2. 1. Debate on the Queen's Speech

Part of the debate – in the Senedd at 1:01 pm on 6 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Alun Cairns Alun Cairns The Secretary of State for Wales 1:01, 6 July 2016

(Translated)

Thank you very much, Madam Presiding Officer. It truly is a pleasure to be here. May I first of all thank you, and congratulate you and the Deputy Presiding Officer on your elections into the roles of Presiding Officer and Deputy Presiding Officer of the National Assembly? May I also congratulate all Assembly Members who have been elected, or re-elected, following the recent election?

Mae’n fraint cael bod yma yn Siambr y Senedd unwaith eto. Mae heddiw, fel yr oeddech yn gywir i ddweud, yn ddiwrnod mawr am nifer o resymau. Dylwn awgrymu nad fy mhresenoldeb fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Siambr yw’r rheswm dros hynny. Rwy’n gobeithio o ddifrif mai dyma’r tro olaf, nid oherwydd diffyg parch o gwbl i’r Cynulliad, ond gan fy mod yn credu bod y ddeddfwriaeth sy’n galw am fy mhresenoldeb yma unwaith y flwyddyn yn perthyn i gyfnod yn y gorffennol oherwydd aeddfedrwydd y Cynulliad.

Mae hefyd yn ddiwrnod pwysig am resymau difrifol iawn, megis cyhoeddi adroddiad Chilcot, ond fel rydych wedi ei ddweud yn gywir, mae’n ddiwrnod mawr i Gymru ar nodyn mwy cadarnhaol ac optimistaidd o ran llwyddiant gwych tîm pêl-droed Cymru. Siaradais â’r llysgennad Portiwgeaidd yn gynharach heddiw ac roedd y ddau ohonom yn cytuno y byddem yn cefnogi’r wlad fuddugol heno, pwy bynnag y bydd, yn y rownd derfynol. Dywedais fy mod yn eithaf hyderus mai Cymru fyddai honno.

Rwyf hefyd yn dweud bod Cymru a’r Senedd wedi dod yn bell iawn am lawer iawn o resymau, ond byddwn yn dweud ei fod yn dweud rhywbeth pan fo hyd yn oed ‘The Daily Telegraph’ yn dweud, yn Gymraeg, ein bod ni i gyd yn Gymry, ac rwy’n gweld hynny fel tanlinelliad cadarnhaol o sefyllfa Cymru a’r tîm pêl-droed hefyd.

Mae gennyf atgofion annwyl o fy amser yn y Siambr, yr 11 mlynedd a dreuliais yma, ac mae dychwelyd wedi peri i mi feddwl cymaint y mae wedi newid ers y cyfnod hwnnw. Ers 2011, pan gafodd y Cynulliad hwn bwerau deddfu llawn, mae wedi pasio 28 o Ddeddfau a sawl darn o is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth arloesol am roi organau, am gynaliadwyedd ac am dai.

Madam Lywydd, rwyf am siarad heddiw am raglen ddeddfwriaethol y DU a sut y mae’n darparu diogelwch ac yn cynyddu cyfleoedd bywyd i bobl ledled Cymru. Ond yn gyntaf, Madam Lywydd, rwyf am grybwyll y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a beth y mae hynny’n ei olygu i ni i gyd.

Mae pobl Cymru wedi siarad, ac mae’n rhaid i ni weithredu a rheoli’r ffordd y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen i ni ddangos arweiniad cryf a meithrin hyder mewn busnesau a buddsoddwyr, prifysgolion a cholegau, sefydliadau elusennol ac awdurdodau lleol, ac i deuluoedd a defnyddwyr fel ei gilydd. Byddwn yn parhau i fod yn aelodau llawn o’r Undeb Ewropeaidd am o leiaf ddwy flynedd. Wedi siarad â’r rhai sy’n ymgeisio am yr arweinyddiaeth, mae’n amlwg na fydd erthygl 50 yn cael ei galw i rym yn syth ar ôl yr etholiad. Mae hyn yn cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r economi ac i’r rhai sy’n elwa o gymorth gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen i ni ddefnyddio’r cyfnod interim hwn i baratoi’r genedl ar gyfer gadael.

