5. 5. Plaid Cymru Debate: Health and Social Services

Part of the debate – in the Senedd at 3:09 pm on 22 June 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:09, 22 June 2016

(Translated)

Presiding Officer, thank you for the opportunity to open this debate on a motion tabled in the name of Simon Thomas. This is a debate calling on the Assembly to note the demographic challenges facing the NHS in Wales and calling on the Welsh Government to respond now to those challenges, including moving towards integrating health and social care, as well as taking urgent action with a series of steps to increase the number of staff, including GPs, who will be available in the health service in Wales in ensuing years. I know that ‘crisis’ isn’t a word that the Government likes to hear, and I know that the Minister is very reticent in accepting the word ‘crisis’. It’s not a word that should be used lightly—I would agree with that. But there will be a critical situation within the NHS that will surely develop and deepen unless very definite steps and strategic planning are carried out for the future.

The population forecast for Wales suggests that the percentage of our population over 65 will increase substantially over the next 20 years. By 2037, the number of those over 65 years of age is expected to be 47 per cent of the population, as compared to 30 per cent now. The percentage over 85 will more than double to 10 per cent of the adult population. If the current rates of illness and demand for social care in the population remain similar but within a new demographic pattern of an older population, then it is clear that that will lead to an increase in demand for health and social care services—additional services and different services in future. People will live longer, with more chronic conditions that will need to be managed and monitored outside hospitals and this will lead to a need for far more services within primary health care, including more GPs to provide specialist care, more area and community nurses and social care to keep people who have these conditions living independently. We will also need to integrate: we cannot waste time and, crucially, waste money on fighting bureaucratic battles as to who pays for care, or have lengthy meetings in partnership boards that lead to a few local pilot schemes and little else.

But let’s not be entirely negative. During the ensuing period where there will be increased demand for services, there will also be technological advances—technology treatments, health apps for mobile phones, for example. There will be developments of this kind that will provide opportunities to deliver health and care services in ways that promote independent living at a lower cost and hopefully with better outcomes. You can also consider things such as the increase in capacity among the older population in volunteering, to care for children and other members of the family, as well as an increase in the contribution to cultural, economic and social life in Wales.

Mae’r heriau’n fawr. Ceir rhai cyfleoedd hefyd, fel rwyf wedi crybwyll, ond gadewch i mi sôn am rai pethau y mae angen iddynt ddigwydd—nifer fach o gamau, ond rhai arwyddocaol sydd angen eu dilyn. Ni fyddwch yn synnu clywed llefarydd iechyd Plaid Cymru yn dechrau gyda recriwtio, hyfforddi a chadw staff. Mae arnom angen mwy o feddygon teulu, nyrsys cymunedol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Yn anffodus, ceir llai o feddygon teulu yn awr nag yn 2013, ac mae’r ystadegau’n dangos gostyngiad yn niferoedd nyrsys ardal, er ein bod yn ymwybodol y gallai fod rhai cwestiynau ystadegol ynglŷn â hyn, sy’n adlewyrchu, rwy’n meddwl, yr angen am fwy o dryloywder a gwell data.

Ar feddygon teulu, yn benodol, mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf—mae’r nifer bellach wedi disgyn o dan 2000. Ond yr hyn sy’n frawychus a dweud y gwir yw bod tua chwarter y meddygon teulu sydd gennym yn dweud eu bod yn bwriadu ymddeol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae galwadau ar feddygon teulu yn codi, mae lefelau straen yn gwaethygu, nid yw ein lleoedd hyfforddi yn cael eu llenwi—maent yno, ond nid ydynt yn cael eu llenwi—ac mae’n waeth yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig a gwledig. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu nifer o bolisïau i geisio denu a chadw meddygon presennol: talu dyled myfyrwyr meddygon sy’n cytuno i gwblhau hyfforddiant a threulio eu gyrfaoedd cynnar mewn ardaloedd neu arbenigeddau penodol; cyflogi meddygon teulu ar gyflogau mwy uniongyrchol i lenwi lleoedd gwag mewn ardaloedd gwledig a ffiniol i feddygon nad ydynt eisiau’r drafferth o redeg eu busnesau eu hunain. Ond mae’n rhaid i ni hefyd gael mwy o bobl ifanc i astudio meddygaeth ac i fod eisiau dod yn feddygon teulu. Nid wyf yn gwybod faint ohonoch a welodd astudiaeth 2014 Prifysgol Nottingham, a oedd yn gwbl syfrdanol: nid oedd gan 50 y cant o’r holl golegau addysg bellach a dosbarthiadau chwech neb, dim un person, yn gwneud cais i fynd i ysgol feddygol dros gyfnod o dair blynedd—dim un person. Roedd yna lawer ohonynt ag un neu ddau o ymgeiswyr yn unig, ac nid yw’n syndod fod dosbarthiad hyn, unwaith eto, yn adlewyrchu patrymau amddifadedd. Mae’r rhain yn faterion y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hwy. Mae’n rhaid i ni annog ein pobl ifanc dalentog i feddwl am feddygaeth, a phan fyddant wedi dechrau ar eu hastudiaethau meddygol neu, yn well byth, cyn iddynt ddechrau ar eu hastudiaethau meddygol, i feddwl am fod yn feddyg teulu. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod meddygon sydd newydd eu hyfforddi yng Nghymru yn dod i gysylltiad â gofal sylfaenol yn eu cyfnod cychwynnol ar ôl cymhwyso. Nid yw’n digwydd ddigon yng Nghymru, ond mae’n digwydd mewn mannau eraill. Heb feddygon teulu, nid oes gennym obaith o newid ein gwasanaeth iechyd i fod yn un sy’n gallu gofalu am boblogaeth hŷn a’u cadw’n heini. Rwyf wedi canolbwyntio ar feddygon teulu, bydd cyd-Aelodau eraill yn canolbwyntio ar elfennau eraill o’r gweithlu gofal sylfaenol sydd, wrth gwrs, yr un mor bwysig.

