Part of 1. 1. Questions to the First Minister – in the Senedd at 1:57 pm on 12 July 2016.
First Minister, there are a number of adults across Wales who want to learn Welsh, fel y mae Siân Gwenllian wedi’i ddweud, gan gynnwys llawer o bobl yn fy etholaeth i, ac mae cymorth ariannol er mwyn eu galluogi i ddysgu'r iaith yn hynod o bwysig. Rwy’n meddwl tybed pa gymorth ariannol penodol yr ydych chi'n mynd i’w roi ar gael dros y blynyddoedd nesaf i gefnogi a meithrin yr iaith, yn enwedig mewn cymunedau fel fy un i, lle y ceir iaith fyw, ond mae angen dod â bywyd newydd iddi, yn enwedig i bobl sy'n symud i mewn i'r ardal o'r tu allan i’r cymunedau Cymraeg eu hiaith traddodiadol hynny.