Part of the debate – in the Senedd at 7:05 pm on 12 July 2016.
Thank you, Presiding Officer, and thank you to everyone who has contributed to the debate. May I start by thanking the Chair of the Finance Committee once again for the report and for the recommendations? He’s highlighted a number of things in the report and I look forward to formally responding to the recommendations. I’d also like to thank Adam Price for telling us that Plaid Cymru will support this supplementary budget this afternoon. It is difficult, and I do understand it’s difficult, that as we move from one Assembly to another, there are some decisions that have been scrutinised in the previous Assembly, but it is, of course, up to this Assembly to decide whether they are content to proceed with the ideas considered by the previous Assembly. That’s why I brought this supplementary budget forward today.
Ystyriais bwynt Adam Price fel un nad oedd o angenrheidrwydd yn cefnogi'r system bresennol o ran cyfnewid cyllidebau, ond yn syml fel mater o awgrymu, gan mai dyma’r system sydd gennym a dyma’r system yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddi, yna rydym yn awyddus iddi weithio mor effeithiol â phosibl i Gymru. Rydym wedi dechrau cyfres llawer cynharach o drafodaethau gyda'r Trysorlys eleni, yn rhannol oherwydd, dan yr amgylchiadau o ansicrwydd yr ydym ynddynt, ein bod yn awyddus i gael y posibilrwydd gorau o drosglwyddo arian y gallai fod modd ei drosglwyddo i'r flwyddyn nesaf, gan ddefnyddio'r mecanwaith diffygiol, fel y nododd Mike Hedges, yr ydym ar hyn o bryd yn gweithredu oddi mewn iddo.
Cododd Nick Ramsay gyfres o bwyntiau a oedd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Rydym yn sicr yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod mor effeithlon â phosibl wrth leihau cost yr etholiadau. Rydym yn disgwyl i’r £7.7 miliwn yr ydym wedi’i neilltuo fod yn ddigonol ar gyfer y dasg. Mae'r rhan fwyaf o hynny—y bil gwerth £4 miliwn gan Swyddfa'r Post—yn gost sefydlog. Rydym yn gwybod hynny. Os na chedwir at y £7.7 miliwn yr ydym yn ei ddisgwyl yn y gyllideb atodol hon, byddwn yn sicr yn adrodd amdano yn yr ail gyllideb atodol.
Bydd gennym broses newydd ar gyfer craffu ar y gyllideb yr wyf yn gobeithio y gallwn gytuno arni gyda'r Pwyllgor Cyllid. Byddwn yn diweddaru'r protocol sydd gennym gyda’r pwyllgor hwnnw i adlewyrchu'r cyfrifoldebau newydd y bydd y Cynulliad hwn yn eu cyflawni ar ôl i ni ddod yn gorff sy’n codi trethi, yn ogystal â chorff sy’n eu gwario, o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Os byddwn yn gallu cytuno ar y broses newydd honno, bydd yn dechrau yn ystod hydref y flwyddyn nesaf a bydd yn ateb rhai o'r pwyntiau a gododd Nick Ramsay.
O ran olrhain dyraniadau yn well yn ystod y pumed Cynulliad, wel, yr egwyddor yw honno a amlinellwyd gan Mike Hedges. Rydym wedi cychwyn ar y llwybr hwnnw trwy gyflwyno’r gyllideb atodol gyntaf hon. Roeddwn i'n awyddus bod holl Aelodau'r Cynulliad, a'r rhai hynny y tu allan i'r Cynulliad sydd â diddordeb yn y materion hyn, yn gweld cyn gynted ag y bo modd y cyfochri newydd rhwng y cyllidebau a chyfrifoldebau portffolio. Pe byddai cyfrifoldebau yn newid o gwbl yn ystod pum mlynedd y Cynulliad hwn, yna byddwn yn gwneud ein gorau i weithredu’r cyfochri newydd hwnnw mewn ffordd sydd mor rhwydd â phosib i Aelodau ac i eraill weld sut y mae gwariant yn cael ei olrhain dros dymor y Cynulliad .
Gan droi at gwestiynau Mark Reckless, mae'r £2.5 miliwn ar gyfer camlas Aberhonddu a Sir Fynwy yn gydnabyddiaeth fod angen am atgyweiriadau ail-leinio a gwelliannau i'r gamlas. Y rhan fordwyol yng ngogledd y gamlas yw eisoes yr atyniad mwyaf poblogaidd ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nid yw'r rhan ddeheuol yn fordwyol ar hyn o bryd, ond dyna'r hyn y disgwylir i’r arian hwn yn rhannol fynd i'r afael ag ef. Nid wyf yn cydnabod y ffordd ddeuaidd yr awgrymodd yr Aelod bod arian ar gyfer llifogydd naill ai oherwydd newid yn yr hinsawdd neu oherwydd diffygion yn y ddarpariaeth bresennol. Byddwn yn sicrhau bod y £1.9 miliwn sydd wedi ei roi i ni i ymdrin â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 2015 yn cael ei ddefnyddio'n dda, fel y byddwn yn gwneud gyda gweddill y gwariant cyfalaf a amlinellwyd yn y gyllideb atodol hon ar gyfer gwaith atal llifogydd.
Cyn belled ag y mae Diamond yn y cwestiwn, nid yw hwnnw'n fater sydd wedi dylanwadu ar y gyllideb atodol hon, ond byddwn yn gweithio'n galed dros yr haf i feddwl sut y bydd y darn pwysig iawn hwnnw o waith yn cael ei ddatblygu, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wrth gwrs, fydd yn arwain hynny.
Yn olaf, dim ond i orffen drwy gytuno â Mike Hedges, er mai cyllideb atodol ar gyfer cymhennu yw hon, mewn nifer o ffyrdd, , mae ei phwysigrwydd yn ymwneud â sicrhau bod prosesau'r Cynulliad yn gweithio'n iawn cyn toriad yr haf, a sicrhau bod y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle y mae wedi ei gael i graffu ar gynigion y Llywodraeth yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef ac aelodau eraill o'r Pwyllgor Cyllid mewn ysbryd tebyg yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon.