3. 3. Statement: The Programme for Government — ‘Taking Wales Forward’

Part of the debate – in the Senedd at 2:32 pm on 20 September 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:32, 20 September 2016

(Translated)

Thank you, Llywydd. It’s a pleasure to announce the publication of ‘Taking Wales Forward’, our programme for government for the next five years. It is a bold, strategic and ambitious programme, but also one that is focused unerringly on delivering real improvements in the everyday lives of the people of Wales. The document is clear, concise, and I want to ensure that everyone in Wales can pick it up and understand exactly what this Government will be doing for them over this Assembly term.

Fel Llywodraeth, rydym ni am gael economi gryfach, decach, gwasanaethau cyhoeddus gwell a diwygiedig, a Chymru unedig, gysylltiedig, a chynaliadwy, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn amlinellu sut y byddwn yn ymdrin â'r dasg o gyflawni’r amcanion hynny. Bydd yr Aelodau'n gweld, er ei fod yn canolbwyntio ar y prif addewidion ym maniffesto Llafur Cymru, mae hefyd yn cynnwys elfennau allweddol y cytundeb â'r Democratiaid Rhyddfrydol, y daeth Kirsty Williams yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn eu sgil, a hefyd y meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt gyda Phlaid Cymru cyn toriad yr haf. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld ei bod yn ddogfen wahanol iawn i'r un a gyhoeddwyd gennym bum mlynedd yn ôl. Rwyf wedi bod yn glir ers cael fy mhenodi’n Brif Weinidog y bydd y Llywodraeth hon yn gweithio'n wahanol i rai eraill. Rydym yn awyddus i weithio'n greadigol gyda'r holl bartneriaid ledled Cymru i ddod o hyd i atebion i'r heriau yr ydym yn gwybod sy’n ein hwynebu.

Yr ymrwymiadau a nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen' yw ein prif ymrwymiadau. Fodd bynnag, gwyddom na fydd y rhain ar eu pennau eu hunain yn cyflawni ein huchelgais ar gyfer ein gwlad. Gwyddom hefyd bod y modd yr ydym yn cyflawni pethau yr un mor bwysig â'r hyn yr ydym yn ei gyflawni—y gall ystyried rhaglenni ar eu pennau eu hunain leihau eu heffaith, neu hyd yn oed greu problemau mewn mannau eraill. Dyna pam na fydd ein hagenda ar gyfer y Llywodraeth hon yn cael ei phennu’n ddigyfnewid wrth gyhoeddi 'Symud Cymru Ymlaen', ac mae heddiw yn nodi dechrau cyfnod pan fyddwn yn ystyried yn fwy manwl sut y gallwn weithio gyda'n gilydd a newid gwasanaethau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau.

Bydd y pedwar maes a nodir heddiw yn sylfaen i’n hamcanion llesiant. Bydd datblygu pedair strategaeth drawsbynciol sydd wedi eu cydblethu yn ein galluogi i ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni er mwyn cael yr effaith fwyaf. Felly, mae 'Symud Cymru Ymlaen' yn ymgorffori ein hymrwymiad i fod yn Llywodraeth agored a chynhwysol, gan ddefnyddio ymagwedd ‘yr hyn sy’n gweithio’ wrth geisio cyflawni ein hamcanion cenedlaethol a rennir, a gweithio gyda'r bobl sydd yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Wrth gwrs, ers etholiadau'r Cynulliad, rydym wedi cael pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac rydym yn dal i fod ymhell o fod yn glir ynglŷn â’u goblygiadau llawn, yn enwedig o ran cyllid cyhoeddus. Fel Llywodraeth, roeddem o’r farn ei bod yn ddarbodus ac yn gyfrifol i dreulio toriad yr haf yn edrych o’r newydd ar y rhagamcanion ariannol sydd ynghlwm â'r rhaglenni sydd wedi eu cynllunio. Ond, ni fyddwn yn gadael i’r ansicrwydd hwn bennu telerau'r Llywodraeth hon. Heddiw, gallaf gadarnhau, Lywydd, ein bod yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiadau yn llawn. Y rhain oedd y polisïau y pleidleisiodd pobl Cymru drostynt, a'r rhain yw’r polisïau y byddwn yn eu cyflawni. Oes, mae yna benderfyniadau anodd o'n blaenau, a bydd angen i ni fod yn arloesol yn ein gwaith cyflawni, ond byddwn yn cadw at yr addewidion a wnaethom.

