Part of the debate – in the Senedd at 2:16 pm on 1 November 2016.
Following the European referendum, I undertook to keep the Assembly informed of developments and also to provide regular opportunities for the Assembly to comment and to debate within this Chamber.
Mae’r Aelodau yn gwybod i mi fynd i gyfarfod llawn Cydbwyllgor y Gweinidogion yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yn Downing Street. Roedd fy nghymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bresennol hefyd, wrth gwrs, ac roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, yno gyda mi hefyd. Lywydd, cyn i mi adrodd ar Gydbwyllgor y Gweinidogion, byddai’n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o gyd-destun ar faterion cysylltiedig.
Rydym yn gwybod o ddatganiadau cynharach Prif Weinidog y DU fod Llywodraeth y DU yn bwriadu galw erthygl 50 i rym, gan sbarduno’r trafodaethau ymadael, a hynny heb fod yn hwyrach na diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Cafwyd gwybod hefyd bod yr hyn a elwir y Bil diddymu mawr, a fydd, mewn gwirionedd, yn trosglwyddo cyfraith yr UE yn ddeddfwriaeth ddomestig pan fydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn mynd rhagddo, er bod yna gwestiynau ynghylch sut y bydd yn gweithio yn y cyd-destun datganoledig. Yn fy marn i, mae’r dull yn synhwyrol yn fras, ond unwaith eto, ceir materion cymhleth, fel y dywedais, gan gynnwys y berthynas rhwng cyfraith Ewrop â materion datganoledig. Lle bo deddfwriaeth Ewropeaidd yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig, ni yng Nghymru, wrth gwrs, fydd yn penderfynu maes o law pa rannau o gyfraith Ewrop y byddwn o bosibl yn dymuno eu cadw neu eu diddymu.
Lywydd, mae ein his-bwyllgor y Cabinet ar bontio Ewropeaidd yn cyfarfod yn rheolaidd a bydd yn adrodd i'r Cabinet llawn cyn y Nadolig. Y tu hwnt i hynny, mae Gweinidogion yn gweithio ar draws portffolios i geisio barn a thrafod materion fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu adlewyrchu, yn y pen draw, amrywiaeth eang y safbwyntiau a geir ledled y wlad. Mae cyngor adnewyddu'r economi, tasglu’r Cymoedd, gweithgor Brexit addysg uwch a byrddau crwn ar gyfer rhanddeiliaid ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd ac amaethyddiaeth i gyd yn enghreifftiau o sut y mae'r Llywodraeth yn ysgogi trafodaeth a chyfraniadau ar faterion sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae ein grŵp cynghori ar Ewrop hefyd yn cyfrannu at yr ystyriaeth tymor canolig a thymor hwy ynglŷn â pha fath o Gymru yr ydym am fod y tu allan i'r UE, ac i gynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd o ganlyniadau posibl i'r trafodaethau Brexit. Mae’r grŵp hwnnw yn dwyn ynghyd y farn ar draws y sbectrwm ac ystod o arbenigedd ac awdurdod o gymdeithas sifil. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i aelodau'r grŵp hwn am roi o'u harbenigedd yn rhydd ac am y modd cydweithredol y maent yn cyfrannu at fudd cenedlaethol Cymru.
Lywydd, rwy’n dychwelyd yn awr at gydbwyllgor y gweinidogion yr wythnos diwethaf. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf ers y refferendwm, pan oedd arweinwyr gwleidyddol o bob rhan o'r DU yn yr un ystafell ar yr un pryd. Os yw’n bosibl dod at unrhyw beth sy’n agos at gonsensws o ran safbwynt y DU, yna trwy’r fforwm hwn y bydd yn rhaid cytuno ar hynny. Rwyf wedi nodi’n glir fy marn y dylai Llywodraeth y DU geisio consensws o'r fath a chymeradwyaeth y Cynulliad a'r sefydliadau datganoledig eraill ar gyfer ei fframwaith trafod.
Lywydd, nodais ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru, a bydd y rhain yn gyfarwydd i’r Aelodau yma. Roeddwn i’n glir mai mynediad rhydd a diymatal parhaus at y farchnad sengl yw ein blaenoriaeth absoliwt. Ni allwn gytuno â gosod tariffau neu rwystrau di-doll rhwng y DU a’n cymdogion Ewropeaidd. Byddai unrhyw symudiad i'r cyfeiriad hwn yn tanseilio’n aruthrol fuddiannau busnesau allforio Cymru ac ar unwaith yn dirywio'r hyn y mae Cymru yn ei gynnig yn y gystadleuaeth fyd-eang am fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Ni all ac ni allai marchnadoedd y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd wneud iawn am y cwymp yn ein masnach Ewropeaidd. Mae o leiaf 40 y cant o'n hallforion yn mynd i Ewrop, ac mae'r holl ddata economaidd sydd ar gael yn dangos bod gan ddaearyddiaeth ran bendant i’w chwarae mewn llifoedd masnach ryngwladol. Lywydd, rydym yn uchelgeisiol yn fyd-eang ac rydym yn cefnogi ein busnesau lle bynnag yn y byd y maent yn dymuno masnachu, ond ni allwn gydgynllwynio ag unrhyw setliad sy'n tanseilio eu hallforion Ewropeaidd. Dywedaf eto: pleidleisiodd etholwyr Cymru i adael yr UE; ni wnaethant bleidleisio i ddifetha economi Cymru. Pe gallwn i, ar y pwynt hwn, ddyfynnu'r Aelod Rhun ap Iorwerth, a dywedodd fod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael, nid gadael eu synhwyrau, ac roeddwn i’n meddwl bod honno’n llinell dda iawn. Rwy’n credu bod hynny’n crynhoi ein sefyllfa ar hyn o bryd.
