2. 2. Debate: The Outcome of the EU Referendum

Part of the debate – in the Senedd at 3:14 pm on 28 June 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:14, 28 June 2016

(Translated)

Thank you, Presiding Officer, for the opportunity to contribute to this important debate.

Roedd canlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf yn siom enbyd. Mae'r ffaith y byddai Cymru yn dewis gwrthod y berthynas sydd wedi bod mor amlwg o fuddiol iddi yn her i bob un ohonom yn y lle hwn, ac mae'n rhaid i ni ymateb yn bendant, ac nid â rhethreg hawdd. Byddai’r golled i Gymru o gannoedd o filiynau o bunnoedd o incwm bob blwyddyn yn hynod niweidiol. Rydym eisoes wedi gweld, mewn llawer o'n cymunedau, effaith cyni ariannol Llywodraeth y DU, yn tynnu arian allan o aelwydydd ac allan o economïau lleol, ac mae hon yn her ar raddfa lawer, lawer mwy. Ynghyd ag ansicrwydd economaidd, yng Nghymru a ledled y DU, wrth i gwmnïau edrych yn anochel ar p'un a ydynt yn buddsoddi yma neu yn y DU sy’n parhau, rydym yn wynebu cyfnod trawmatig iawn, er gwaethaf optimistiaeth heulog y ddau Bollyanna anhebygol, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac arweinydd UKIP.

Dydw i ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle mae Cymru yn gymwys i gael cymorth rhanbarthol—nid oes yr un ohonom eisiau hynny. Rwyf am i'n heconomi fod yn ddigon cadarn i beidio â bod angen hyn ac i ffynnu, a’n prif flaenoriaeth, wrth raid, yw polisi economaidd sy'n gwneud hynny’n bosibl.