Bydd sicrhau buddiannau cenedlaethol Cymru yn nhrafodaethau hir a chymhleth yr UE sydd o’n blaenau, wrth gwrs, yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rwy’n hyderus bod gennym y tîm cywir wedi’i sefydlu i ddarparu’r arweinyddiaeth genedlaethol gref sydd ei hangen. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod hon hefyd yn Llywodraeth sydd eisoes yn cyflawni, a bydd yn parhau i gyflawni ein hagenda ddomestig hefyd—y materion bob dydd sydd bwysicaf i bobl yn eu bywydau bob dydd.

Lywydd, rydym am gael Cymru ffyniannus a diogel. Felly, byddwn yn torri trethi i 70,000 o fusnesau, yn creu banc datblygu Cymru, yn gweithredu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU, yn creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ansawdd uchel ar gyfer pob oed, ac yn cyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, rhai ohonynt trwy ein cynllun Cymorth i Brynu llwyddiannus sy’n parhau.

Rydym am greu Cymru iach a gweithgar. Felly, byddwn yn recriwtio ac yn hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn dyblu'r cyfalaf y gall pobl ei gadw wrth fynd i ofal preswyl, yn cyflwyno cronfa driniaeth newydd i alluogi pobl i gael cyffuriau arloesol yn gyflym, yn buddsoddi i leihau amseroedd aros, ac yn gwneud yn siŵr bod ysgolion yn rhoi cychwyn egnïol mewn bywyd i blant.

Rydym am greu Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu. Felly, byddwn yn buddsoddi £100 miliwn ychwanegol i wella safonau ysgolion, yn cyflwyno cwricwlwm newydd i roi i ni'r sgiliau y mae eu hangen arnom, yn hybu rhagoriaeth addysgu, yn ymestyn y grant amddifadedd disgyblion, ac yn sicrhau system hael a chynhwysfawr i gefnogi myfyrwyr Cymru.

Lywydd, rydym am gael Cymru unedig a chysylltiedig. Felly, byddwn yn darparu ffordd liniaru i'r M4, gwelliannau i'r A55, yr A40, a llwybrau allweddol eraill, system metro yn y de ac yng ngogledd ein gwlad, a band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Byddwn yn gweithio tuag at gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddiwygio llywodraeth leol, sy'n gweithio gyda chynghorau i ddarparu'r gwasanaethau gorau i bawb, waeth ble y maent yn byw yng Nghymru.

Lywydd, dim ond rhai o'n blaenoriaethau allweddol yn ‘Symud Cymru Ymlaen’ yw’r rhain, ac wrth gwrs ein blaenoriaethau yw gwella llesiant pawb. Yn yr ysbryd hwnnw, bydd pob un o'r rhain yn cael eu llunio a'u datblygu yn unol ag egwyddorion arweiniol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ystyried sut y gall pob un o'n camau gweithredu gael yr effaith fwyaf posibl ar draws yr ystod o bethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.

Ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig—y rhain yw’r meysydd lle y gallwn gael yr effaith fwyaf, ac y gallwn gyfrannu at bob un o'r amcanion cenedlaethol. Nid yw hon yn agenda i ni fel Llywodraeth yn unig, ond i'r sector cyhoeddus cyfan i’w chefnogi a’i chyflwyno.

Lywydd, mae’r rhaglen lywodraethu hon yn rhoi'r hyn y mae ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â'r heriau mawr sydd o'n blaenau, a gwneud y gwahaniaeth pendant i fywydau pobl y maent am ei weld. Mae’n ein galluogi ni i ymdrin â’r pum mlynedd nesaf â hyder, egni ac eglurder. Rydym wedi pennu’r uchelgais, ac rydym wedi nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud i’w chyflawni, a nawr byddwn yn bwrw ymlaen a’i chyflawni.