Part of the debate – in the Senedd at 4:12 pm on 21 June 2016.
This is undoubtedly a crucial period for broadcasting in Wales. In the coming weeks and months there are key decisions to be taken relating to broadcasting and regulatory arrangements. With this in mind, the Welsh Government will establish a new independent media forum for Wales. This was one of the recommendations of the communities committee in its report on the BBC charter review. I will provide further details about the new forum in due course. I will focus primarily today on the urgent issue of the BBC charter review but will also refer briefly to other key broadcasting issues.
Lywydd, drwy ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac â'r BBC, mae Llywodraeth Cymru wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn rhan lawn o’r broses o adolygu’r siarter. Mae siarter ddrafft yn debygol o gael ei chyhoeddi yn ystod yr haf, a bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn yn syth ar ôl toriad yr haf. Rwyf yn bwriadu cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon cyn toriad yr haf i drafod hyn a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu.
Ar 12 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ar siarter y BBC. Ar yr un diwrnod, ysgrifennodd yr Arglwydd Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, at y Prif Weinidog i roi adroddiad cynnydd ar ddarpariaeth y BBC yn y gwledydd datganoledig, ac mae'r Prif Weinidog wedi ymateb iddo yr wythnos hon.
Yn gyffredinol, rydym yn falch bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi ystyried nifer o'r materion a godwyd gennym, yn ein hymateb manwl i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd ac mewn trafodaethau rhwng swyddogion a Gweinidogion drwy gydol y broses o adolygu’r siarter. Mae angen rhagor o fanylion am nifer o’r cynigion a amlinellwyd yn y Papur Gwyn, er bod rhai o'r rhain yn cael sylw yn llythyr y cyfarwyddwr cyffredinol i'r Prif Weinidog.
Mae'n galonogol, Lywydd, fod y BBC yn bwriadu diogelu gwariant yn y gwledydd datganoledig yn gymharol ag ardaloedd eraill ac mae bellach yn ymrwymo i neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer ei gwasanaethau penodol yn y gwledydd hynny. Fodd bynnag, mae angen eglurder ar frys ynglŷn â beth y mae hyn yn ei olygu o ran cymorth ariannol a pha effaith ymarferol y bydd hyn yn ei chael ar gwmpas y gwasanaethau y mae’r BBC yn eu darparu i Gymru. Nid ydym yn ystyried datblygu Caerdydd fel canolfan bwysig ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith yn gyfiawnhad o fath yn y byd dros leihau buddsoddiad y BBC mewn gwasanaethau eraill. Dylai adnoddau ychwanegol gael eu clustnodi ar gyfer rhaglenni o safon uchel fel dramâu, a fydd yn gwella rhaglenni Saesneg i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw o'r blaen ar y BBC i fuddsoddi arian ychwanegol sylweddol yn y rhaglenni Cymraeg. Rydym yn croesawu’r ffaith bod Tony Hall yn cydnabod bod yn rhaid gwella'r ffordd y caiff Cymru a'r gwledydd datganoledig eraill eu portreadu a bod y BBC yn bwriadu gosod amcanion portreadu i’r comisiynwyr. Mae'n rhaid i bob un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gydnabod bod yn rhaid cynrychioli diwylliannau amrywiol ei gwledydd a'i rhanbarthau yn well er mwyn cynrychioli amrywiaeth lawn y DU yn briodol, ac mae hynny'n cynnwys Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi'r bwriad i gael golygydd comisiynu drama sy'n gyfrifol am bob un o’r gwledydd hyn. Mae'n hanfodol bod yr unigolyn hwn yn gweithio yng Nghymru, a bod penderfyniadau comisiynu ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud yma hefyd. Dylid gwneud mwy i sicrhau bod gweithgarwch cynhyrchu wedi’i ddosbarthu’n decach y tu allan i Lundain ac yng ngwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig. Rydym yn cydnabod bod rhai gwelliannau wedi'u gwneud, ond, serch hynny, mae gormod o benderfyniadau yn dal i gael eu gwneud y tu mewn i'r M25.
Yn y bôn, mae angen newid diwylliant yn y BBC. Rydym yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan y BBC fel darparwr darllediadau newyddion am Gymru ac i bobl Cymru. Y BBC yw’r darparwr mwyaf o hyd o ran newyddion teledu nad yw ar y rhwydwaith a rhaglenni materion cyfoes yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod y BBC wedi bod yn brif ysgogwr o ran gwella’r sylw a roddir i faterion gwleidyddol datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Cymru yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol, hyd yn oed pan fo straeon yn berthnasol ledled y DU. Mae enghreifftiau o adroddiadau gwael ac annigonol yn cynnwys yr anghydfod cytundebol diweddar rhwng Llywodraeth y DU a meddygon iau yn Lloegr, ac, yn fy marn i, roedd sylw’r rhwydwaith i etholiad y Cynulliad yn ddiweddar hefyd yn annigonol.