Cytunodd y Cabinet yr wythnos diwethaf i sefydlu uned Undeb Ewropeaidd yn Whitehall, gan edrych ar yr holl faterion cyfreithiol, ymarferol, rhanbarthol, cenedlaethol ac ariannol y mae angen eu hystyried. Wrth gwrs, byddaf yn gweithio’n agos gyda Phrif Weinidog Cymru i hysbysu’r uned tra bo’r DU yn trafod telerau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli wrth i’r Cabinet gytuno ar ein safbwynt negodi ni ac yn dilyn cyfarfod ag Oliver Letwin i drafod rhai manylion penodol yn gynharach yr wythnos hon a’r effaith ar Gymru, gallaf estyn gwahoddiad i’r Prif Weinidog gyfarfod ag Oliver Letwin a minnau i drafod y materion yn fwy manwl, pan fydd y Prif Weinidog yn teimlo fod hynny’n addas. Mae’r un gwahoddiad wedi ei roi heddiw i Nicola Sturgeon ac i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Prif Weinidog yng Ngogledd Iwerddon.

Felly, byddwn yn dweud nad yw siarad yn negyddol ar hyn o bryd yn helpu neb. Mae’r ymateb gan y gymuned fusnes yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr arnaf. Cafodd ymadroddion fel ‘busnes fel arfer’ eu defnyddio, a defnyddiwyd un arall, ‘ailenedigaeth busnesau’, yn y sesiynau briffio diweddar a gynhaliais yr wythnos diwethaf. Byddwn hefyd yn dweud mai fy hoff ymadrodd oedd ‘mae entrepreneuriaid yn ffynnu ar newid’ a ddyfynnwyd gan un allforiwr. Mae hynny’n dangos y cyfleoedd y bydd llawer o bobl yn eu gweld yn codi o’r sefyllfa newidiol hon, boed yn sefyllfa yr oedd pobl yn ei dymuno ai peidio.

Rwyf am sicrhau nad yw’r gwerthoedd sy’n agos iawn at galon y gymdeithas ym Mhrydain, gwerthoedd fel goddefgarwch, bod yn agored ac undod, yn cael eu gweld fel pethau a gollir o ganlyniad i’r refferendwm, a’n bod yn ymdrechu’n galetach i gefnogi cydlyniant cymunedol, yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r mater hwn yn arbennig o bwysig i’r prifysgolion a’r colegau wrth i ni groesawu myfyrwyr rhyngwladol o fis Medi eleni, mis Medi y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Mae economi Prydain yn gryf. Mae cyflogaeth sydd bron ar ei lefel uchaf erioed a llai o ddiffyg ariannol yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i allu tyfu. Gadael sefydliad yr Undeb Ewropeaidd a wnawn, nid troi ein cefnau ar ein ffrindiau, ein cymdogion a’n partneriaid masnachu ledled Ewrop. Rwy’n optimistaidd ynglŷn â’n dyfodol a’r dyfodol y mae’n rhaid i Gymru a Phrydain ei greu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod adnodd Masnach a Buddsoddi y DU ar gael i agor marchnadoedd newydd ac i ddefnyddio’r Swyddfa Dramor i ddatblygu cysylltiadau ymhellach i ffwrdd. Mae Swyddfa Cymru yn barod ac yn aros i roi mynediad at holl adnoddau ac arbenigedd Whitehall ac wrth gwrs, rwy’n awyddus i weithio gyda phob Aelod o’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru i archwilio’r cyfleoedd hynny.

Felly, gan droi at ein rhaglen ddeddfwriaethol, diogelwch economaidd yw ein blaenoriaeth. Mae cynnydd da wedi’i wneud dros y chwe blynedd diwethaf, a fi yw’r cyntaf i gydnabod bod yna bob amser fwy i’w wneud. Bydd Bil yr Economi Ddigidol yn moderneiddio’r hinsawdd ar gyfer entrepreneuriaeth ac yn rhoi hawl gyfreithiol i bawb gael band eang cyflym iawn. Bydd y Bil yn cefnogi Cymru, sydd eisoes yn chwarae rhan flaenllaw yn y sector technoleg. Bydd yn cefnogi Cymru i fynd i’r lefel nesaf a datblygu hyd yn oed ymhellach.

