Part of the debate – in the Senedd at 4:30 pm on 19 October 2016.
Thank you, Deputy Presiding Officer. It’s a pleasure to have an opportunity to open and lead this debate, which calls on the National Assembly for Wales to establish a youth parliament for Wales. I want to say thank you to all parties in the Chamber for the support that has been shown for this motion.
Ddirprwy Lywydd, mae gan y Cynulliad hwn draddodiad balch o gefnogi plant a phobl ifanc. Ers ei sefydlu yn 1999, cafwyd deddfwriaethau nodedig a phenderfyniadau sydd wedi gosod Cymru ar y blaen yn fyd-eang o ran hyrwyddo lle plant a phobl ifanc yn ein cenedl. Ym mlynyddoedd cynnar y Cynulliad hwn, rhoddodd y penderfyniad i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc y sefydliad hwn ar lwybr a arweiniodd y ffordd i wledydd eraill y DU. Roedd y gefnogaeth unfrydol i greu swydd comisiynydd plant i Gymru er mwyn hyrwyddo’r hawliau hynny yn gam pwysig. Yn 2001, Cymru oedd y wlad gyntaf un yn y DU i benodi comisiynydd plant—person gwirioneddol annibynnol i ddwyn Llywodraeth Cymru, y Senedd hon ac eraill i gyfrif, ac i sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer ein dinasyddion ifanc. Yna, yn 2011, aethom ymhellach, gan ddeddfu i ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng nghyfraith Cymru, a gosod dyletswyddau ar Weinidogion i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac yna, yn 2014, ymestyn y dyletswyddau hynny i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Confensiwn.
Rydym wedi cefnogi datblygiad cynghorau ysgol i roi mwy o lais i blant a phobl ifanc yn y ffordd y caiff eu hysgolion eu rhedeg, ac rydym wedi annog pobl ifanc i ddefnyddio proses ddeisebau’r Cynulliad i fynegi pryderon ac i ymgyrchu dros newid. Mae’r rhain i gyd yn gyflawniadau arloesol y gallwn fod yn falch ohonynt. I’w gwneud yn fwy arbennig byth, cawsant eu cyflawni gyda chefnogaeth drawsbleidiol. Nid yn unig ein bod wedi mabwysiadu polisïau ac wedi deddfu ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc, ond mae pob un o’r pleidiau yn y Siambr hon hefyd wedi mynegi ei chefnogaeth i ymgysylltu â phobl ifanc. Mae ACau unigol, drwy ymweliadau ysgol a chyfarfod â phobl ifanc yn eu hetholaethau, drwy ymweld â cholegau ac ymgysylltu â mudiadau ieuenctid, er enghraifft, i gyd wedi gwella’u hymgysylltiad. Rydym wedi cefnogi gwaith ardderchog Comisiwn y Cynulliad hefyd yn ymgysylltu â phobl ifanc yn ein hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion. Mae timau ymgysylltu’r Cynulliad wedi cyflwyno miloedd o sesiynau addysg i filoedd o bobl ifanc ar draws y wlad, yn eu hysbysu am ein gwaith fel Cynulliad ac yn eu hannog i gymryd rhan yn yr hyn a wnawn. Maent hefyd wedi cynorthwyo rhaglen bwyllgorau’r Cynulliad, i hwyluso ymarferion rhoi tystiolaeth gyda phlant a phobl ifanc er mwyn eu galluogi i gyfrannu at ein gwaith. Cofiaf, er enghraifft, y gweithgareddau ymgysylltu ardderchog a gafodd y cyn Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad blaenorol gyda phobl ifanc mewn perthynas â’n hymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, neu ‘anterth cyfreithiol’ fel y’u gelwir.