Rydym yn cydnabod y ffaith y bydd Cymru'n cael ei chynrychioli ar fwrdd unedol newydd y BBC—rydym wedi pwyso’n galed am hynny. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o fanylion am y cynnig i greu is-bwyllgor o’r bwrdd ar gyfer pob un o’r gwledydd. Rydym hefyd yn croesawu'r bwriad i greu trwydded gwasanaeth ar gyfer Cymru, sy'n adlewyrchu ein galwad ninnau am gompact i Gymru yn y siarter newydd. Mae'n rhaid i'r drwydded gwasanaeth ddiffinio'n glir yr hyn sydd ei angen ar Gymru a'r hyn y mae gan y BBC ddyletswydd i’w gyflawni yng nghyfnod nesaf y siarter. Mae'n destun siom nad oes unrhyw fanylion ynghylch sut y bydd Ofcom yn datblygu ac yn darparu’r drwydded gwasanaeth newydd hon. Roeddem yn glir bod angen adolygiad llawn o ddibenion cyhoeddus y BBC ar frys, fel sail ar gyfer cytundeb siarter newydd. Pe byddai’r adolygiad hwnnw wedi'i gynnal, byddem mewn gwell sefyllfa i nodi’r gofynion ar gyfer trwydded gwasanaeth i Gymru sy’n addas at ei diben.
Presiding Officer, we also welcome reference in the White Paper to ensuring the independence of S4C. It is vital that S4C has sufficient funding, as well as having editorial and managerial independence. We welcome the UK Government’s intention to carry out a comprehensive review of S4C, something that we have continually pushed for and was originally promised in 2010. However, this should take place in parallel with the BBC charter review rather than after it. It should also be part of a broader, more fundamental review of the public service broadcasting needs of Wales. We expect to be fully involved in the review of S4C, including the development of the terms of reference.
Mae sicrhau lluosogrwydd teledu Saesneg yng Nghymru yn hanfodol, o ran newyddion a hefyd o ran rhaglenni cyffredinol ar gyfer gwylwyr yng Nghymru. Felly, mae gan ITV Cymru Wales ran hanfodol i'w chwarae fel dewis arall yn hytrach na’r BBC ar gyfer newyddion a rhaglenni nad ydynt yn rhai newyddion. Nid ydym yn ystyried bod lefel bresennol y ddarpariaeth ar drwydded sianel 3 yn briodol, na hyd yn oed yn ddigonol. Dylid cynyddu’r ddarpariaeth, yn enwedig o ystyried sefyllfa ariannol iach ITV. Os yw Channel 4 yn derbyn adnoddau cyhoeddus, yna dylai fod yn ofynnol iddi o leiaf gynhyrchu cyfran yn ôl poblogaeth o raglenni comisiwn ar y rhwydwaith yn y gwledydd a'r rhanbarthau. Roeddem yn siomedig nad oedd Ofcom yn cytuno â'n barn y dylai cwota Channel 4 ar gyfer cynyrchiadau y tu allan i Lundain gael ei weithredu erbyn 2016 yn hytrach na 2020. Mae record Channel 4 o ran comisiynu cynnwys o Gymru wedi bod yn isel iawn yn hanesyddol; mae ei gwariant yng Nghymru yn dal i fod yn is nag 1 y cant o gyfanswm ei gwariant ar gynnwys ac nid oes gan y darlledwr ddim staff comisiynu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Rwyf yn falch bod consensws trawsbleidiol ynglŷn â’r rhan fwyaf o’r materion darlledu. Adlewyrchwyd hyn yn adroddiad y pwyllgor ar adolygiad y siarter ychydig fisoedd yn ôl, yn y llythyr a anfonwyd yr wythnos diwethaf gan Aelodau'r Cynulliad at Tony Hall, a hefyd yn adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Lywydd, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw wrth i'r siarter ddrafft gael ei datblygu. Rydym hefyd am bwysleisio y dylai’r ymrwymiadau y mae'r BBC bellach wedi eu gwneud i wella gwasanaethau i Gymru a’r gwledydd eraill gael eu gorfodi yn y siarter ei hun.