Part of the debate – in the Senedd at 3:34 pm on 5 October 2016.
Of course, the responsibility lies on both sides. But the point I’m making is that she has only met the Minister of State once, and they have a responsibility, as a Welsh Government, to actually engage with the UK Government on this issue.
Mae trydydd pwynt y cynnig yma yn cydnabod pwysigrwydd gweithwyr mudol i’r economi wledig. Mae’n amlwg bod yn rhaid i farchnadoedd llafur a chynllunio’r gweithlu gael eu hystyried yn ofalus wrth gynllunio ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyfraniad enfawr a phwysig, nid yn unig i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru, ond i ddiwydiannau a sectorau gwledig eraill hefyd. Yn ôl CLA Cymru, yn 2015, roedd mwy na 30,000 o bobl a oedd yn wreiddiol o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth, ac roedd un o bob pedwar o weithwyr yn y sector twristiaeth a lletygarwch yn dod yn wreiddiol o du allan i’r Deyrnas Unedig. Ac fel Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli etholaeth sydd yn dibynnu’n drwm ar amaethyddiaeth a thwristiaeth, rwy’n derbyn yn llwyr y gallai newidiadau i bolisïau llafur mudo gael effaith negyddol enfawr ar economïau lleol yn fy ardal i, a dyna pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ffermio yng Nghymru a busnesau gwledig wrth wraidd unrhyw drafodaethau ynghylch Brexit, a dyma pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gwneud llawer mwy i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y materion hyn.
Felly, wrth gau, Ddirprwy Lywydd, rwyf am unwaith eto ailadrodd pa mor bwysig yw hi i Lywodraeth Cymru weithio’n fwy rhagweithiol i gefnogi cymunedau gwledig a’r diwydiant ffermio yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn camu fyny at y marc ac yn gweithredu ei chynlluniau ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig yn effeithiol ac yn effeithlon, fel bod ein cymunedau gwledig yn cael eu cefnogi yn llawn. Ac, felly, rwy’n annog Aelodau i gefnogi ein gwelliant. Diolch.