Codais y mater hanfodol o ariannu ar gyfer Cymru ar ôl i’r DU ymadael. Fel ag y mae pethau, efallai y bydd y DU yn gadael yr UE yn ystod gwanwyn 2019. Y tu hwnt i’r dyddiad hwn, nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y gyllideb ar gyfer ffermwyr neu gymunedau gwledig a dim arian ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol yn lle cronfeydd strwythurol. Bydd adolygiad o'r grant bloc yng ngoleuni gadael yr UE yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer sefydlogrwydd yn y misoedd i ddod.
Lywydd, rwyf wedi cydnabod o'r blaen bod pryder ynghylch ymfudo heb gyfyngiad o fewn yr UE yn rhan o'r hyn a gyfrannodd at y bleidlais i adael. Mae’n rhaid i hawliau dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yma gael eu diogelu, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw senoffobia na hiliaeth yng Nghymru. Mae ymfudwyr o'r UE yn helpu i gynnal economi Cymru, ac rydym yn rhagweld angen parhaus i recriwtio ar draws gwahanol sectorau o economi Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn aros am gynigion gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y mae'n bwriadu ymdrin ag ymfudo a reolir ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn archwilio'r cynigion hynny yn ofalus. Ond rwy’n rhoi rhybudd i Lywodraeth y DU: ni fyddwn yn cytuno i unrhyw beth a fydd yn niweidio neu'n tanseilio economi Cymru.
Lywydd, fy mhwynt olaf o bwys oedd am ein pwerau fel sefydliad datganoledig. Pan fydd y DU yn gadael, bydd rheoliadau’r UE mewn meysydd polisi datganoledig yn cael eu codi a bydd Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn arfer rheolaeth lawn dros bolisïau sydd eisoes wedi'u datganoli i ni: amaethyddiaeth, yr amgylchedd a physgodfeydd, er enghraifft. Byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais—unrhyw ymgais—gan Lywodraeth y DU i adfachu pwerau i’w hun. Ni wnaeth pobl yng Nghymru bleidleisio am hynny. Rydym yn derbyn mai’r peth gorau fydd ymdrin â rhai materion ar sail y DU gyfan, mae hynny'n wir, ond dim ond trwy gytundeb rhynglywodraethol y gellid gwneud hynny, drwy gyfuno peth sofraniaeth, nid gorfodi. Mae gadael yr UE yn gofyn am ystyriaeth o’r newydd o ran sut y mae'r DU ei hun yn gweithredu ac mae llawer o waith i'w wneud yn y maes hwn.
Mae'n siomedig, ac yn niweidiol i hyder, nad yw Llywodraeth y DU, hyd yn hyn, wedi cynnig amlinelliad cydlynol o'i hymagwedd gyffredinol at ei thrafodaethau am yr UE. Nid oes llawer o esgusodion am beidio â gwneud hynny, ac nid yw’r gohirio, ac mae’n rhaid dweud, y negeseuon dryslyd a chymysg, yn helpu hygrededd y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU gael trefn ar bethau.
Lywydd, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno y dylai cyfarfod llawn y cydbwyllgor gweinidogion ddigwydd yn amlach yn awr, ac rwy’n croesawu hynny. Rydym hefyd wedi cytuno ar ffurf newydd i’r cydbwyllgor gweinidogion, a elwir yn gydbwyllgor gweinidogion (trafodaethau Ewrop). Hwn fydd y fforwm ar gyfer y drafodaeth fanwl o safbwynt y DU. Byddwn yn bartner dibynadwy yn y broses hon a byddwn yn gweithredu gydag ewyllys da. Rydym eisiau’r hyn sydd orau i Gymru, ac mae gennym ddyletswydd i fynd ar drywydd y buddiant hwnnw gydag egni. Dyna'r union beth y byddwn yn ei wneud.
Lywydd, bydd yr Aelodau hefyd yn dymuno bod yn ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ofyn am fwy o wybodaeth am y penderfyniad Nissan, a'r goblygiadau i fusnesau yng Nghymru.
Rydym erbyn hyn yn sefyll ar groesffordd i Gymru a'r DU, a bydd penderfyniadau a wneir nawr yn pennu ein dyfodol am ddegawdau i ddod. Mae'r Llywodraeth hon yn derbyn ac yn croesawu ein cyfrifoldeb, ond ni allwn weithio ar ein pen ein hun. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau gan bawb, a’n nod yw datblygu consensws pan fo hynny’n bosibl. Lywydd, byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau wrth i faterion ddatblygu.