Part of the debate – in the Senedd at 3:38 pm on 5 July 2016.
Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad strwythurol sylweddol yn y Cymoedd, gan gynnwys gan yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y tasglu yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan weithio gyda phobl sy'n byw yn y Cymoedd, busnesau lleol, llywodraeth leol, y trydydd sector a sefydliadau dinesig i hyrwyddo'r Cymoedd fel rhanbarth i fuddsoddi ynddo ac fel lle i fyw, i gydgysylltu buddsoddiadau presennol yn well, ac i ymdrin â phroblemau hirdymor. Bydd yn gweithio'n agos gyda rhaglenni prifddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth bae Abertawe a bydd yn ceisio harneisio potensial tirwedd unigryw ac amrywiol y Cymoedd.
Gan ddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus a gallu Llywodraeth Cymru i weithredu fel catalydd, bydd y tasglu gweinidogol yn cyfarwyddo ac yn arwain y gwaith o adfywio a sicrhau twf cynaliadwy yn y Cymoedd. Blaenoriaeth gyntaf y tasglu fydd gwrando ar yr hyn sydd ei eisiau ar bobl yn y Cymoedd ar gyfer ein dyfodol. Byddwn yn dechrau sgwrs fanwl am wella ansawdd bywyd, datblygu economaidd ac adfywio, effeithlonrwydd busnes a chystadleurwydd, cyflogaeth a sgiliau, ac, yn olaf, datblygu cynaliadwy.
Bydd y tasglu yn gorff gweithgar ac ystwyth ac nid yn gwango biwrocrataidd. Bydd ganddo nifer bach o aelodau craidd a bydd yn galw ar gyfraniadau gan eraill yn ôl y gofyn. Bydd pob Ysgrifennydd y Cabinet a phob Gweinidog yn rhannu cyfrifoldeb dros wella bywydau pobl sy'n byw yn y Cymoedd. Byddaf i'n cadeirio'r tasglu. Bydd ei aelodau'n cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Bydd ganddo hefyd nifer bach o gynghorwyr arbenigol allanol. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y penodiadau hyn maes o law.
Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y broses o arallgyfeirio economi'r Cymoedd eisoes wedi dechrau. Mae diwydiannau newydd yn cael eu cefnogi ac mae'n rhaid inni barhau i adeiladu ar hyn a sicrhau bod pawb yn elwa, gan greu cyfleoedd newydd mewn cymunedau lleol a sicrhau bod manteision mewnfuddsoddi’n cael eu cadw a'u rhannu yn y Cymoedd.
Mae'r materion a’r heriau sylfaenol sy'n effeithio ar Gymoedd y de yn deillio o goctel gwenwynig o dlodi ac amddifadedd. Bydd y tasglu’n ymateb i’r ystod honno o ddangosyddion economaidd-gymdeithasol negyddol sydd wedi rhoi cynifer o'n cymunedau yn y Cymoedd ar waelod tablau cynghrair iechyd, cyfoeth a lles. Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd pwysig yng Nghymru i leihau diweithdra a nifer y bobl sy'n byw mewn cartrefi di-waith, mae rhannau o'r Cymoedd yn parhau i fod â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, lefelau uchel o amddifadedd, a lefelau uchel o ddiweithdra. Mae hyn, yn ei dro, wedi cael effaith ar gyrhaeddiad addysgol ac iechyd hirdymor.
Mae effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU, o gyflwyno'r dreth ystafell wely i doriadau mewn budd-daliadau anabledd, wedi cael ei theimlo gryfaf gan gymunedau yn y Cymoedd. Er na allwn ddadwneud y diwygiadau hyn, gallwn wneud mwy i gefnogi pobl a'u helpu i chwilio am waith urddasol, medrus ac ystyrlon. Byddwn yn gweithio gyda phobl i ymateb i'w hamgylchiadau a'u profiadau yn y byd go iawn. Mae’n rhaid i’r ymagwedd hon gael ei hategu gan fynediad at swyddi, mynediad at wasanaethau o safon uchel a mynediad at gymorth i wella cyflogadwyedd. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl a chymunedau yn teimlo wedi’u difreinio, yn ddigalon ac nad ydynt yn cael digon o sylw. Rwyf am i'r tasglu siarad â’r cymunedau hyn a’r bobl hyn, a gwrando arnynt, i ganfod pam y mae pobl yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl gymaint gan yr economi ehangach a’r gwleidyddion hynny sydd wedi’u hethol i'w cynrychioli.
Drwy'r tasglu, hoffem weld twf cynaliadwy sy'n ychwanegu gwerth economaidd i'n cymunedau yn y Cymoedd. Rydym am i gyfoeth aros yn yr economïau lleol hynny lle y mae’n cael ei greu, nid llifo i ffwrdd i gymunedau pell, cronfeydd sicrwydd neu gyfrifon banc tramor. Rhaid i adfywiad parhaus Cymoedd y de fod â’i wreiddiau mewn ymagwedd at bolisi economaidd sydd â’r prif amcan o ddileu tlodi. Gallwn helpu i wella safonau byw, iechyd a lles teuluoedd a chyfleoedd bywyd plant drwy sicrhau bod swyddi gwell ar gael i bobl yn nes at adref. Bydd y tasglu’n gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, gyda'r economi, addysg, iechyd a thai, i ysgogi camau i ddiwallu anghenion y Cymoedd wrth iddynt ddatblygu.
Lywydd Dros Dro, nid wyf yn bychanu'r heriau sydd o'n blaenau, yn enwedig o ystyried penderfyniad pobl Prydain i geisio ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ceir brwdfrydedd i gydweithredu a chydweithio, fel y gwnaeth cenedlaethau blaenorol, i ateb heriau heddiw ac i roi dyfodol ffyniannus a diogel i’r Cymoedd. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad wrth i waith y tasglu ddatblygu. Diolch.