Part of 2. 2. Questions to the Cabinet Secretary for Finance and Local Government – in the Senedd at 2:00 pm on 19 October 2016.
I thank Sian Gwenllian for her initial comments on funding for local authorities in the next financial year. Of course, I recognise the fact that there is £25 million in that budget following the agreement made between the Government and Plaid Cymru.
O ran y fformiwla, rwyf wedi dilyn y confensiwn a ddilynwyd gan Weinidogion llywodraeth leol ers llawer iawn o flynyddoedd yn y Cynulliad hwn. Rwy’n cymryd cyngor y grŵp arbenigol a sefydlwyd i roi cyngor i ni ar y fformiwla. Mae’r grŵp hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr—mae arweinydd Gwynedd yn aelod o’r grŵp hwnnw, ac arweinwyr cynghorau eraill—ynghyd ag arbenigwyr yn y maes. Ac rwyf wedi dilyn cyngor y grŵp hwnnw. Felly, dyma dair ffordd y cafodd y fformiwla ei newid eleni: o ganlyniad i’w cyngor, mae wedi’i diweddaru i ystyried yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae wedi’i diweddaru i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgolion, ac mae wedi dechrau ystyried y cyngor diweddaraf mewn perthynas â gwariant ar wasanaethau cymdeithasol. Mae’r ffordd y câi gwariant gwasanaethau cymdeithasol ei negodi drwy’r fformiwla wedi’i diwygio’n helaeth. Cyngor yr is-grŵp oedd gweithredu hynny dros gyfnod o ddwy flynedd. Rwyf wedi cymryd y cyngor hwnnw. Bydd yn cael ei roi ar waith a’i gyflwyno’n raddol yn y ffordd honno.