2. 1. Debate on the Queen's Speech

Part of the debate – in the Senedd at 2:30 pm on 6 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Alun Cairns Alun Cairns The Secretary of State for Wales 2:30, 6 July 2016

(Translated)

Well, thank you, Madam Llywydd. It’s been a pleasure to listen very carefully to the debate.

Bu’n bleser gwrando ar ddadl sydd wedi bod yn barchus ac yn ddiddorol yn fy marn i. Nid oeddwn yn sylweddoli mai fi oedd y cyntaf i osgoi cael fy heclo, fel y nododd y Prif Weinidog. Ond wrth edrych o gwmpas, credaf fy mod yn adnabod y rhan fwyaf o’r bobl yn eithaf da—nid wyf yn adnabod pawb, ond gobeithiaf fod hynny’n gosod cywair ar gyfer y berthynas aeddfed y gall Llywodraeth y DU ei chael gyda Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn eu tro. Ac rwy’n benderfynol o barhau hynny fel deialog, felly hoffwn barhau â llawer o’r pwyntiau a godwyd yn yr ysbryd hwnnw.

Credaf fod ambell thema gyffredin ymhlith y materion a godwyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau sydd wedi siarad. Nid wyf wedi cael cyfle i fynd drwy bob un o’r pwyntiau a wnaed gan bob Aelod yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael. Ond os caf dynnu sylw at un neu ddau o’r pwyntiau a godwyd.

Mae’r cyntaf yn ymwneud ag Ewrop. Yn naturiol, credaf fod yna rai cwestiynau, rhai pryderon, ynglŷn â chyfeiriad polisi. Mae rhai’n synnu fy mod wedi dweud na fyddai erthygl 50 yn cael ei rhoi ar waith am ddwy flynedd o leiaf. Wel, mae’n eithaf amlwg na cheir Prif Weinidog newydd tan 9 Medi. Nawr, mae hynny rai misoedd ar ôl y refferendwm i adael yr UE. Mae’n amlwg na fydd y Prif Weinidog newydd yn rhoi erthygl 50 mewn grym yn syth, oherwydd byddant—ef neu hi—am ystyried y goblygiadau, a thrafod gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ac Aelodau Seneddol, o bob lliw’n wleidyddol, ynglŷn â’r dull o weithredu yr hoffent ei weld. Felly, mae hynny’n golygu y bydd nifer o fisoedd rhwng y refferendwm i adael yr UE a rhoi erthygl 50 mewn grym.

A dywedaf hyn yn gadarnhaol. Oherwydd, os oes barn wahanol yn y Cynulliad—yn amlwg, gorau po gyntaf yn ôl Neil Hamilton, a chredaf efallai fod y Prif Weinidog wedi dweud rhywbeth tebyg yr wythnos diwethaf, ei fod yn dymuno gweld erthygl 50 yn cael ei roi mewn grym cyn gynted ag y bo modd. Wel, os mai dyna farn y Cynulliad, credaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad yn arddel safbwynt ffurfiol, er mwyn gwneud hynny’n glir i’r Uned Ewropeaidd, ac i’r Prif Weinidog newydd, o ran ble y mae’n mynd.

I mi’n bersonol, credaf y byddai elfen o sefydlogrwydd, elfen o drafod gyda chenhedloedd Ewropeaidd unigol, er mwyn cryfhau ein sefyllfa, er mwyn cyrraedd sefyllfa lle bo gennym berthynas gref ag eraill, lle’r ydym yn deall bwriadau ac ewyllys cynghreiriaid o amgylch Ewrop, yn ffordd synhwyrol ymlaen. Ac yn y cyfamser, gallwn gryfhau’r Deyrnas Unedig, Cymru, a phob un o rannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, cyn cychwyn y trafodaethau hynny. Oherwydd, doed a ddelo, oni bai bod 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd i gyd yn cytuno, pan fydd erthygl 50 yn cael ei roi mewn grym, bydd y cloc dwy flynedd yn dechrau tician. Credaf y byddai’n sefyllfa synhwyrol er mwyn deall safbwyntiau Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â hynny. Nid fy lle i yw dweud wrthych beth i’w wneud, ond credaf y byddai hynny o gymorth o ran mewnbynnu pa un a hoffech i erthygl 50 gael ei roi mewn grym ar unwaith, neu eich bod o’r farn y byddai oedi yn fwy synhwyrol.

Y thema arall, o fewn yr amser sydd ar ôl, yw Bil Cymru. Mae llawer o sylw wedi cael ei roi i’r fframwaith cyllidol—mae’n well gennyf fi ei alw’n ‘addasiad Barnett’. Oherwydd, yn bendant, yr unig fodel sydd gennym a oedd yn bodoli mewn perthynas â sefyllfa debyg i hon, yw model fel Deddf yr Alban a basiwyd y llynedd. Yn naturiol, ni fyddai Senedd yr Alban yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol tan eu bod yn fodlon â’r fframwaith cyllidol. Credaf fod hynny’n naturiol. Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Prif Weinidog mai dyna’r safbwynt y byddwn yn disgwyl i’r Cynulliad ei arddel. Felly, gobeithiaf y byddai cyflwyno cyllid gwaelodol yn rhoi hyder.

Cyfeiriwyd at adroddiad Gerry Holtham a’r cyllid gwaelodol o 115 y cant fan lleiaf, ac mae lefel y gwariant yn uwch na hynny ar hyn o bryd. Mae’r cyllid gwaelodol o 115 y cant fan lleiaf wedi ei gyflwyno, ac unwaith eto, cafodd gefnogaeth Gerry Holtham, yn ogystal â llawer o gefnogaeth yn y gymuned ehangach. Mae hefyd wedi cyhoeddi rhai modelau y gellid defnyddio addasiad Barnett ar eu cyfer, ac mae hynny unwaith eto yn sefyllfa ddefnyddiol i fod ynddi. Felly, rwyf am i’r drafodaeth hon, a fydd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â’r Bil, barhau yn yr ysbryd hwnnw.

Roeddwn wedi gobeithio trafod llawer o bwyntiau eraill, ond yn anffodus, nid wyf wedi gwneud hynny. Ond o ran yr arian canlyniadol a ddaw yma, hoffwn danlinellu bod symiau canlyniadol HS2 yn bendant wedi cyrraedd y lle hwn, ac mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn derbyn hynny. Oherwydd arweiniodd symiau canlyniadol HS2 at gynnydd o 16 y cant mewn gwariant cyfalaf, gan ei fod yn swm canlyniadol o gyllideb yr Adran Drafnidiaeth. Felly, roeddwn yn awyddus iawn i danlinellu hynny.

Ac yn olaf, os caf ymateb i’r cwestiynau am fynychu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yma yn y Cynulliad, roeddwn dan yr argraff fod y Cadeirydd a minnau, drwy drafodaeth anffurfiol, wedi dod i drefniant, felly roeddwn yn synnu braidd ac yn siomedig o weld y feirniadaeth a fynegwyd yn y cyfryngau a’r wasg wedi hynny. Rwy’n hapus i barhau i drafod er mwyn cyrraedd sefyllfa sy’n gweithio i bawb ohonom, a gobeithio y bydd hynny’n cael ei dderbyn yn yr ysbryd y’i bwriadwyd. Diolch.