Mae’r Comisiwn, wrth gwrs, hefyd yn rhoi cymorth gyda chostau cludiant i ysgolion ac eraill i’w galluogi i ymweld â’r Senedd. Mae pob un o’r pethau hyn yn enghreifftiau cadarnhaol iawn o ymgysylltiad â phobl ifanc, ac mae angen iddynt barhau. Maent yn helpu i ddangos sut rydym yn ceisio cydymffurfio â gofyniad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i barchu barn y plentyn. Ond er gwaethaf y llwyddiannau pwysig hyn, mae ein henw da fel sefydliad wedi cael ei lychwino yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil absenoldeb senedd ieuenctid yng Nghymru. Wrth gwrs, nid yw bob amser wedi bod felly. Yn ôl yn 2003, sefydlwyd y Ddraig Ffynci, Cynulliad plant a phobl ifanc, gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru. Cafwyd croeso gan bawb i’r llwyfan a grëwyd i blant a phobl ifanc allu trafod eu pryderon a lleisio’u barn ac ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig ar bob lefel o lywodraeth. Gweithiodd y Ddraig Ffynci yn ofalus iawn i fod yn gynhwysol ac i fod yn gorff cynrychioliadol a estynnai allan at gymunedau ledled Cymru ac a oedd yn sicrhau bod pobl ifanc mewn grwpiau anodd eu cyrraedd yn cael eu clywed hefyd. Roedd yn ymwneud yn dda â seneddau ieuenctid eraill yn y DU, yn Ewrop a thu hwnt, ac yn fuan, daeth yn sefydliad i droi ato er mwyn ceisio barn plant a phobl ifanc. Ac wrth gwrs, ymgysylltai’n dda â Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau ledled y wlad.
Roedd y Ddraig Ffynci yn llwyddiant. Trafodai faterion sy’n peri pryder i bobl ifanc, o fwlio a’r amgylchedd i hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau iechyd meddwl. Cafodd pobl ifanc eu cynorthwyo a’u cefnogi i ymchwilio, i ddadlau, ac i wneud argymhellion i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Eto i gyd, er gwaethaf y llwyddiant, yn 2014, torrwyd ei gyllid, ac yn anffodus, cafodd y Ddraig Ffynci ei dirwyn i ben. Wrth gwrs, cafodd ei ddisodli gan brosiect arall ar gyfer ymgysylltu ag ieuenctid, prosiect o’r enw Cymru Ifanc, sy’n gwneud gwaith rhagorol yn ymgysylltu â phobl ifanc ar draws y wlad, yn gwrando ar eu barn a cheisio gwneud eu lleisiau’n glywadwy i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ond nid yw, ac nid yw erioed wedi esgus bod yn senedd ieuenctid.
Nawr, nid oes arnaf eisiau manylu ar y dadleuon a fu’n rhemp yn y Cynulliad ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad i roi’r gorau i fuddsoddi yn y Ddraig Ffynci, ond afraid dweud, gwelwyd hynny fel cam yn ôl gan lawer ar bob ochr i’r tŷ hwn. Ac ers tranc y Ddraig Ffynci, cafwyd corws cynyddol o leisiau’n galw am sefydlu senedd ieuenctid newydd yng Nghymru. Canfu arolwg o bobl ifanc gan yr Ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru fod mwyafrif llethol o 92 y cant o’r ymatebwyr am weld senedd ieuenctid newydd, ac 85 y cant o’r rhai a holwyd eisiau i’r senedd ieuenctid fod yn barhaol ac wedi’i gwarchod mewn cyfraith. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi galw am adfer gofod democrataidd cenedlaethol i bobl ifanc ar ffurf cynulliad ieuenctid yn ei hadroddiad diweddar. Mae’r Cyngor Prydeinig, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ac eraill wedi mynegi eu cefnogaeth i senedd ieuenctid hefyd. Ac yn adroddiad pwyllgor monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn eleni, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, mynegodd y pwyllgor bryder nad oes gan Gymru senedd ieuenctid, a galwodd am sefydlu un.
Nawr, rwy’n cydnabod bod yna wahanol fodelau o seneddau ieuenctid mewn gwahanol wledydd ac awdurdodaethau o gwmpas y byd, gan gynnwys yma yn y Deyrnas Unedig. Sefydlir rhai gan Lywodraethau, sefydlir rhai gan sefydliadau seneddol, a gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn yr Aelod dros Dorfaen i’r Llywydd mewn perthynas â sefydlu senedd ieuenctid yma. Roeddwn yn falch iawn o glywed yr ymateb, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy yn y drafodaeth ynglŷn â sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol hwn ddatblygu cynnig ar gyfer senedd ieuenctid yma. Ond nid yw’r union fodel y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol ei fabwysiadu yn rhywbeth rwyf am ei drafod yn rhy fanwl; rwy’n siŵr y bydd pobl eraill yn cyflwyno syniadau i’r Siambr y prynhawn yma. Ond yr hyn rwy’n ceisio ei wneud heddiw, ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr holl bleidiau, yw sicrhau cytundeb i benderfynu sefydlu senedd ieuenctid genedlaethol i Gymru, fel y gall pobl ifanc yma gael cyfle i leisio barn ac i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am eu bywydau yn y lle hwn ac mewn mannau eraill, ac wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod y gall senedd ieuenctid helpu i sicrhau bod hynny’n digwydd.