Byddai’r Bil trafnidiaeth fodern yn darparu ar gyfer ceir sy’n eu rheoli eu hunain, meysydd gofod a diogelwch mewn perthynas â gweithrediadau drôn ymhlith ystod o bolisïau eraill, a rhai ohonynt, fe fyddwn yn dweud, ychydig yn fwy lleol. Bydd y Bil cynllunio a seilwaith cymdogaethau yn symleiddio cynllunio ac yn rhoi’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar sail statudol. Unwaith eto, mae gan Gymru ddiddordeb arbennig yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol. Bydd y Bil twf a swyddi lleol yn hyrwyddo perchnogaeth cartrefi yn Lloegr ac yn datblygu pwerau ychwanegol sylweddol i ranbarthau Lloegr. Mae hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer economïau rhanbarthol yng Nghymru i ffurfio partneriaethau cryf, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y gystadleuaeth ehangach ar draws y DU sy’n rhaid i ni edrych arni fel her gadarnhaol.

Rydym hefyd yn benderfynol o fynd ymhellach i oresgyn rhwystrau i gyfleoedd. Drwy’r Bil diwygio’r carchardai a’r llysoedd, byddwn yn grymuso llywodraethwyr carchardai i fwrw ymlaen â’r arloesedd y mae ein carcharorion ei angen, gan sicrhau na fydd carchardai bellach yn warysau ar gyfer troseddwyr, ond yn hytrach yn feithrinfeydd ar gyfer newid bywydau. Gwn fod hyn yn rhywbeth y soniodd Dai Lloyd amdano yn y ddadl a gynhaliwyd gennych yn ddiweddar yn y Cynulliad.

Bydd y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol yn gwneud newidiadau i’r broses fabwysiadu i droi’r fantol o blaid mabwysiadu parhaol, os mai dyna’r ateb cywir ar gyfer y plentyn. Bydd y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn cadarnhau safle’r DU fel arweinydd byd ym maes ymchwil, gan sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r £6 biliwn rydym yn ei fuddsoddi ym maes ymchwil bob blwyddyn. Mae prifysgolion Cymru yn derbyn mwy nag erioed, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn trafod materion eraill sy’n ymwneud â’r Bil hwn gyda’r Gweinidog prifysgolion.

Mae cadw ein gwlad yn ddiogel yn y cyfnod heriol hwn yn bendant yn flaenoriaeth. Bydd y Bil gwrth-eithafiaeth a diogelu yn helpu awdurdodau i darfu ar weithgareddau eithafwyr. Bydd y Bil pwerau ymchwilio yn llenwi tyllau yn ein peirianwaith diogelwch fel ein bod yn sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yr offeryn sydd ei angen arnynt i ddiogelu’r cyhoedd yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Bydd y Bil Heddlua a Throsedd yn bwrw ymlaen â’r cam nesaf o ddiwygio’r heddlu, tra bydd y Bil arian troseddol yn cadarnhau rôl y DU yn y frwydr yn erbyn llygredigaeth ryngwladol ac yn caniatáu ymgyrchu pellach yn erbyn gwyngalchu arian a’r rhai sy’n elwa o droseddu. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn cyflwyno bil hawliau Prydeinig i ddiwygio fframwaith hawliau dynol y DU, a byddwn yn sicr yn ymgynghori’n llawn gyda’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru drwy gydol y broses.

