Part of the debate – in the Senedd at 3:03 pm on 18 October 2016.
First of all, I would like to thank the finance Secretary for his statement today and for the phone call that I received from him earlier too, but most of all, for the process of discussion that we went through over a period of months over the summer. Of course, the agreement between Plaid Cymru and the Government is testament to those mature discussions that we could use as a foundation for the statement that he has just given. Of course, there was compromise—it is an integral part of any discussion between two parties—but may I pay tribute to him for his constructive, creative, wise and considered approach to these negotiations? It is an agreement that we are very proud of in Plaid Cymru—the biggest ever deal between the Welsh Government and any opposition party: £119 million for Plaid Cymru manifesto pledges, the priorities that reflect the ambition of Plaid Cymru in terms of scope and substance, but even more importantly, ones that will lead to real improvements in the lives of people in all parts of Wales; £30 million for higher and further education, and I was pleased to see Paul Davies welcome that; £50 million for the tourism sector that we heard mention of; and an additional £5 million for the Welsh language and so on. The list is too long for me to go through it in full, but certainly it does represent an excellent deal for the people of Wales.
Mae'r cytundeb yn cyflawni llawer o'n hymrwymiadau allweddol fel plaid, a nodwyd yn y maniffesto yr oedd pob Aelod a etholwyd fel aelodau Plaid Cymru yn yr etholiad Cynulliad hwn yn ei gefnogi. Dyma’r mandad a roddwyd i ni gan gannoedd o filoedd o'n cyd-ddinasyddion. Efallai fy mod yn aralleirio rhywun sydd wedi bod yn fentor gwleidyddol i mi trwy ddweud ei bod yn bwysig bod Plaid Cymru yn gwneud defnydd llawn o'i sefyllfa bob amser i sicrhau gwelliannau gweladwy i fywydau pobl yng Nghymru. Dyna beth yw gwleidyddiaeth ddemocrataidd, yn y pen draw; nid ceisio denu clod a chwyno am fanion o’r ymylon, ond cyflawni gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru. Yn aml, mewn gwleidyddiaeth— [Torri ar draws.] Yn aml mewn gwleidyddiaeth, gallwn wneud mwy pan fyddwn yn gweithio ar draws ffiniau pleidiau, pan fyddwn yn edrych am y tir cyffredin hwnnw ac yn croesawu’r cyfle hwnnw i gyflawni, gyda'n gilydd, y math o newidiadau y mae pobl Cymru eu hunain yn dymuno eu gweld.
Wrth gwrs, bydd agweddau ar y gyllideb ehangach y byddwn yn anghytuno â nhw. Byddwn yn dymuno trafod a diwygio’r drafft, ac mae proses y gyllideb, wrth inni fynd drwy'r broses graffu ar lefel pwyllgor ac ar lawr y Cynulliad, yn rhoi cyfle i bob un ohonom wella’r gyllideb ddrafft. Bydd ein plaid ni, ynghyd â rhanddeiliaid eraill yn y gymdeithas ehangach yng Nghymru, yn dymuno bod yn rhan o'r ymgysylltu ehangach hwnnw hefyd.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, yn fyr. Mae eisoes wedi cyfeirio at ddatganiad yr hydref. Mae llefarydd cyllid y Blaid Geidwadol wedi cyfeirio at y 'tagu' yr ydym yn ei wynebu. Wel, os ydym yn sôn am arian cyhoeddus, mae'r tagu go iawn yn cael ei weithredu gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sydd wedi ein gadael, mewn gwirionedd, â chyni a Brexit caled; gallai fod yn gyni ysgafn, ond nid wyf yn argyhoeddedig o hynny. Dyna'r tagu. Dyna’r cyd-destun anodd yr ydym yn ei wynebu. Ond, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy am effeithiau gwahaniaethol posibl datganiad yr hydref o ran y cyllidebau refeniw neu gyfalaf, ac efallai rhoi rhywfaint mwy o fanylion i ni am sut y bydd y newidiadau, a allai fod angen eu rhoi ar waith o ganlyniad i ddatganiad yr hydref, yn effeithio ar ein proses o adolygu yma?
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai un o nodweddion cadarnhaol ac unigryw y cytundeb hwn ar gyfer y gyllideb, gan ei fod mewn gwirionedd wedi’i ymwreiddio yn rhan o broses ehangach gyda’r pwyllgor cyswllt ar gyllid a'r compact ehangach, yw ei fod hefyd yn cynnwys blaenraglen waith y tu hwnt i gytundeb y gyllideb. Un o'r meysydd yr ydym yn awyddus i’w archwilio gyda’n gilydd yw’r maes pwysig hwn o wella effeithiolrwydd, y cyfeiriwyd ato, ac arbedion effeithlonrwydd yn y sector cyhoeddus, yn gyffredinol, sy'n gwbl hanfodol, wrth gwrs, os ydym am allu ymdrin â rhai o'r heriau ariannol a'r pwysau eraill ar wasanaethau cyhoeddus y byddwn yn eu hwynebu. Yn olaf, byddwn yn cael datganiad ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol, felly nid wyf am ymyrryd yn ormodol yn y pwnc hwnnw. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwariant cyfalaf o'i gymharu â dechrau'r degawd hwn. Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cyllid at rai o'r ffynonellau arloesol o gyllid y mae’n eu harchwilio er mwyn llenwi'r bwlch hwn, fel y gallwn barhau mewn gwirionedd i gynyddu a chyflymu’r cynnydd yn y buddsoddiad mewn seilwaith. A wnaiff ef ddweud ychydig mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i symud hynny ymlaen?