11. 10. Debate: The ‘Together for Mental Health’ Delivery Plan

Part of the debate – in the Senedd at 5:23 pm on 5 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:23, 5 July 2016

I think you’re absolutely right, and that there are further consequences as well to longer waiting times, as well as just passing the buck, if you like, to other parts of our public services.

Mae hi’n berffaith amlwg, rydw i’n meddwl, fod hyd amser aros yn gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad yn y pen draw. Mae’r arolwg gan Gofal yn dangos perthynas glir iawn rhwng yr amser y mae rhywun yn aros am driniaeth a’r canlyniadau yn y pen draw. Yr hiraf y mae rhywun yn aros, yn ôl eu harolwg nhw, y lleiaf tebygol ydyw y byddan nhw yn dod i ganlyniad cadarnhaol o ran eu lles a’u hiechyd meddwl. Felly, nid mater o bobl yn gorfod aros yn amyneddgar am wasanaeth sydd yn mynd i fod cystal yn y pen draw ydy o; rydych chi’n aros am rywbeth a fydd, o bosib, yn methu â dod â chanlyniadau cystal yn y pen draw.

Cwpl o faterion eraill gwerth eu nodi cyn cloi: yr angen am therapi un i un i lawer o bobl sydd, ar hyn o bryd, yn cael cynnig therapi grŵp. Mae yna le i therapi grŵp, ond mae yna bobl ar hyn o bryd sydd yn cael cynnig therapi grŵp oherwydd nid yw’r adnoddau ar gael ar gyfer therapi un i un. Mae’r angen am apwyntiadau y tu allan i oriau gwaith yn bwysig iawn. Mae angen rhagor o apwyntiadau felly, yn enwedig lle mae llwyddo i gadw cyflogaeth yn un o’r allbynnau mae rhywun yn anelu amdano fo yn y pen draw. Hefyd, wrth gwrs, mae’n bwysig iawn i ehangu’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

I gloi, mi fyddai Plaid Cymru—rydym wedi nodi droeon—wedi trio sicrhau ein bod yn cynyddu mewn termau real yr arian sy’n mynd i mewn i iechyd meddwl. Mi fyddem ni wedi sefydlu clinigau ‘residential’ ar gyfer anhwylderau bwyta ac wedi trio bod yn arweinydd byd-eang yn y maes hwnnw. Ydyn, mae adnoddau’n dynn—rydym ni’n sylweddoli bod adnoddau’n dynn—ond rydym yn sôn am faes yn y fan hon sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi methu â chael yr adnoddau cywir i sicrhau ei fod yn cael ei iawn le o fewn ein gwasanaeth iechyd. Felly, oes, mae yna gamau positif ymlaen yn y strategaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth, ond mae yna ffordd bell i fynd.