5. 4. Plaid Cymru Debate: Mental Health

Part of the debate – in the Senedd at 5:02 pm on 12 October 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:02, 12 October 2016

(Translated)

Thank you very much, and may I thank everyone who has taken part in the constructive discussion this afternoon for the contributions from across the Chamber? We’ve heard very powerful accounts. I’ll name Bethan Jenkins as one who brought the experiences of one constituent to our attention as part of this discussion in a very powerful way.

Felly, diolch i chi am eich holl gyfraniadau. Nid yw’n syndod fod llawer o gytundeb ar yr egwyddor hon ynglŷn â’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni o ran agweddau pobl, ac rwy’n croesawu cyfraniadau’r Aelodau o bob rhan o’r Siambr, ar draws y rhaniadau gwleidyddol. Yn ymarferol, o ran polisi, dywedodd Angela Burns fod y gwahaniaethau rhyngom yn seiliedig ar saith o eiriau. Rwy’n gresynu na fydd y Ceidwadwyr, ynghyd â Llafur ac UKIP, yn mabwysiadu’r her o geisio datganoli cyfraith cyflogaeth. Dywedodd Angela Burns ei fod yn bwyslais cenedlaetholgar. Rydym yn ceisio datganoli yn y maes hwn i bwrpas, a chyda bygythiadau ei phlaid yn San Steffan i hawliau cyflogaeth pobl, mae angen i ni sicrhau bod gennym yn ein dwylo—ni, pobl Cymru—y pwerau i warchod buddiannau’r Cymry, yn enwedig rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Felly, cytunodd UKIP â’r Ceidwadwyr; dewisodd Llafur hefyd, yn eu gwelliannau, wrthod y syniad o gymryd cyfrifoldeb yn y maes hwn ac ymddiried yn Llywodraeth Dorïaidd y DU yn lle hynny, er bod yr Aelod dros Ferthyr Tudful wedi cydnabod ein bod mewn cyd-destun gwahanol iawn yn dilyn y bleidlais ym mis Mehefin, ac yn wynebu bygythiad gwirioneddol, o bosibl, i rai o’r deddfau sy’n diogelu pobl yn ein cymdeithas, a deddfau sy’n diogelu gweithwyr â phroblemau iechyd meddwl.

Ond, gan roi’r mater pwysig hwnnw i’r naill ochr, mae’r ddadl hon yn dod â ni i gyd at ein gilydd yn briodol yn ein penderfyniad i fynd i’r afael â rhagfarn yn ein hagweddau tuag at iechyd meddwl. Ar y pwynt o anghytundeb, byddwn yn apelio ar Lafur a’r Ceidwadwyr i ailystyried eu gwelliannau i ddiogelu ein gweithwyr mwyaf agored i niwed, a byddwn yn dweud, ‘Byddwch yn ddewr a cheisio’r pwerau a fydd o bosibl yn gwneud ymladd y rhagfarn honno’n haws yn y dyfodol’.