Part of the debate – in the Senedd at 5:21 pm on 27 September 2016.
A number of Members who have spoken have already welcomed the content of the draft charter and the steps forward that have been taken since the previous charter and the outcome of the constructive discussions that clearly have taken place. But, as we scrutinise the charter, I think it’s also worth bearing in mind that the charter will be in place for 11 years, which is two thirds of the time that we’ve had an Assembly in Wales. So, it will be in place for a long period of time. In this past period, the expectations of the people of Wales and what they expect from the BBC have changed and have increased, and we should anticipate that happening, too, over the ensuing period. So, I would like to see the BBC and the UK Government looking at the charter as a foundation to be built on and to provide greater support over this period, as the expectations in Wales develop.
I have a few specific comments I’d like to make. The appointment system for a Wales representative on the main board clearly is very encouraging, that that should happen jointly. People have already mentioned the role of Government and the broader role of the Assembly itself. But, it’s also worth bearing in mind, I think, that the process in the charter of appointing the chair of the board is still, on one level, in the hands of the Secretary of State at the Department for Culture, Media and Sport in Westminster, for reasons that may be understandable. But, that role is a pan-UK role, including England, Wales, Scotland and Northern Ireland. Therefore, over time, I would like to see that decision also taken in some sort of consultation with the devolved nations of the UK. I think that would be appropriate, given how devolution is developing and the broad-ranging role that that individual will have.
Mae nifer o Aelodau wedi siarad eisoes am swyddogaeth uwch Ofcom o ysgwyddo cyfrifoldeb newydd fel rheoleiddiwr y BBC. Mae Ofcom wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau hynny ym mis Ebrill. Bydd yn ofynnol iddo ddyfeisio trwydded weithredu sy'n ei gwneud yn glir ei bod yn ofynnol i wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yn dda, fel ag ym mhob rhan o'r DU.
Mae cynnig Plaid Cymru yn sôn am atebolrwydd y rheoleiddiwr newydd i Gymru, a byddwn yn ategu hynny’n llwyr, ond rwyf hefyd yn credu ein bod eisiau clywed gan Ofcom am yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, o ran ei weithrediadau ei hun a’i strategaeth ei hun ar gyfer cyflwyno hynny mewn ffordd ystyrlon. Mae ganddo bresenoldeb yng Nghymru. Sut mae'n rhagweld y bydd hynny’n newid? Mae Bethan Jenkins wedi cyfeirio at y datblygiad cadarnhaol iawn sef bod cynrychiolydd o Gymru ar brif fwrdd Ofcom. A’i dyna’i diwedd hi? A yw hynny'n ddigonol? Rwy'n credu ein bod eisiau clywed y bydd cyfle, a bydd gobeithio, pan ddaw Ofcom gerbron y pwyllgor, i archwilio rhai o'r materion hynny yn fwy manwl.
Mae'r mater llywodraethu yn sylfaenol i’r mater annibyniaeth, ac mae eraill wedi siarad am hynny, fel y mae’r cwestiwn am gyllido. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf digalon a welais yn ystod y cyfnod siarter diwethaf oedd gallu Llywodraeth y DU i'w gwneud yn ofynnol i'r BBC, mewn gwirionedd, ddefnyddio ei gyllid ei hun i dalu am rai o'i amcanion polisi—er enghraifft, o ran y ffi drwydded ar gyfer pobl hŷn a rhai prosiectau digidol. Nid wyf yn credu bod unrhyw beth yn y siarter a fyddai'n atal hynny rhag digwydd yn y cyfnod nesaf, sydd yn destun pryder.
Mae'r symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn lluosrifau o gannoedd o filiynau o bunnoedd, a'r rheswm y mae hynny’n bwysig yw ein bod wedi siarad am y diffyg yn y cyllid ar gyfer rhaglenni Saesneg yng Nghymru, sydd yn rhan fach iawn o'r mathau o symiau sy'n cael eu colli i'r BBC drwy’r mathau hynny o benderfyniadau. Felly, mae'n ystyriaeth berthnasol i ni, a byddwn yn hoffi gweld ystyriaeth o hynny yn y siarter ac, mewn gwirionedd, rhyw fath o neilltuo cyllideb i Gymru, os y gellir cyflawni hynny.
Yn olaf, ynglŷn â’r cwestiwn o bortreadu, y mae llawer ohonom wedi ei grybwyll, mae’r siarter yn cryfhau, os mynnwch chi, y rhwymedigaeth i adlewyrchu cymunedau amrywiol gwledydd y DU yn ei allbwn, ac rydym ni i gyd, yn amlwg, rwy’n credu, yn croesawu hyn ar ddau lefel: mae amrywiaeth a chynrychiolaeth ranbarthol a chenedlaethol yn gysylltiedig â’i gilydd, ond yn ddau beth gwahanol, a chredaf fod y ddau ymrwymiad yn bwysig iawn. Dyma un maes lle yr wyf yn credu yr hoffwn weld ymhelaethu ar yr ymrwymiadau a gweld eu cadernid yn cynyddu dros gyfnod y siarter. Rydym ni eisiau i'r BBC adlewyrchu Cymru i Gymru, ond yn bwysig, rydym eisiau iddi adlewyrchu Cymru i'r byd. Nid mater o roi i Gymru yr hyn y mae Cymru o’r farn sy’n ddyledus iddi yn unig yw hyn; mae angen iddo fod yn olwg ehangach ar hynny. A dweud y gwir, rhan o swyddogaeth y BBC yw cynrychioli, ar gyfer pob rhan o'r DU, adlewyrchiad cywir o wahanol gymunedau a gwledydd, ac ystyried hynny fel ased. Nid yw, fel petai, yn rhywbeth sy'n ddyledus i Gymru; mae'n gyfres llawer ehangach o rwymedigaethau ledled y DU, a chredaf y byddai'n dda gweld hynny’n cael ei adlewyrchu. Mae gennym yr egwyddorion cyffredinol yn y siarter, ond rwy’n credu yr hoffwn i weld y BBC yn cynnig manylion penodol i wireddu hynny.