Part of the debate – in the Senedd at 3:28 pm on 18 October 2016.
Thank you very much, Simon Thomas, for those questions. I look forward to the process of scrutiny. I acknowledge that Members won’t yet have had an opportunity to look through the budget narrative that I published this afternoon, but I hope that more details about the things that Simon Thomas has raised will be available there. I can say this afternoon that Supporting People will not face any cut in its budget.
Nid yw wedi bod yn bosibl diogelu’r 1 y cant, a oedd yn un o nodweddion tymor diwethaf y Cynulliad, eto yn y tymor Cynulliad hwn, ond ceir buddsoddiadau sylweddol iawn ym maes addysg. Ceir £20 miliwn ar gyfer gwella addysg yn gyffredinol yn rhan o'r ymrwymiad o £100 miliwn a wnaethom fel Llywodraeth, a bydd y cyllidebau hynny sydd yn rhan o'r grant amddifadedd disgyblion, a oedd yn rhaglen â therfyn amser iddi, yn cael eu parhau y flwyddyn nesaf. Bydd bron i £90 miliwn ar gael bellach ar gyfer y dibenion pwysig iawn hynny.
Cyn belled ag y mae’r M4 yn y cwestiwn, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais, mae’r arian y bydd ei angen ar Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer dibenion blwyddyn nesaf ar gael iddo drwy ei Brif Grŵp Gwariant ei hun, ond mae'r rhan fwyaf o'r gwariant a allai fod ei angen ar gyfer yr M4, yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, yn cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn i wneud yn siŵr y gellir gweld bod yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal gyda'r annibyniaeth y mae arnom angen iddo ei gael.