Yn ail, fel cam sydd angen ei gymryd, rwyf am sôn fod y gyfran o’r gyllideb sy’n mynd tuag at ofal sylfaenol yn gostwng pan ddylai fod yn cynyddu. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 7.4 y cant o gyllid y GIG yn mynd tuag at ofal sylfaenol. Mae hynny wedi gostwng o bron i 9 y cant oddeutu degawd yn ôl. Yn Lloegr, tua 10 y cant yw’r lefel; lefel Cymru yn hanesyddol yw tua 11 y cant. Felly, gwyddom ein bod eisiau cael mwy allan o’n sector gofal sylfaenol, ond yn gyfrannol rydym yn rhoi llai i mewn. Dangosodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yma yn y Senedd ddoe fod 90 y cant o gyswllt â chleifion yn digwydd ar lefel gofal sylfaenol—90 y cant o’r cyswllt, 7.4 y cant o’r cyllid. Ac oes, wrth gwrs bod costau uwch mewn gofal eilaidd a bod gofal eilaidd yn fwy agored i chwyddiant costau, ond rwy’n credu’n wirioneddol fod y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy.

Yn drydydd, mae angen i ni fod yn llawer gwell am arloesi a mabwysiadu technolegau newydd, megis apiau, telefeddygaeth, a GIG di-bapur. Mae’r GIG yn rhy aml ymhell y tu ôl i’r mwyafrif o wasanaethau a diwydiannau eraill. Ni all fod yn iawn fod ysbytai yn dal i gyflogi pobl i wthio troliau o waith papur o gwmpas.

Yn bedwerydd, mae arnom angen system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig, un sy’n briodol ar gyfer anghenion poblogaeth wledig a gwasgaredig, nid anghenion rheolwyr GIG sy’n cael eu hel o gwmpas i osod modelau gofal trefol mewn ardaloedd lle nad yw hynny’n addas. Rhaid i hyn hefyd gynnwys mynediad at wasanaethau arbenigol, megis adrannau damweiniau ac achosion brys, yn agos at ble mae pobl yn byw, a gwasanaeth ambiwlans sy’n treulio’i amser yn ymateb i alwadau brys, yn hytrach na chiwio mewn ysbytai neu drosglwyddo cleifion ar deithiau hir oddi cartref. Bydd fy nghyd-Aelodau’n ymhelaethu ar lawer o’r pwyntiau hynny y prynhawn yma.

Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn ymatal ar welliant 1. Nid ydym yn hollol siŵr beth y mae’r Ceidwadwyr yn ei olygu wrth yr asesiadau gwirfoddol hyn a beth bynnag, deallwn fod fersiynau o’r asesiadau hyn yn digwydd beth bynnag. Ond nid oes amheuaeth y cawn glywed mwy gan y Ceidwadwyr. Byddwn yn cefnogi’r gwelliannau eraill. Mae angen cynllun newydd arnom ar gyfer gwasanaethau mewn cymunedau gwledig; dylid adolygu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wrth gwrs, i wneud y swydd yn fwy effeithiol, a dylai hynny ddigwydd yn rheolaidd; a gall ysbytai cymuned, wrth gwrs, chwarae rhan hanfodol yn llyfnhau’r cyfnod pontio yn ôl i’r gymuned i lawer o bobl, er bod sut y mae UKIP yn bwriadu staffio eu gwasanaeth iechyd ar ôl gadael yr UE, pan fo cymaint o weithwyr mudol yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwasanaeth presennol, yn rhywbeth i fyfyrio yn ei gylch y prynhawn yma. Rwy’n edrych ymlaen at eich—[Torri ar draws.] Rwy’n dirwyn i ben. Rwy’n edrych ymlaen at eich cyfraniadau; fe gewch gyfle mewn eiliad i wneud eich pwyntiau mae’n siŵr. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau’r holl Aelodau y prynhawn yma. Mae hon yn un o’r dadleuon pwysicaf sy’n ein hwynebu yng Nghymru ac yn un o’n heriau mwyaf.