Part of the debate – in the Senedd at 2:44 pm on 18 October 2016.
Thank you very much, Llywydd, for the opportunity to make a statement on the Welsh Government’s draft budget for 2017-18. I have laid the budget before the National Assembly this afternoon for consultation and scrutiny.
We live in a most uncertain period. After very careful consideration over the summer, I have decided that, in advance of the fiscal resetting promised by the Chancellor in the forthcoming November statement, it is only possible to place a one-year revenue budget before the National Assembly. A similar conclusion has been reached by finance Ministers in the Scottish Government and the Northern Ireland Executive. Against this difficult background, my aim has been to lay a budget which provides stability for our core public services over the next 18 months. But it is also a budget with ambition, a budget which makes progress on our programme for government and our promises to the people of Wales.
The budget before you today, Llywydd, is also the product of an agreement between the Government and Plaid Cymru. I wish to thank Adam Price and his team for the careful, constructive and detailed discussions which form the foundation of our agreement. It provides for a package of additional spending commitments, in addition to non-fiscal measures. These can be seen in the budget documentation available to Members. We have also agreed a forward work programme for the finance liaison committee for the next 12 months, and I look forward to embarking on these discussions.
Lywydd, gadewch i mi ddweud ychydig mwy am y cyd-destun y crëwyd y gyllideb hon oddi mewn iddo. Ers 2010-11, rydym wedi dioddef toriadau olynol i gyllideb Cymru. Erbyn diwedd y degawd, bydd ein cyllideb gyffredinol wedi gostwng 9 y cant mewn termau real—sy’n cyfateb i bron i £1.5 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rwyf unwaith eto yn ailddatgan heddiw yr achos macro-economaidd brys am roi'r gorau i'r polisïau cyni hunanorchfygol. O ganlyniad i’r polisïau hynny mae bygythiadau o doriadau pellach i ddod yn parhau, gan nad yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyd yn hyn sut y bydd yn dod o hyd i'r £3.5 biliwn o ostyngiadau adrannol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ym mis Mawrth. Gallai hyn ar ei ben ei hun olygu toriad arall o £150 miliwn ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru. Daeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid i’r casgliad yn ddiweddar bod Cymru yn wynebu 11 neu fwy o flynyddoedd o gwtogi eithriadol mewn gwariant gwasanaeth cyhoeddus.
Nawr, er gwaethaf hyn, ac effeithiau uniongyrchol refferendwm yr UE ar Gymru, bydd y gyllideb sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn: buddsoddi £240 miliwn ychwanegol yn y GIG yng Nghymru i fodloni’r twf parhaus mewn galw ac mewn costau gwasanaethau; bydd hyn yn sicrhau £111 miliwn ar gyfer prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn rhan o'n hymrwymiad i fuddsoddi mewn sgiliau a swyddi yng Nghymru, gan gynnwys £88.3 miliwn i greu 100,000 o brentisiaethau i bob oed; bydd yn cyflwyno toriad mewn treth o £100 miliwn i fusnesau bach; yn darparu’r setliad cyllido llywodraeth leol gorau ers blynyddoedd; yn cadarnhau ein buddsoddiad yn y gronfa gofal canolraddol; yn codi safonau ysgolion drwy fuddsoddiad o £20 miliwn y flwyddyn nesaf; yn diogelu ac yn cynyddu cyllid ar gyfer y grant amddifadedd disgyblion; yn galluogi bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu cynnig gofal plant mwyaf hael y DU ar gyfer rhieni sy'n gweithio. Ac, yn ychwanegol at y £240 miliwn a nodwyd eisoes, byddwn hefyd yn darparu £16 miliwn y flwyddyn nesaf er mwyn i’r GIG allu sefydlu cronfa driniaeth newydd, a fydd yn sicrhau bod triniaethau newydd ac arloesol ar gael ar gyfer clefydau sy'n bygwth bywydau ac yn newid bywydau i’r holl bobl sydd eu hangen yng Nghymru. Byddwn hefyd yn dyrannu £4.5 miliwn i godi'r terfyn cyfalaf fel y gall pobl gadw mwy o'u cynilion bywyd wrth fynd i ofal preswyl, fel yr addawyd ym maniffesto fy mhlaid.
