2. 1. Debate on the Queen's Speech

Part of the debate – in the Senedd at 1:18 pm on 6 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:18, 6 July 2016

(Translated)

Thank you very much, Llywydd. May I welcome the Secretary of State back to the Assembly and to this Chamber? The relationship between us goes back many years, due to the fact that we’ve stood against each other twice in elections, and so our relationship goes back 17 years, to the time when we first met here.

A gaf fi groesawu, fel y dywedais, yr Ysgrifennydd Gwladol yn ôl i’r Siambr? Mae wedi fy nharo ei fod eisoes wedi cyflawni rhywbeth y mae o leiaf dau o’i ragflaenwyr wedi methu â gwneud, sef ei fod wedi llwyddo i gyflwyno araith heb gael ei heclo. [Chwerthin.] Gwn nad oedd hynny’n wir am ei ragflaenydd, ac yn sicr nid oedd yn wir yn achos y rhagflaenydd cyn hynny, yr Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd, a gafodd ei heclo, rwy’n credu, gan ei ochr ei hun pan ddaeth i’r Siambr hon.

A gaf fi ddiolch iddo am y cyflwyniad a roddodd i ni ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol? Wrth gwrs, bydd arweinydd y tŷ yn ymateb yn llawn ar ddiwedd y ddadl, ac felly fy lle i yw gwneud rhai sylwadau. Mae’r Siambr hon wedi treulio amser yn trafod Bil Cymru ers misoedd lawer, a bydd Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn gwneud yr un peth yn y misoedd sydd i ddod. Rwy’n dechrau o’r sail fod y Bil a gyflwynwyd yn y Senedd yn flaenorol mor wallus nes ei fod yn anymarferol i bob pwrpas. Nid yw’r Bil hwn yn y categori hwnnw. Mae llawer i’w wneud arno, ond roedd yr obsesiwn gyda chadw’r awdurdodaeth gyfreithiol sengl yn golygu bod y Bil blaenorol yn Fil a fyddai wedi mynd â phwerau oddi wrth y Cynulliad hwn y pleidleisiodd pobl Cymru eu hunain amdanynt yn 2011.

Mae yna rai meysydd, wrth gwrs, lle bydd anghydfod. Ni allaf gytuno â’i farn ar yr awdurdodaeth. Mae’r Bil ei hun yn datganoli’r rhan fwyaf o’r gyfraith droseddol. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai’n ymddangos i mi fod hynny’n cynyddu’r ddadl, neu’n cryfhau’r ddadl, y dylid cael awdurdodaeth wahanol ymhen amser. Fel arall, hon fydd yr unig awdurdodaeth cyfraith gyffredin yn y bydysawd sydd â dwy system gyfreithiol gwbl ar wahân yn gweithredu mewn ardal benodol.

Mae yna broblemau beth bynnag, eisoes, i gyfreithwyr a barnwyr. Mae’n rhaid i gyfreithwyr fod yn ymwybodol, er y gallant fod yn gymwys mewn awdurdodaeth, fod yna wahanol setiau o gyfreithiau sy’n berthnasol yn yr awdurdodaeth honno; yr un yw’r sefyllfa ar gyfer barnwyr. Nid wyf yn credu—