Part of the debate – in the Senedd at 4:20 pm on 13 September 2016.
The introduction of this Bill marks a significant step in our tax devolution journey and progress in preparing for the first Welsh-specific taxes in almost 800 years. The Bill follows the passage of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016, which received Royal Assent in April. The Act provided the legal framework to collect and manage devolved taxes, including the establishment of the Welsh Revenue Authority—the authority that will undertake the collection and management functions for land transaction tax.
There has been extensive consultation with stakeholders about the content of this Bill and the shape of land transaction tax. I would like to formally thank all those who have contributed to its development. I value their continued involvement in informing the detailed work that still needs to be taken forward under this Bill.
Felly, Ddirprwy Lywydd, bydd y Mesur hwn yn sefydlu treth newydd ar drafodiadau tir yng Nghymru, a fydd yn cymryd lle treth dir y dreth stamp o fis Ebrill 2018.
Yn benodol, mae'r Bil yn nodi egwyddorion allweddol y Dreth Trafodiadau Tir yn Rhan 2, gan gynnwys ba fathau o drafodiadau a fydd yn esgor ar dâl Treth Trafodiadau Tir a phwy fydd yn gorfod ei dalu. Yn Rhan 3, mae'r Bil yn nodi sut y bydd y dreth yn cael ei chyfrifo a pha ostyngiadau fydd yn berthnasol. Mae Rhan 4 yn ymwneud â chymhwyso’r Bil mewn perthynas â phrydlesi a thrwyddedau, ac mae Rhan 5 yn nodi'r rheolau arbennig sy'n ymwneud ag amrywiaeth o bersonau a chyrff, megis partneriaethau neu gwmnïau. Mae Rhan 6 o’r Bil yn cynnwys y rheolau ynglŷn â llenwi ffurflen trafodiad tir a thalu'r dreth, ac mae Rhan 7 yn nodi mesurau penodol i fynd i'r afael ag osgoi talu trethi datganoledig.
Er mwyn ein harwain wrth ddatblygu ein polisïau a'n gweithdrefnau, mae Llywodraeth Cymru wedi dysgu o brofiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chyllid yr Alban. Mae'r Bil yn cadw elfennau allweddol treth dir y dreth stamp, gan gynnwys y dull o ymdrin â phartneriaethau, ymddiriedolaethau a chwmnïau, a sut i weithredu gostyngiadau yn y dreth ac eithriadau. Gwneir hyn er mwyn sicrhau cysondeb a sefydlogrwydd, sef yr hyn y mae busnesau wedi gofyn amdanynt, a byddai hefyd yn galluogi proses drosglwyddo ddidrafferth ar gyfer y farchnad eiddo.
Fodd bynnag, ceir rhai meysydd lle mae'r dreth trafodiadau tir yn wahanol. Bwriad y meysydd hynny yw gwella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a sicrhau pwyslais ar anghenion a blaenoriaethau sy'n unigryw i Gymru. Er enghraifft, mae'r Bil yn cyflwyno rheol gyffredinol ar atal osgoi symlach, a fydd yn berthnasol i bob treth yng Nghymru, ac un rheol gyffredinol a chadarn ar atal osgoi, a fydd yn berthnasol i bob gostyngiad o fewn y dreth trafodiadau tir ei hun. Bydd y dull hwn yn ehangu, yn symleiddio ac yn cryfhau deddfwriaeth bresennol yn ymwneud â threth dir y dreth stamp.
Ddirprwy Lywydd, mae trethi'n ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnynt. Bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu dull cadarn pryd bynnag y bydd o'r farn fod trethi sydd wedi'u gorchymyn yn ddemocrataidd yn cael eu hosgoi yn fwriadol yng Nghymru.
Bydd y Bil yn sefydlu fframwaith ar gyfer pennu cyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir. Byddwn yn dilyn strwythur treth ymylol yng Nghymru gan fod hyn yn decach ac yn fwy blaengar, a hefyd yn gyson â'r dull a ddilynwyd yn yr Alban, ac yn fwy diweddar ar draws y DU. Mae'r ddeddfwriaeth sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma yn cynnwys darpariaeth benodol sy'n ein hymrwymo i weithredu dull blaengar tuag at gyfraddau a bandiau—un o fanteision allweddol datganoli treth dir y dreth stamp yw'r cyfle i sicrhau deddfwriaeth deg.
Caiff cyfraddau a bandiau y dreth trafodiadau tir eu pennu drwy is-ddeddfwriaeth yn nes at fis Ebrill 2018, er mwyn adlewyrchu'r amodau economaidd a chyflwr y farchnad eiddo ar yr adeg honno. Caiff papur ymchwil sy'n cynnig cyd-destun ehangach cyfraddau a bandiau treth dir y dreth stamp yng Nghymru a Lloegr, a threth trafodiadau adeiladau a thir yn yr Alban, ynghyd â'r cyd-destun economaidd, ei gyhoeddi cyn bo hir. Rwy'n bwriadu iddo fod ar gael cyn trafodion Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid yn y gobaith y bydd hynny'n helpu'r pwyllgor wrth iddo ystyried y Bil. Mae Llywodraethau'r DU a'r Alban wedi gwneud newidiadau i'w trethi trafodiadau tir yn ddiweddar, yn benodol o ran y gyfradd ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol. Ymgynghorwyd â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni ynglŷn â'r newidiadau yn y DU, ac mae'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd yng nghamau olaf y daith drwy Senedd y DU. Cyhoeddodd Lywodraeth Cymru bapur gan y Trysorlys yn ceisio barn ynghylch cyfradd uwch ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol dros yr haf. Mae'r ymatebion a gafwyd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Dyma fater, ymysg amrywiaeth o rai eraill, Yr wyf yn edrych ymlaen at astudio barn y Pwyllgor Cyllid ar y mater hwn, ymysg eraill, pan gaiff adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ei gwblhau.
Ddirprwy Lywydd, y dreth trafodiadau tir yw'r dreth gyntaf o ddwy i'w datganoli i Gymru. Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn cyflwyno ail Fil i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sefydlu treth gwarediadau tirlenwi. Mae datganoli trethi i Gymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu system dreth sy'n symlach, yn decach ac sy'n cefnogi ein dyheadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, swyddi a thwf. Am y tro cyntaf ers bron i 800 o flynyddoedd, byddwn yn cymryd y camau cyntaf heddiw tuag at ddatblygu a gweithredu cyfundrefn dreth sy'n gweddu’n fwy uniongyrchol i amgylchiadau a phobl Cymru. Rydym yn bwriadu gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydweithio'n agos â'r rhai sydd fwyaf â’r cysylltiad mwyaf uniongyrchol â'r meysydd perthnasol, ac sy’n cadw mewn cof fod angen newid yn ddidrafferth o gyfundrefnau hirsefydledig i drefniadau newydd, a hynny yr un pryd â gweithredu cyfraith sy'n ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer datblygiad unrhyw nodweddion unigryw pellach yn y dyfodol. Drwy wneud hynny, rwy'n credu y gallai'r Bil wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at y broses graffu a fydd yn dilyn, ac at gyfraniad yr amryfal sefydliadau ac unigolion o fewn Siambr hon a thu hwnt, yr wyf yn gwybod y bydd ganddynt ddiddordeb mewn sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant. Diolch yn fawr.