Mae ein cytundeb â Phlaid Cymru yn golygu y bydd buddsoddiadau ychwanegol pellach ar gyfer gwasanaethau iechyd—£1 miliwn ar gyfer gwasanaethau gofal diwedd oes, gwerth £1 miliwn ar gyfer anhwylderau bwyta a gwasanaethau trawsryweddol, a £7 miliwn yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn y gyllideb er mwyn buddsoddi rhagor mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol.
Lywydd, er mai cyllideb refeniw am un flwyddyn yn unig yr oedd yn ddoeth ei gosod, rwyf wedi penderfynu ei bod yn bosibl nodi cynllun cyfalaf dros bedair blynedd. Bydd neilltuo’r rhan fwyaf o'r cyfalaf sydd ar gael yn rhoi hyder a sicrwydd i'r sector adeiladu, busnesau a buddsoddwyr, ac yn cefnogi pobl i wneud y penderfyniadau gorau. Byddwn yn darparu dros £1.3 biliwn dros y pedair blynedd nesaf i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yma yng Nghymru yn unol â'r ymrwymiad yn ein maniffesto. Byddwn yn buddsoddi mwy na £500 miliwn o gyfalaf confensiynol yn ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gwerth £2 biliwn, ac yn defnyddio modelau cyllid arloesol newydd i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu’r Ganolfan Ganser Felindre arbenigol newydd, yn ogystal â deuoli'r A465.
Mae'r cyllid cyfalaf wedi cael ei neilltuo mewn cronfeydd wrth gefn i ddarparu ffordd liniaru newydd yr M4 erbyn 2021, yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus y flwyddyn nesaf. Mae bron i £370 miliwn yn y gyllideb gyfalaf dros y pedair blynedd nesaf i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer metro de Cymru, ac rydym yn buddsoddi i ddatblygu cynigion metro ar gyfer y gogledd hefyd. Bydd pymtheg miliwn o bunnoedd yn y rhaglen gyfalaf iechyd ar gyfer 2017-18 yn cael ei fuddsoddi i wella diagnosteg, fel yr adlewyrchir yn ein cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru.
Lywydd, mae’r datganiad hwn wedi canolbwyntio ar gynlluniau’r gyllideb ar gyfer y dyfodol, ond rydym hefyd yn gwybod bod pwysau gwirioneddol ar rai o'n gwasanaethau craidd yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Rwy'n disgwyl gallu nodi rhai o'r pwysau yn ystod y flwyddyn hynny. Fodd bynnag, bydd angen cydbwyso ein hymateb i'r materion hynny â'r hyn y bydd datganiad yr hydref y Canghellor yn ei olygu i Gymru. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynlluniau hyn wrth iddynt ddatblygu.
Felly, Lywydd, cyllideb ar gyfer sefydlogrwydd ac uchelgais yw hon. Mae'n buddsoddi ar gyfer heddiw ac yn paratoi ar gyfer yfory. Bydd yn ein helpu i symud ein GIG ymlaen, i godi safonau ysgolion, i weithredu'r pecyn diwygio addysg mwyaf y mae Cymru wedi’i weld ers y 1940au, a bydd yn sicrhau y gall ein partneriaid llywodraeth leol barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol. Mae hon hefyd, Lywydd, yn gyllideb ar gyfer uchelgais, buddsoddi yng Nghymru, mewn seilwaith hanfodol newydd, mewn tai, mewn trafnidiaeth, mewn swyddi ac yn ein ffyniant yn y dyfodol. Mae'n gyllideb sy'n symud Cymru yn ei blaen.