11. 8. Debate: Government Priorities and the Legislative Programme

Part of the debate – in the Senedd at 5:31 pm on 4 October 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:31, 4 October 2016

(Translated)

In responding to the programme for government and the legislative programme, I do think that I must emphasise how dissatisfied I am at present with the Government’s response to the situation that’s arisen from the decision on Brexit. I think this is a real challenge, not only for the Labour Party but for the whole of the Senedd, and it’s a real challenge to the devolution process. Because unless we manage this in a way that appears to be robust to the public and shows that the interests of Wales are put first, before the interests of any party represented in this Senedd, then I do think that people will lose faith in what we can achieve as a Senedd and what we can achieve as a Government.

The fact that the Government, as Leanne Wood said, after some delays over the summer months in publishing its programme for government in order to deal with the fact that we are to withdraw from the European Union, then produces a document that is so flimsy is very disappointing indeed. It’s clear that the Government wants to avoid any attempt, as in the previous one, one has to be honest, to put any specific targets that can be used politically against them. They may be doing that because they feel uncertainties as a result of the decision on Brexit, but I do think it is disappointing, however, that the impact of that isn’t fully reflected in this document. There are a number of things that we would like to see the Government responding far more positively to, as Leanne Wood said in proceeding.

Rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau allweddol hefyd ynghylch yr ychydig ffeithiau a'r ffigurau sydd yn y rhaglen lywodraethu hon a beth y maent yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae ymrwymiad i fuddsoddiad o £100 miliwn i wella safonau ysgol, ond nid yw'n glir a yw hyn yn £100 miliwn ychwanegol, neu yn cynnwys y grant amddifadedd disgyblion sy’n cynyddu yn barod, ac a yw'r gost o leihau maint dosbarthiadau babanod, sydd hefyd yn ymrwymiad, wedi cael ei ystyried.

Rydym yn dal i ddisgwyl gweld mwy o fanylion am gynigion y Llywodraeth ei hun ar gyfer comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Lansiodd Plaid Cymru ein cynigion ddoe. Ac rwy’n meddwl bod pobl Cymru—. Os nad ydym yn mynd i gael Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—nid yw’n ymddangos bod hynny’n cael ei ffafrio gan y Llywodraeth hon, ond rwy’n meddwl bod pobl Cymru, serch hynny, yn disgwyl ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi busnes er mwyn ateb heriau Brexit a'r heriau sy'n ein hwynebu.

Rwy'n credu ei bod yn rhaglen lywodraethu denau iawn ar gyfer yr amgylchedd. Byddwn yn cytuno â’r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, ac rwy’n meddwl bod colli golwg ar darged 2020, er ein bod yn mynd i’w fethu beth bynnag, yn golygu ein bod wedi colli golwg ar alinio Llywodraeth â'r Ddeddf amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol i wir wasgu ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, a gweithio o ddifrif i wella gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau lleol hefyd. Mae cyfle, wrth gwrs, gyda'r penderfyniad i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, i alinio ein cynlluniau amaeth ac amaeth-amgylchedd at ei gilydd, i gael gwared ar rai gwahaniaethau ffug sy’n dod i'r amlwg yn anochel pan fyddwch yn ymdrin â model 28 gwlad, ac i gael rhywbeth sydd wedi ei deilwra’n fwy ar gyfer Cymru. Ond er mwyn cael hynny, mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod yn cael dau beth gan Lywodraeth San Steffan. Y cyntaf yw bod unrhyw ddeddfwriaeth amgylcheddol a physgodfeydd yn cael ei throsglwyddo yn y Ddeddf ddiddymu fawr, nad yw'n ymddangos ei bod yn diddymu unrhyw beth ar hyn o bryd—ond mae'n cael ei throsglwyddo i Gymru, lle y bo'n briodol, ac nid ydym yn gweld unrhyw gipio tir gan Lywodraeth San Steffan ar hynny. Yr ail elfen, rwy’n credu i ni ei drafod yn gynharach heddiw, yw nad ydym yn gweld unrhyw gipio ariannol ar yr arian y mae Cymru wedi’i haeddu ac y dylai Cymru ei gael o ganlyniad i ddychwelyd cyfraniad Llywodraeth y DU i'r Undeb Ewropeaidd. Oherwydd, fel y gwyddom, mae ein sector ffermio, sef y sector sy'n amddiffyn ein hamgylchedd, ac sy’n gwario yn ein heconomïau lleol, yn gyfrifol am rywbeth fel bron i 10 y cant o wariant PAC y Deyrnas Unedig. Byddai fformiwla Barnett sy'n cyfateb o gwmpas 5 y cant a byddem ar ein colled yn aruthrol.

Ar ôl dweud ein bod yn cefnogi'r rhaglen ddeddfwriaethol, rwy'n credu bod dau neu dri pheth sydd ar goll yma. Mae gan Blaid Cymru ddiddordeb mawr mewn defnyddio'r pwerau newydd yr ydym yn eu cael yn Neddf Cymru i wneud llawer mwy o ran lleihau gwastraff: gwaharddiad ar styrofoam, er enghraifft, fel y mae’r Ffrancwyr yn ei wneud; gwaharddiad ar ffyrc plastig; treth ar gwpanau coffi. Ni waeth beth, gallwn edrych arno yn awr—mae gennym bolisïau arloesol. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sicrhau ein bod o leiaf yn treialu yn y Cynulliad nesaf gynllun blaendal dychwelyd i Gymru, ac rwyf wir am i ni gyrraedd sefyllfa lle, yn hytrach na’r holl gŵynion, os mynnwch, sydd gennym weithiau am wastraff domestig, ein bod yn troi at y rhai sy'n rhoi gwastraff i ni yn ein system—y rhai sy'n gwerthu bwyd i ni a'r cynhyrchion sydd wir ei angen arnom. Ni ddylai fod yn wir yn y tymor hir, na ddylai, eich bod chi’n gallu prynu unrhyw eitem o siop yng Nghymru sydd wedi'i lapio mewn rhywbeth na ellir ei ailgylchu yng Nghymru? Yn syml, ni ddylai hynny ddigwydd—gydag un neu ddau eithriad eithafol o bosibl. Felly, rwy’n meddwl bod gwir angen i ni gau’r cylch.

Y ddwy Ddeddf arall, os gallaf sôn amdanynt yn fyr, y byddai gennym ddiddordeb mewn eu cyflwyno: un yw Deddf awtistiaeth, a byddwn yn amlwg yn cefnogi’r Bil anghenion dysgu ychwanegol wrth iddo fynd ymlaen, ond rydym yn edrych ar Ddeddf awtistiaeth ehangach yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn hefyd. A’r un olaf, y mae’n rhaid iddi ddigwydd wrth gwrs mewn ffordd drawsbleidiol a seneddol, ond sy’n bendant ar yr agenda i Blaid Cymru, yw Bil i ymdrin â chosb resymol, fel y’i gelwir—mae’n well gen i ddweud trin plant yn gyfartal gerbron y gyfraith, ac yn sicr byddwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif i sicrhau bod y Cynulliad yn cael cyfle i bleidleisio ar gynnig o'r fath yn ystod y pedair blynedd nesaf.