Part of the debate – in the Senedd at 2:37 pm on 28 September 2016.
Thank you, Llywydd, and thank you for that, Bethan.
Mewn gwirionedd, gobeithiaf fod y Cynulliad wedi ei ysbrydoli gan y ffordd y mae’r pwyllgor hwn yn ceisio ymgysylltu’n ehangach, ac wrth hynny yr hyn rwy’n ei olygu yw bod ymgysylltu yn broses ddwy ffordd. Mae’n un o’r geiriau jargon hynny rydym yn eu cymryd yn ganiataol, mewn gwirionedd, ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â’r pwyllgor yn chwilio am wybodaeth neu syniadau o’r tu allan i’r adeilad hwn, ond mewn gwirionedd, mae’n ymwneud hefyd â chaniatáu i bobl Cymru ddylanwadu ar yr agenda yn y lle hwn.
Credaf efallai mai un o’r sylwadau a wnaed gan bob un ohonom ynglŷn â’r Cynulliad diwethaf—ac rwy’n gobeithio nad yw hyn yn swnio’n rhy feirniadol—ond yn sicr, wrth weithio ar bwyllgorau, roeddem yn tueddu i weld yr un bobl yn ymateb i’r ymgynghoriadau, yr un bobl yn dod i roi tystiolaeth, a’r dystiolaeth honno weithiau’n ymylu ar fod yn rhagweladwy. Felly, credaf fod hwn yn gam mawr ymlaen, a dyna pam y gobeithiaf y bydd yn ysbrydoli pwyllgorau eraill i edrych ar y ffordd y mae’r pwyllgor hwn yn gwneud ei waith, fel y gallwn glywed, mewn gwirionedd, gan bobl nad ydym yn clywed ganddynt fel arfer. Ac mae’n debyg mai dyma un o fy nghwestiynau anoddach i chi, Bethan, yn dilyn y datganiad hwn: pwy arall rydym yn gobeithio ymgysylltu â hwy, ac a yw hon yn rhyw fath o ymdrech gyffredinol i siarad â phawb yng Nghymru, neu a yw’r pwyllgor hwn yn mynd i weithio drwy gyfres o flaenoriaethau grwpiau newydd, ac efallai ardaloedd daearyddol newydd yng Nghymru nad ydynt o reidrwydd yn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn draddodiadol?
Croesawaf y ffocws a roesoch yn eich cyflwyniad yn awr ar y gwaith y byddwn yn ei wneud ar y cyfryngau. Yn amlwg, yn y tymor byr i’r tymor canolig, mae’n anochel y byddwn yn siarad cryn dipyn am y cyfryngau, gydag adolygiad S4C ar y gorwel. Gobeithiaf, wrth gwrs, y byddwn yn parhau i siarad fel Cynulliad am rôl y cyfryngau yn craffu ar y lle hwn. Un o’n rolau fel y pwyllgor, wrth gwrs, yw craffu ar y Llywodraeth; ni allwn adael hynny i’r cyfryngau. Ac efallai mai dyma’r adeg briodol i ddweud y byddai datganiad heddiw ar Cymru Hanesyddol wedi cael ei gyflwyno fel datganiad llafar ddoe yn hytrach na heddiw, gan y gallai fod wedi rhoi cyfle i ni graffu arnoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn hytrach na bod yn rhaid i mi holi Bethan yn awr. A gawn ni ofyn i’n pwyllgor graffu ar Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â materion syml megis a fydd dod â swyddogaethau masnachol at ei gilydd yn helpu mewn gwirionedd i sicrhau ffynonellau incwm newydd i Cadw ac Amgueddfa Cymru, a pham fod uno Cadw ac Amgueddfa Cymru yn cael ei ystyried o gwbl? Rwy’n sicr fod y Llywodraeth yn dal i ddod dros y frwydr yn y Cynulliad diwethaf ynglŷn â’r comisiwn brenhinol.
Felly, fy nghwestiwn mewn perthynas â hynny yw hwn: gyda chymaint o’r sefydliadau o fewn cylch gwaith y pwyllgor hwn naill ai’n rhan o’r Llywodraeth, neu hyd yn oed os ydynt yn gyrff hyd braich, yn cael eu hariannu’n sylweddol gan y Llywodraeth, tybed a fyddech yn ategu fy ngobaith y gallem weld rhai o’r cyrff hyn eu hunain yn dod gerbron ein pwyllgor yn hytrach na gorfod hidlo cwestiynau drwy Weinidog. Nid wyf yn gwybod os gallwch ateb y cwestiwn hwnnw heddiw, ond byddwn wrth fy modd pe baech yn dweud y byddech.
Yna, yn olaf, yn amlwg rydym yn siarad am gelfyddyd, treftadaeth a diwylliant yn aml yn ein pwyllgor, ac rwy’n meddwl tybed sut y mae’r pwyllgor yn mynd i weithio gyda phwyllgorau eraill ar faterion trawsbynciol. Yn amlwg, rydym yn sôn am y celfyddydau a’u defnydd mewn iechyd meddwl, efallai, neu adfywio treftadaeth. Nid wyf am i hynny ddisgyn oddi ar ein hagenda pum mlynedd yn y tymor hwy. Diolch.