Part of the debate – in the Senedd at 3:46 pm on 14 September 2016.
Well, Dai Lloyd has told us not to mourn the situation, but I have to say that I am still in mourning. I am still in mourning for those areas of rural Wales and our agricultural industry that now don’t know what their future holds.
Rwy’n dal i alaru dros y bobl hynny yn y cymunedau tlotaf a fyddai wedi tybio bod yr arian hwnnw yn dod iddynt, ond sydd bellach heb unrhyw syniad a fydd yn dod. Ac rwy’n galaru yn fwy na dim dros y wlad rwy’n ei charu lle rwyf wedi gweld rhaniadau’n ymddangos a lle gwelsom wyneb hyll anoddefgarwch yn ein cymunedau. Gwnaed addewidion a thorwyd addewidion. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn hefyd ac mae angen i ni wrando. Mae angen i ni wrando ar bobl Cymru a anfonodd neges atom. Maent wedi anfon neges atom, a rhan o’r neges honno oedd eu bod am adfer rheolaeth.
Rydym bellach yn byw mewn gwlad lle mae’r Bitcoin yn fwy sefydlog na sterling. Rydym yn byw mewn gwlad lle gallem weld 40c yr awr yn cael ei dorri oddi ar y cyflog byw oherwydd effaith gadael yr UE. Rydym wedi gweld tai a chyfranddaliadau bancio yn cael eu torri, ac rydym wedi mynd o fod yn bumed economi fwyaf y byd i’r chweched economi fwyaf, ac wedi colli ein statws AAA. Ond poenau cychwynnol gadael yr UE yn unig yw’r rhain; mae yna faterion nad ydym wedi dechrau rhoi sylw iddynt. Faint o ddeddfwyr â sgiliau ychwanegol fydd eu hangen arnom, hyd yn oed yng Nghymru, er mwyn datglymu’r holl offerynnau statudol sydd wedi eu hymgorffori yng nghymhlethdod ein deddfwrfa ein hunain? Pa mor hawdd fydd hi i bobl o Iwerddon lanio ar ein glannau yn Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro? Pa mor hawdd fydd hi iddynt?
Rwy’n meddwl bod Prif Weinidog Cymru yn gwneud y peth cwbl gywir: ei gwneud yn glir mai’r hyn rydym ei eisiau yw mynediad di-dariff i’r farchnad sengl, heb unrhyw rwystrau technegol eraill ychwaith. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ac yn arwydd da iawn ei fod wedi mynd i’r Unol Daleithiau i ddangos o ddifrif ein bod yn dal i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan. Ond mae’n fy nharo mai’r ffordd fwyaf pwerus o werthu ein gwlad mewn gwirionedd yw gofyn i’r bobl sydd eisoes yn gwneud busnes yma i weithredu fel llysgenhadon ar ein rhan, gan mai hyn a hyn yn unig y gall gweision sifil ei wneud yn fy mhrofiad i, ac os caf ddweud, hyn a hyn yn unig y gall gwleidyddion ei wneud. Yr arbenigwyr go iawn yw’r bobl sy’n gwneud busnes yma, ac nid oes rheswm pam na allwn ofyn iddynt fod yn llysgenhadon ar ein rhan. Mae’n digwydd yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, nid oes rheswm pam na allwn ofyn i bobl wneud hynny yma.
Y peth arall sy’n rhaid i ni ei wneud yn glir yw na allwn dderbyn gwlad lle byddem yn waeth ein byd fel rhan o’r Deyrnas Unedig o gymharu â bod wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pa fath o neges y mae hynny’n ei roi i ni, y bobl sydd am aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig? Nid yw’n ymwneud yn unig â’r cronfeydd strwythurol, mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth a thaliadau gwledig, mae’n ymwneud ag arian i’n prifysgolion, mae’n ymwneud â gorfodi rheolau ar safonau amgylcheddol a safonau ar gyfer defnyddwyr. Rydym wedi clywed heddiw fod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif y gallai Cymru golli dros £500 miliwn o arian o ganlyniad i hyn. Rhaid i ni beidio â derbyn hynny. Mae’n rhaid i ni ymladd bob cam o’r ffordd. Ac rydym yn gwybod hyd yn oed pe na baem wedi bod yn gymwys ar gyfer y cam nesaf o gronfeydd strwythurol Ewrop, yna byddai rhyw fath o fecanwaith tapro ar waith. Rydym eisiau’r arian hwnnw hefyd. Rydym eisiau’r arian hwnnw hefyd ac mae angen iddynt glywed hynny’n uchel ac yn glir yn y Trysorlys.
Ond yn anffodus, rwy’n credu’n wirioneddol y gallai’r bleidlais hon fod yn argyfwng i Gymru. Nid wyf yn gwybod os yw’n hynny eto. Ni fyddwn yn gwybod hyd nes y byddwn yn gwybod canlyniad y trafodaethau. Ond rwy’n meddwl bod angen i ni wrando ar yr hyn roedd pobl Cymru yn dweud wrthym, ac rwy’n meddwl eu bod yn rhoi neges i ni am effaith globaleiddio ar eu bywydau. Rwy’n credu eu bod yn dweud wrthym eu bod am gael rhywfaint yn fwy o reolaeth dros eu bywydau, ac rwy’n credu bod angen i ni gynllunio sut rydym yn grymuso’r bobl sydd eisiau adfer rheolaeth, a chynnig cyfleoedd go iawn iddynt gymryd rheolaeth yn eu cymunedau dros eu bywydau eu hunain. Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, byddwn yn gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n hunangyflogedig. Beth sydd ei angen arnynt? Sut y gallwn eu cefnogi yn y cymunedau hynny? Oes, mae angen i ni feddwl am strategaeth economaidd a strategaeth ddiwydiannol. Gadewch i ni edrych ar lefydd fel Ffrainc. Sut y mae eu cynhyrchiant gymaint yn well nag yn y DU? Mae yna fodelau gwych i ni eu dilyn yn rhai o’r gwledydd hynny. Ac mae’n rhaid i mi ddweud wrthych, yn ystod fy amser mewn diwydiant roedd yn amlwg iawn i mi, rydych chi’n iawn, nad yw pobl yn cael eu hysgogi i fuddsoddi yng Nghymru oherwydd grantiau. Nid dyna beth sy’n eu denu yma. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw amgylchedd sefydlog, rheoliadol ac economaidd. Rwy’n ofni mai dyna un peth nad oes gennym mohono ar hyn o bryd. Dyna ran o’r broblem rydym yn ei hwynebu. Felly, mae’n rhaid i’r strategaeth economaidd hon ystyried y ffaith fod hynny’n anhawster i ni ar hyn o bryd.
Rhaid i ni feddwl hefyd am swyddi’r dyfodol. O wythnos i wythnos, o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn, bydd technoleg yn cael gwared ar swyddi ac yn gwneud swyddi’n ddiangen yn y gwledydd hyn. Gadewch i ni geisio edrych ymlaen i weld sut swyddi fydd y rhain. Mae’n rhaid i mi orffen drwy ddweud bod rhan ohonof yn dal yn flin a rhan ohonof yn dal yn drist ac yn galaru am ddyfodol pan na fydd fy mhlant yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.