Part of the debate – in the Senedd at 3:33 pm on 2 November 2016.
I think we should all question the reasons we are doing this. And if we’re not to listen to interested bodies, are we to listen to disinterested bodies, then, or how are we supposed to proceed? I have to say that a bit of critical examination, which you are right to highlight as being needed in any discussion of this kind—it works both ways, really, as well as being objective and unbiased as well. So, you know, it’s right that all views are heard, but I have to say that the overwhelming—the absolute overwhelming—evidence is there, and that you cannot deny, that climate change is a reality, no matter what the ‘Washington Post’ said in 1922, with all due respect. And it’s something that we can’t get away from, and it’s something, certainly, that we won’t bury our heads in the sand about.
A’r hyn rwyf i eisiau ei wneud yn fy nghyfraniad i y prynhawn yma yw atgoffa Aelodau, fel rwyf wedi gwneud yn flaenorol yn y Siambr yma, o’r gwaith a wnaeth Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf. Un o’r gweithredoedd olaf gan y pwyllgor, a dweud y gwir, oedd cyhoeddi ei adroddiad ar ddyfodol ynni craffach i Gymru. Mi oedd yna lu o argymhellion, wrth gwrs, yn yr adroddiad yna, ac mae rhywun yn poeni weithiau bod rhai o’r adroddiadau yma yn mynd ar goll rhwng Cynulliadau. Ac nid wyf yn ymddiheuro am y ffaith fy mod i’n atgoffa Aelodau o fodolaeth yr adroddiad yna, ac, yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, oherwydd mae rhywun yn teimlo bod nifer o’r argymhellion yna yn mynd ar goll braidd, lle bod ganddyn nhw, rwy’n teimlo, gyfraniad pwysig i’w wneud, yn enwedig, efallai, o ran prif ffocws fy nghyfraniad i, o safbwynt arbed ynni, a sicrhau ein bod ni’n lleihau’r galw sydd yna am ynni, a’n bod ni’n helpu pobl i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Er enghraifft, mae’r Almaen, fel rŷm ni’n gwybod, wedi ymrwymo erbyn 2050 i sicrhau bod 80 y cant o’i hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae hefyd wedi ymrwymo ei bod hi’n torri ei defnydd ynni mewn adeiladau gan 80 y cant hefyd. Mae un agwedd yn mynd law yn llaw â’r agwedd arall, a hynny yn ei dro, wrth gwrs, yn ôl cynlluniau’r Almaen, yn mynd i greu miliynau o swyddi a chyfrannu yn adeiladol at ei GDP hefyd.
Nawr, rŷm ni’n gwybod bod aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario rhyw 80 y cant o’u costau ynni yn gwresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref. Felly, fel rŷm ni’n gwybod, mae angen inni wneud yn siŵr bod cartrefi mor effeithiol ag sy’n bosib o ran ynni i gadw gwres, ac felly, wrth gwrs, i leihau costau, yn ogystal â’r manteision eraill. Rwyf wedi sôn, wrth gwrs, ddegau o weithiau ynglŷn â’r gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau sydd wedi dod o gyfeiriad yr Undeb Ewropeaidd—y nod yma sydd gennym ni, sy’n dal i fod ar hyn o bryd, am y tro beth bynnag, i fod yn agos at sero o ran allyriadau erbyn diwedd 2020. Ac mi oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf, wrth gwrs, i ymgynghori ar gyrraedd safonau perfformiad ynni sy’n 25 y cant neu 40 y cant yn fwy effeithlon na safon 2010, ac wedyn dim ond mynd am 8 y cant fel canlyniad, yn siomedig.
Er bod newid, wrth gwrs, yn mynd i fod o safbwynt yr ymrwymiadau Ewropeaidd, am wn i, rŷm ni’n gorfod cwrdd â nhw, byddwn i’n awyddus i weld mai cychwyn y daith yw cyrraedd y nod honno, ac nid diwedd taith yn y pen draw. Oherwydd mae’r drefn bresennol o barhau i adeiladu tai sydd ddim yn ddigon ynni effeithlon yn cloi’r aneffeithlonrwydd yna i mewn am oes y tai yna, ac felly’n golygu nad ŷm ni’n cyflawni’r lefel o effeithlonrwydd ynni y byddem ni gyd eisiau ei gweld tra bo’r tai yna’n bodoli, heb, wrth gwrs, fynd i gost ychwanegol o retroffitio’r tai yna. Felly, mae’n yn agwedd gwbl allweddol o’r gwaith, a’r retroffitio hefyd, gan fod nifer o dai sydd gennym ni nawr yn rhai a fydd yn dal yma mewn 50 mlynedd, wrth gwrs. Mae Arbed a Nyth, fel rŷm ni wedi clywed, yn gwneud cyfraniad, ond cyfraniad pitw yw hynny, wrth gwrs, er mor bwysig yw e, yng nghyd-destun maint yr her sydd yn ein hwynebu ni. Mi oedd Plaid Cymru, wrth gwrs, am fuddsoddi biliynau o bunnau dros y ddau ddegawd nesaf i gwrdd â’r her yna, drwy’r comisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru, ac rwyf yn teimlo bod yn rhaid inni godi’n gêm yn y maes yma.
Fe glywsom gyfeiriad at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wel, wrth gwrs, rŷm ni’n sôn fan hyn nid yn unig am fanteision amgylcheddol o safbwynt lleihau allyriadau carbon, ond hefyd y manteision economaidd sylweddol o safbwynt creu swyddi, a hefyd rhai cymdeithasol o safbwynt mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Felly, os ydym ni o ddifri ynglŷn â chyrraedd datblygu cynaliadwy yng Nghymru, ac os ydym ni o ddifri ynglŷn â chyflawni’r ymrwymiadau rŷm ni’n awyddus i’w cwrdd â nhw o safbwynt cytundeb Paris, yna mae’n rhaid inni gychwyn wrth ein traed a sicrhau ein bod ni’n lleihau’r defnydd o ynni rŷm ni’n ei ddefnyddio yng Nghymru, a gwneud hynny yn bennaf, wrth gwrs, drwy’r stoc dai.