11. 10. Debate: The First Supplementary Budget 2016-17

Part of the debate – in the Senedd at 6:44 pm on 12 July 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 6:44, 12 July 2016

(Translated)

Thank you very much, Llywydd. This first supplementary budget is the first opportunity to amend the budgetary plans for the current financial year. The plans were published and approved by the previous Assembly in March. I would like to take this opportunity to thank the new Finance Committee for its scrutiny work on this budget. Before too long, I will be responding to the Chair with additional information that was requested following my appearance before the committee.

The main purpose of this budget is to restructure the final budget of 2016-17 so that it corresponds to the new Government portfolios. This is crucially important in order to ensure the accountability of the Cabinet and to manage the Welsh block effectively. These changes have no net impact on the budget as a whole. The budget also allows us to demonstrate a few minor changes to the budget that arise from decisions made during the period of the previous administration.

Lywydd, mae’r addasiadau hyn yn cynnwys dyraniadau refeniw a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn, sef £10 miliwn mewn cyllid atodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, £2.3 miliwn o gyllid ar gyfer rheoli llifogydd, £1.3 miliwn o gymorth rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau yn ardal fenter Port Talbot, a £7.7 miliwn ar gyfer costau etholiadau Cynulliad Cymru. Mae'r gyllideb yn cynnwys dyraniadau ar gyfer cyhoeddiadau cyllid cyfalaf o filiwn o bunnoedd ar gyfer y cynllun lliniaru llifogydd yn Nhalybont, £5 miliwn ar gyfer ein cynllun rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, £2.5 miliwn ar gyfer gwaith atgyweirio i gamlas Aberhonddu a Sir Fynwy, a £0.5 miliwn ar gyfer gwelliannau draenio ar yr A55.

Gwnaed ymrwymiadau hefyd gan y Llywodraeth flaenorol o ran cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer cytundeb dinas- ranbarth Caerdydd a phrosiect Gweithredu dros Blant Cymdeithas Byw’n Annibynnol Abertawe (SAIL). Nid yw’r prosiectau hyn wedi eu hadlewyrchu yn y gyllideb hon, gan nad oedd cynlluniau wedi’u datblygu’n ddigonol i ganiatáu dyraniad. Bydd unrhyw ddyraniadau a wneir yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon yn cael eu hadlewyrchu yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn yr ail gyllideb atodol a gynllunir.

Mae'r gyllideb atodol hon hefyd yn adlewyrchu addasiadau i derfyn gwariant adrannol Cymru a wneir gan Lywodraeth y DU, megis symiau canlyniadol Barnett. Ers cymeradwyo'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth, rydym wedi cael addasiadau cyllid canlyniadol gwerth cyfanswm o £73.8 miliwn mewn arian refeniw a gwerth £12.6 miliwn mewn arian cyfalaf. Mae'r addasiadau hyn wedi eu hychwanegu at ein cronfeydd wrth gefn, o ystyried y cyfnod cythryblus ac ansicr yr ydym yn ei wynebu. Mae lefel y cronfeydd wrth gefn, o ganlyniad, yn uwch na'r arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae'n ddoeth, yn fy marn i, i gynnal cronfeydd wrth gefn ar lefel sy'n ein galluogi i ymateb i straen pellach posibl ar y gyllideb. Bydd unrhyw ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol, y byddaf yn ei chyflwyno yn y ffordd arferol, tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

Lywydd, mae'r cynlluniau diwygiedig a amlinellir yn y gyllideb hon, ar y cyfan, yn weinyddol eu natur, ond maent yn fan cychwyn cyllidebol angenrheidiol ar gyfer Llywodraeth newydd ac er mwyn rhoi eglurder i Aelodau'r Cynulliad. Bydd yr heriau ariannol y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol yn cael sylw yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, y byddaf yn ei chyflwyno yn y ffordd arferol ar ôl y toriad. A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi?