Part of the debate – in the Senedd at 5:05 pm on 21 June 2016.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer, and thank you for the statement. This is a very important survey. I appreciate that we’re only discussing the headlines today and I’m looking forward to a fuller analysis in due course.
There are positive signs here on the percentage that smoke, for example, with reduction continuing, but, of course, with a long way to go. I do support the further steps by the Government in this area in trying to hit the more ambitious targets, but as one who voted against the public health Bill because of the e-cigarettes element, I would encourage the Government to see e-cigarettes as an important tool against smoking. I’m pleased to see that the Government is keeping an open mind, as we heard from the Minister today. There is some light here in terms of over-consumption of alcohol. But if I could turn now to the negative elements in this report.
Os trown at yr elfen negyddol fawr sy’n dod allan o'r arolwg hwn, yr ystadegau ar ordewdra yw honno. Nid newydd ddechrau canu y mae’r clychau larwm ar ordewdra, maent bellach yn canu’n uchel iawn, a dylai hyn yn sicr fod yn ddigon byddarol i orfodi llywodraethau i redeg, nid i guddio, ond i fynd ar drywydd camau brys. Mae'n sgandal cenedlaethol, mae'n sefyllfa drychinebus, rwy’n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny, sy’n bygwth lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Nodaf y camau a amlinellir gan y Gweinidog, gan gynnwys penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol. Rwy’n gresynu, fodd bynnag, nad yw gordewdra ymysg plant yn cael sylw penodol na sylw manwl heddiw yn y datganiad hwn. Mae'n amlwg bod gennym epidemig gordewdra yng Nghymru ymysg plant ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys mewn polisi ac o ran adnoddau. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy awydd i geisio ffyrdd newydd o gynyddu cyllid yn sylweddol yn y maes hwn?
O ran brys, tybed pa wersi a ddysgwyd o strategaethau i derfynu ysmygu, oherwydd yn fy marn i ni allwn fforddio gadael i'r frwydr yn erbyn gordewdra ddigwydd ar amserlen debyg i'r mesurau lleihau ysmygu, sydd wedi cymryd degawdau i ddod i rym.
O ran pŵer trethiant, tybaco, ynghyd ag alcohol, wrth gwrs—maent wedi’u trethu’n drwm. Ac er iddi gymryd cryn dipyn o amser, rwy'n falch bod Llafur o'r diwedd wedi newid o ddilorni i gefnogi ein galwadau am ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. A gaf i ofyn sut y mae'r Gweinidog yn awr yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno’n gynnar yr ardoll y mae Llywodraeth y DU wedi addo ymchwilio iddi?
Efallai y bydd y Gweinidog yn gwybod bod y Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar siwgr a gordewdra. Mae'n galw am gyfyngu ar faint o siwgr y mae pobl yn ei gymryd. Mae'n galw—corff arall eto—am gyflwyno ardoll. Mae hefyd yn tynnu sylw at nodweddion tebyg yn y dulliau gweithredu gan y diwydiant bwyd a'r diwydiant tybaco i ohirio cyflwyno rheoleiddio. Felly, a gaf i ofyn yn olaf a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi sylwadau ar y camau y byddai'n hoffi eu cymryd, neu y mae’n eu cymryd, i ymdrin â'r ymdrechion hyn i rwystro gweithredu gan y Llywodraeth?