Part of the debate – in the Senedd at 3:39 pm on 4 October 2016.
The pressures that austerity produces are real, and there is real need also to build new resilience into local authorities. That is why reform is a requirement and not a choice. As far as reform is concerned, of course, there was much in the Draft Local Government (Wales) Bill that was published during the last Assembly that was welcomed by local authorities and their partners. However, as Members here will be well aware, there were important aspects of these previous proposals that did not find agreement.
Wrth geisio nawr, Ddirprwy Lywydd, creu consensws newydd, rwyf yn awyddus i berthynas Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol fod yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharodrwydd i weithio gyda'n gilydd a gwerthfawrogiad o swyddogaethau gwahanol ein gilydd o ran gwella canlyniadau i bobl Cymru. Wrth fynd ar drywydd y consensws newydd hwnnw a’r berthynas newydd honno, rwyf wedi ymweld â phob un o'r 22 awdurdod lleol ers ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn. Rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, yn ogystal â phleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad hwn. Rwyf wedi gwrando'n astud ar yr holl safbwyntiau hyn ar yr heriau a wynebir gan lywodraeth leol a’r dulliau gorau o fynd i’r afael â’r rhain.
Fel y rhagwelwyd, mae fy nhrafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol wedi dangos bod llawer yr ydym yn cytuno arno, gan gynnwys llawer o'r cynigion diwygio a nodwyd yn y Bil blaenorol. Rwy’n gobeithio ein bod bellach wedi cyrraedd lefel o gytundeb ar gyfer ffordd ymlaen ar y materion hynny lle nad oedd consensws o'r blaen. Yn y datganiad llafar hwn, rwy’n bwriadu nodi elfennau cyffredinol y ffordd ymlaen hon sy'n dod i'r amlwg.
Ar y cychwyn, byddai'r model hwn yn gweld cadw’r 22 awdurdod presennol fel yr haen ddemocrataidd o lywodraeth leol y caiff cynghorwyr eu hethol iddi yng Nghymru. Efallai y bydd rhai awdurdodau, er hynny, yn dymuno ymateb i amgylchiadau lleol drwy gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol. Rwy’n bwriadu gwneud hynny’n bosibilrwydd sydd ar gael iddynt a phan gaiff cynigion o'r fath eu cyflwyno, sy'n gwella cydnerthedd yr awdurdodau hyn, byddwn yn cynnig cefnogaeth gadarnhaol iddynt ac yn gweithio'n agos er mwyn helpu i sicrhau newid.
Er mai’r awdurdodau fydd y drws ffrynt y bydd dinasyddion yn parhau i gael mynediad at wasanaethau yn lleol drwyddo, mae fy nghynigion i’n gofyn am gydweithio mwy eang a chydunol rhwng awdurdodau mewn trefniadau rhanbarthol. Rwy’n bwriadu, felly, mynd ar drywydd dewisiadau ar gyfer lefel uwch newydd o weithio rhanbarthol gorfodol a systematig. Bydd hyn yn darparu cydnerthedd o ran staffio a chyllid ac yn golygu y bydd cynllunio a darparu gwasanaethau yn cael ei wneud ar y raddfa sy’n angenrheidiol i wella effeithiolrwydd. Mae hyn yn golygu mandadu’r gwasanaethau a'r trefniadau llywodraethu ar olion traed daearyddol cyson a rhesymoli’r trefniadau cydweithredol presennol.
Y dull a argymhellwyd amlaf i mi mewn trafodaethau dros yr haf oedd model dau ôl troed. Un yn seiliedig ar ddinas-ranbarthau, yn cwmpasu trafnidiaeth strategol, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd, ac un arall wedi'i gyfochri â byrddau iechyd ar gyfer gwasanaethau fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol a diogelu'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf feddwl agored ynglŷn â’r manylion o ran daearyddiaeth a swyddogaeth, ond yr wyf yn sicr bod yn rhaid i’r agweddau ymarferol hyn fod yn gyson â'r egwyddor o drefniadau mandadol a systematig. O ganlyniad, byddwn yn ystyried yr holl wasanaethau yn rhan o'n trafodaethau, ac yn arbennig y rhai hynny yr ydym ar y cyd o’r farn eu bod fwyaf mewn perygl mewn cyfnod o gyni.