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol, Madam Lywydd, hefyd yn gwneud newidiadau pellach a fydd yn berthnasol yn Lloegr yn unig, gan gynnwys diwygio gwaith cymdeithasol a rhoi mwy o ryddid i athrawon mewn ysgolion, yn ogystal ag annog sefydlu prifysgolion newydd. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau’r Cynulliad yn edrych ar y deddfau sy’n gymwys yn Lloegr ac yn chwilio am gyfleoedd sy’n deillio ohonynt—gall hynny fod drwy eu dyblygu, ond gall fod drwy wneud rhywbeth gwahanol iawn—a gobeithio y byddwn yn cydnabod mai’r DU yw’r farchnad fwyaf y mae gennym gysylltiad annatod â hi. Po agosaf y bydd cymunedau’n gweithio, yn cydweithredu, yn ategu, yn cydlynu ac yn cystadlu hyd yn oed, gorau oll yw’r canlyniadau’n tueddu i fod, yn enwedig yn sgil y refferendwm a gafwyd lai na phythefnos yn ôl.

Felly yn awr, Madam Lywydd, rwyf am dreulio ychydig o amser yn siarad am Fil Cymru. Fy nod pennaf yw sicrhau ei fod yn cyflawni dwy egwyddor sylfaenol llywodraethu datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol—sef eglurder ac atebolrwydd. Roedd amseriad y Bil i’w weld yn broblem. Gwn fod Rhianon Passmore wedi crybwyll y mater yn y ddadl, yn ogystal â llythyrau gan arweinwyr y Llywodraeth ac arweinwyr y pleidiau yma. Hoffwn ddweud bod yr Ail Ddarlleniad wedi digwydd yr wythnos diwethaf, a ddoe oedd diwrnod cyntaf y Cam Pwyllgor. Gwn fod pryderon ynghylch yr amser a ddyrannwyd, ond ar bob achlysur, daeth y dadleuon i ben yn gynnar gyda llawer o amser yn weddill. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n rhoi hyder yn y ffaith ein bod yn benderfynol o graffu’n briodol. Cynhelir ail ddiwrnod y pwyllgor ddydd Llun nesaf a bydd trafodaeth bellach yn yr hydref wrth i’r Bil gyrraedd y Cyfnod Adrodd cyn y Trydydd Darlleniad. Bydd y broses gyfan yn dechrau eto pan fydd y Bil yn symud ymlaen i’r man arall lle bydd yr arglwyddi’n ddi-os yn dangos diddordeb mawr ac yn craffu fel y bo’n briodol. Wrth gwrs, rwyf am i’r Cynulliad basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog, y Llywydd a minnau’n parhau gyda’n trafodaethau cynnes ac agored.

Bydd y Bil yn datganoli pwerau sylweddol, yn darparu eglurder ac atebolrwydd, ac mae’n ategu fy ymrwymiad i ddatganoli. Nid pethau sy’n ymddangos ar garreg y drws yw Biliau cyfansoddiadol, ond byddant yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru: lefelau treth, yr economi, polisi iechyd, polisi addysg, prosiectau ynni, adfywio a chymaint o rai eraill.

Madam Lywydd, cafodd y ddadl ar y Bil Cymru drafft ei dominyddu gan y prawf angenrheidrwydd ac arweiniodd y ffaith i’r prawf gael ei gynnwys at alwadau am awdurdodaeth ar wahân. Credir bod y prawf wedi’i osod yn rhy uchel a galwyd am drothwy is. Ond Madam Lywydd, rwyf wedi mynd gam ymhellach ac wedi dileu’r prawf yn gyfan gwbl pan fo’r Cynulliad yn addasu cyfraith sifil a throseddol mewn meysydd datganoledig. O ganlyniad, dylai llawer o’r dadleuon o blaid awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân fod wedi diflannu. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod dilysrwydd rhai o’r pwyntiau a wnaed yn y cyfnod craffu cyn y broses ddeddfu. Felly, rwyf wedi cynnwys cymal ar wyneb y Bil sy’n cydnabod, am y tro cyntaf, fod cyfraith Cymru yn cael ei gwneud gan y Cynulliad a Gweinidogion Cymru o fewn yr awdurdodaeth gyfreithiol sengl.

Mae angen i drefniadau gweinyddol penodol gael eu cydnabod hefyd ar gyfer cymhwyso cyfraith Cymru, ac rwyf wedi sefydlu gweithgor yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Brif Ustus a swyddogion y DU. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â’r gwaith o graffu ar y Bil.

