn lleol. Mae angen i ni newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am ynni, sut y maent yn ei ddefnyddio a sut rydym yn ei gynhyrchu. Mae yna heriau gwirioneddol i’w goresgyn, ond mae yna enillion mawr o fewn ein cyrraedd. Lle bo ewyllys, mae yna ffordd. Mae angen arweinyddiaeth gref gan Lywodraeth Cymru ac mae angen i ni weithio’n drawsbleidiol er mwyn sicrhau nad ydym, o fewn y pum mlynedd nesaf, yn pryderu ynghylch cyfleoedd eraill a gollwyd. Diolch.