Ddirprwy Lywydd, mae profiad yn y GIG wedi dangos bod cydwasanaethau cymorth yn gallu cynnig arbedion a gwelliannau o ran ansawdd. Rwy’n bwriadu archwilio, gyda llywodraeth leol, y swyddogaethau hynny a allai gael eu datblygu orau yn yr un modd. Rwyf yn dymuno bod yn glir heddiw ein bod, yn rhan o'r pecyn diwygio hwn, yn cychwyn ar y daith cydwasanaethau hwn gyda phenderfyniad newydd. Rwy'n barod i weld cynnydd dros amserlen synhwyrol ac ymarferol, ond mae’n rhaid gwneud cynnydd.
Yn olaf, gadewch i mi gydnabod y rhan a chwaraeir gan gynghorau tref a chymuned yn rhan o'r tirlun llywodraeth leol. Maent yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o gymunedau, ond yn fy ymweliadau ledled Cymru rwyf wedi fy nharo gan yr amrywiaeth enfawr o ran graddfa, cwmpas, gallu ac uchelgeisiau o fewn y sector. Rwyf yn bwriadu deddfu cyfres o drefniadau ar unwaith i helpu cynghorau tref a chymuned, fel y maent yn bodoli heddiw, i fod yn fwy effeithiol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â hyn, rwy’n bwriadu sefydlu grŵp annibynnol i gynnal astudiaeth gwreiddyn a changen ar swyddogaeth yr haen hon o lywodraeth yn y dyfodol ac i ddatblygu glasbrint ar gyfer cael y potensial mwyaf posibl o'r sector yn y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n ymwybodol bod llywodraeth leol wedi bod trwy gyfnod helaeth o ansicrwydd am ei dyfodol a’r effaith ddifaol y mae hyn wedi'i chael ar ysbryd pobl. Mae wedi bod yn rhan o fy nod wrth gymryd cyfrifoldeb am lywodraeth leol i ddatrys yr ansicrwydd hwn cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol. Cyhoeddais ym mis Mehefin y bydd cynghorwyr a etholir i gynghorau a fydd yn bodoli yn 2017 yn gwasanaethu am y cyfnod llawn o bum mlynedd hyd at 2022, gan ddarparu eglurder a sicrwydd i’r rhai sy'n sefyll etholiad y flwyddyn nesaf. Heddiw, rwy’n gallu cyhoeddi y bydd hefyd etholiadau i’r cynghorau hyn—heblaw am unrhyw rai sy'n uno’n wirfoddol—yn 2022. Mae hyn yn cadarnhau cylch etholiad pum mlynedd parhaol ac yn rhoi llwyfan sefydlog o 10 mlynedd i lywodraeth leol ar gyfer bwrw ymlaen â’r gwaith diwygio.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran yr her sy'n dal o'n blaenau. Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill dros y misoedd nesaf i ddatblygu manylion yr ymagwedd yr wyf wedi’i hamlinellu y prynhawn yma. Fy ymagwedd fy hun trwy gydol y broses fydd gweithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill ar yr hyn yr wyf yn ei gredu sy’n uchelgais a rennir i sicrhau dyfodol llwyddiannus i lywodraeth leol yng Nghymru. Yn gwbl sicr, ni all hyn gael ei ddatblygu a'i gyflwyno gan y Llywodraeth ar ei phen ei hun; mae rhannu arweinyddiaeth, gwleidyddol a swyddogol, yn hanfodol.
Erbyn troad y flwyddyn, rwy’n gobeithio y byddaf wedi nodi ffordd ymarferol ymlaen, gyda llywodraeth leol, eu hundebau llafur cydnabyddedig a phartneriaid eraill. Byddwn wedi dod yn nes at wybod sut y dylai'r ôl troed ar gyfer gweithio’n rhanbarthol edrych, y swyddogaethau sydd i'w darparu drwy weithio’n rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cysylltiedig. Byddwn hefyd yn ystyried sut y dylai'r system ariannu llywodraeth leol gael ei chyfochri er mwyn cefnogi'r rhaglen newid. Mae llawer iawn i'w wneud eto. Heddiw, rwyf wedi nodi dull newydd a’r blociau adeiladu ar gyfer diwygio, gyda'r nod o sicrhau llywodraeth leol gydnerth ac wedi’i hadnewyddu yng Nghymru.