Part of the debate – in the Senedd at 3:51 pm on 4 October 2016.
Thank you very much for those questions, and I thank the Member for what she said at the beginning about the discussions that happened over the summer with local authorities and other stakeholders in the field.
Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud am yr hyn a oedd ym maniffesto Plaid Cymru; byddwn yn gwybod hynny o’r nifer o arweinwyr cynghorau Plaid Cymru a ddywedodd wrthyf cymaint y maen nhw’n anghytuno â'r ffordd honno o symud ymlaen. [Torri ar draws.] Rwy'n credu ei bod yn swnio fel fy mod i wedi cyfarfod mwy na chi. Fodd bynnag, y pwynt yw fy mod i wedi bod yn awyddus iawn yn y trafodaethau yr wyf wedi eu cael i chwilio am syniadau lle ceir consensws y gellir ei ddatblygu o’u cwmpas, ac mae’r syniad hwn yr oedd Plaid Cymru wedi’i gyflwyno o'r blaen yn amlwg, yn y trafodaethau yr wyf i wedi’u cael, yn un y mae pobl wedi bod yn barod i weld rhinweddau y modd hwnnw o wneud pethau, ac rwyf wedi bod yn awyddus i gyflwyno hynny yn y fan yma y prynhawn yma.
Gofynnodd yr Aelod: beth yw pwrpas hyn i gyd; beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni drwyddo? A'r gair allweddol i mi, Ddirprwy Lywydd, yw cydnerthedd. Mae llawer o gytundeb ymhlith awdurdodau lleol am yr heriau sydd i'w hwynebu: heriau cyni; heriau cyllidebau’n crebachu a galw’n cynyddu; heriau recriwtio staff i swyddi arbenigol, ac yn y blaen. Rwy'n credu bod y model yr wyf i wedi sôn amdano y prynhawn yma yn ein galluogi i ddatblygu cydnerthedd newydd yn y system mewn tair ffordd wahanol. Rwy'n credu y bydd yn helpu i ddatblygu cydnerthedd ariannol economaidd, gan fy mod yn credu y bydd hon yn ffordd y byddwn yn gallu symud rhywfaint o arian i wasanaethau rheng flaen ac arbed arian mewn ffyrdd eraill yr ydym yn gwneud pethau. Rwy'n credu y bydd yn darparu cydnerthedd o ran staffio. Mae rhai gwasanaethau bregus iawn a ddarperir gan awdurdodau lleol bach iawn, lle y bydd gweithio ar sail ranbarthol yn caniatáu defnyddio staff mewn ffordd wahanol. Ac rwy’n credu y bydd yn darparu cydnerthedd ansawdd yn ogystal, gan fy mod yn credu, trwy weithredu ar ôl troed rhanbarthol, y bydd yn fwy posibl mewn gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, i gynyddu arbenigedd is-arbenigol penodol ymhlith ein staff, nad yw’n bosibl pan eich bod yn gweithredu yn gyfan gwbl ar un ffin llywodraeth leol.
Gofynnodd yr Aelod i mi am atebolrwydd yn y system. Mae'n gwestiwn pwysig, ac mae'n un y mae'n rhaid bod ei phlaid wedi rhoi ystyriaeth iddo wrth gyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau rhanbarthol. Mae gennyf ddau beth i'w ddweud am hynny y prynhawn yma, ond rwyf eisiau bod yn glir ei fod yn bwnc pwysig i ni barhau i siarad amdano wrth i ni fynd ymlaen i'r drafodaeth fanwl ar y cynigion hyn.
Yn gyntaf oll, yn fy nghynigion, mae swyddogaeth y cynghorydd lleol yn dod hyd yn oed yn bwysicach nag y bu hyd yn hyn. Rydym yn cadw pob un o'r 22 o awdurdodau lleol, rydym yn cadw aelodau etholedig lleol, a bydd gan yr unigolion hynny swyddogaeth bwysig yn y dyfodol wrth weithredu fel ffynhonnell o arweiniad ac arbenigedd i'w hetholwyr wrth sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau gwybod, pan fo penderfyniad yn cael ei wneud, eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniad hwnnw pan eu bod yn dewis gwneud hynny.
Yr ail beth i'w ddweud yw nad yw hwn yn fater newydd. Nid yw fel pe nad ydym erioed wedi cael trefniadau rhanbarthol yn y gorffennol. Pan oeddwn lawer yn iau, roeddwn yn cynrychioli Cyngor Sir De Morgannwg ar Awdurdod Heddlu De Cymru. Roedd yn awdurdod a oedd yn cyfuno de, canolbarth a gorllewin Morgannwg. Bob mis, roedd aelodau o gyngor de Morgannwg yn cael gofyn cwestiynau i mi am y ffordd yr oeddwn i wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau ar eu rhan. Felly, rydym wedi dod o hyd i ffyrdd o greu atebolrwydd a chyfrifoldeb mewn systemau a rennir yn y gorffennol ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hynny yn y dyfodol.
Ar y mater o integreiddio, mae'n gwestiwn pwysig iawn. Nid yw fy mhlaid i wedi rhannu barn ei phlaid hi mai'r ffordd orau o sicrhau integreiddio yw drwy ad-drefnu gwasanaethau mewn modd rhwygol, ond drwy gyfochri ffiniau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol, rwy’n credu y byddwn yn agor posibiliadau newydd a gwell ar gyfer gwasanaethau integredig yn y dyfodol. Dim ond un arf sydd ar gael i ni yw hyn. Rydym eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn mandadu cyllidebau ar y cyd, er enghraifft, at ddibenion gofal preswyl rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o 2018 ymlaen. Rwy’n meddwl bod y cynigion hyn yn o gymorth ar gyfer hynny.
Yn olaf, mae hi'n gwneud pwynt pwysig o ran gwasanaethau cefn swyddfa a chyflogaeth. Dyna pam nad yw’r hyn yr wyf wedi ei ddweud y prynhawn yma yn ailadroddiad uniongyrchol o'r hyn a ddywedodd comisiwn Williams. Rwyf eisiau gweld mwy o ddefnydd o wasanaethau cefn swyddfa gan fy mod yn credu mai profiad swyddfeydd cefn y gwasanaeth iechyd yw eich bod yn cael gwasanaethau o ansawdd gwell sy’n fwy effeithlon o ganlyniad, ond rwyf eisiau iddo gael ei wneud mewn ffordd ddatblygiadol ac organig a’n bod yn ystyried yn ofalus y ffaith fod llawer o awdurdodau lleol yn ffynonellau pwysig iawn o gyflogaeth mewn rhai rhannau o Gymru, lle mae’r cyflenwad o swyddi o'r fath yn gymharol brin.