Nawr, mae’r awdurdodaeth sengl ei hun wedi ennyn llawer o drafodaeth gan Mick Antoniw, yn un, gan Jeremy Miles a nifer o Aelodau eraill yn ystod y ddadl yn y Cynulliad ar y Bil hwn, ond nid wyf erioed wedi clywed am bolisi na ellir ei gyflwyno oherwydd yr awdurdodaeth sengl. Mae’n cynnig symlrwydd i fusnesau ac yn caniatáu i Gymru a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd yn Llundain a mannau eraill. Y proffesiwn cyfreithiol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac nid wyf yn siŵr pa faich rheoleiddio ychwanegol, biwrocratiaeth a risgiau i fuddsoddwyr ac ysgolion cyfraith y byddai awdurdodaeth ar wahân yn eu creu. Cafodd hyn ei dderbyn, rwy’n falch o ddweud, gan Aelodau Seneddol yr wrthblaid ddoe. Mae dyfodiad meiri metro a datganoli ledled Lloegr wedi ein rhoi mewn cystadleuaeth fwy am fuddsoddiad ac am gyfalaf. Rwy’n awgrymu nad ydym yn diystyru’r ffordd y byddai’r risgiau’n cael eu portreadu gan rai o’n cystadleuwyr. Mae angen i ni fod yn barod am hynny.

Felly, wrth wraidd y Bil mae’r model cadw pwerau, ac rydym wedi lleihau nifer y cymalau cadw ers cyhoeddi’r Bil drafft ym mis Hydref. Mae’r rhestr yn y Bil Cymru wedi’i symleiddio, gyda disgrifiadau cliriach a chywirach o’r cymalau cadw. Credaf ein bod, yn fras, wedi taro’r cydbwysedd cywir, ond rwy’n hapus i barhau â’r ddeialog. Bydd y model cadw pwerau hwn yn darparu setliad a fydd yn ei gwneud yn glir i bobl yng Nghymru pwy y dylent eu dwyn i gyfrif, Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, am y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r Bil hefyd yn datganoli pwerau pellach dros borthladdoedd, prosiectau ynni, cyfyngiadau cyflymder, arwyddion traffig, gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, pwerau dros ffracio, mwyngloddio—mae’n anodd credu, hyd nes y bydd y Bil hwn yn cael ei basio, ni allai’r lle hwn roi caniatâd i lofa newydd, yng Nghymru o bob man—yn ogystal â thrwyddedu a chadwraeth forol.

Felly, un nodwedd allweddol o ddeddfwrfa aeddfed, o senedd, yw ei bod yn codi llawer o’r arian y mae’n ei wario drwy drethi. Datganoli treth dir y dreth stamp a threth dirlenwi a datganoli ardrethi busnes yn llawn y llynedd yw’r camau cyntaf tuag at hyn, ac nid yw ond yn deg fod cyfran o’r dreth incwm yn cael ei datganoli hefyd. Mae Bil Cymru yn dileu’r angen am refferendwm i gyflwyno cyfradd Gymreig o dreth incwm. Mae yna faterion ymarferol y bydd angen eu cytuno gyda Llywodraeth Cymru, yn arbennig sut y dylid addasu grant bloc Cymru er mwyn ystyried datganoli treth, a byddaf yn parhau i adeiladu ar ein perthynas gynnes ac yn gobeithio, ar ôl cyflwyno’r cyllid gwaelodol angenrheidiol, y bydd hynny’n rhoi hyder i’r Aelodau yn y cyswllt hwn.

Llywydd, as I noted earlier, the legislative programme is so much more than simply devolution to Wales. It relates to more than the constitution, which has so often taken up so much time in Cardiff Bay. The legislative programme relates to providing security for working people the length and breadth of Wales; it relates to enhancing the life chances of the people of Wales; and it relates to strengthening our national security also. We must now collaborate and work together, as two Governments, to provide a prosperous and united future for Wales. Thank you.