5. 4. Plaid Cymru Debate: Mental Health

Part of the debate – in the Senedd at 4:36 pm on 12 October 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:36, 12 October 2016

(Translated)

I want to focus my comments on services to children and adolescents. Of course, we can’t talk about improving child and adolescent mental health services without talking about CAMHS waiting times. We know that they are still far, far too long and haven’t been restored to the 2013 levels, never mind achieving the improvement that each and every one of us wants to see happening. Waiting times are, of course, important in terms of outcomes. The Gofal survey of mental health service users shows that there is a clear interrelationship between lengthy waiting times for treatment and the likelihood that someone won’t actually state that their mental health and well-being has improved. But, of course, waiting times is just one issue.

Nid yw ond yn crafu’r wyneb. Crafu’r wyneb yn unig y mae amseroedd aros—mae’n un agwedd. Mae iselder, gorbryder a hunan-niweidio wedi dod yn rhy gyffredin ymysg cenhedlaeth sydd â llawer o bryderon am bethau fel seiberfwlio, pwysau i gadw at bwysau corff delfrydol ac wrth gwrs, cael cynnig dyfodol o gontractau dim oriau, dyledion myfyrwyr enfawr a chaledi diddiwedd gan genhedlaeth o wleidyddion, gadewch i ni fod yn onest, nad ydynt wedi wynebu yr un o’r pethau hyn yn eu dydd. Rydym i gyd yn gwybod bod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran addysg ac iechyd, ac yn arbennig i atal rhai o’r problemau a all godi yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth hefyd yn dangos y gall blynyddoedd yr arddegau fod yr un mor allweddol i ddatblygiad person â’r blynyddoedd cynnar. Mae cyfraddau problemau iechyd meddwl yn codi’n serth yng nghanol a diwedd y glasoed. Ar gyfer y glasoed rhwng 11 a 16 oed, roedd cyfradd problemau iechyd meddwl yn 13 y cant ymhlith bechgyn a 10 y cant ymhlith merched. Mae’r ffigur hwn yn agos at gyfraddau oedolion o tua 23 y cant—chwarter—erbyn iddynt gyrraedd 18 i 20 oed. Gwyddom hefyd fod 70 y cant o blant a phobl ifanc sy’n dioddef problemau iechyd meddwl heb gael ymyriadau priodol ar oedran digon cynnar—cwbl annerbyniol.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi llawer o sylw i lansiad—neu ail-lansiad, efallai, Plant Iach Cymru ar gyfer plant hyd at saith oed, nid oes strategaeth ar gael ar gyfer gwella iechyd rhai yn eu harddegau, ond mae’r angen am un yn glir. Mae’r gyfradd farwolaethau ymhlith rhai yn eu harddegau rhwng 15 a 19 oed yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ac ni chafwyd unrhyw ostyngiad yn nifer y marwolaethau o anafiadau bwriadol ymhlith y grŵp oedran rhwng 10 a 18 oed ers tri degawd.

Mae angen cynorthwyo plant sydd ag oedolion â phroblemau iechyd meddwl yn eu bywydau hefyd wrth gwrs. Gall edrych ar ôl aelod o’r teulu sydd â phroblem iechyd meddwl arwain at effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl y gofalwr ei hun, ac wrth gwrs, dyna reswm arall pam rwy’n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod angen gwella cymorth i ofalwyr.

Felly, beth y gallwn ei wneud? Wel, mae’n amlwg fod gan ysgolion rôl allweddol i’w chwarae yma ac mae arnom angen dull o weithredu ar sail ysgol gyfan mewn perthynas â hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant. Mae angen dysgu disgyblion am broblemau iechyd meddwl posibl a all ddigwydd a’r camau y gellir eu cymryd i gadw’n iach. Mae arnom angen gwersi mwy rhagweithiol, wedi’u hanelu’n benodol at ferched mewn perthynas â chael delwedd iach o gyrff—ac nid merched yn unig, ni ddylai bechgyn ychwaith deimlo pwysau i gydymffurfio â delweddau afrealistig o gyrff. Mae angen i addysg ar berthnasoedd iach ddigwydd hefyd ac mae llawer mwy y gellid ei wneud wrth gwrs.

Wrth i mi ddod at ddiwedd fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio at y sefyllfa yng ngogledd Cymru’n benodol.

I want to refer specifically to the situation in north Wales as it is today. The reality is that the Betsi Cadwaladr health board is facing a debt of £106 million by the end of this three-financial-year period. They are expected, of course, to make right that debt, but cutting £106 million would lead to some 10 per cent less in expenditure next year. I have to say that the most recent minutes of the board show that 27 finance managers have refused to agree to cuts in their budgets, and this is the important point, of course—most of these managers work in mental health, and many work in the field of learning disabilities. Betsi Cadwaladr, of course, is Wales’s largest health board and is a board under special measures, and those cuts do mean that this important service will be under even greater pressure in ensuing years. Many are already complaining that it’s a cinderella service. Well, given that things are going to be even more difficult financially over the next few months, it is a cause for real concern for all of us, I’m sure. I would be eager to hear the response of the Cabinet Secretary to that particular situation in north Wales as he responds to this debate.