4. 4. Plaid Cymru Debate: Overseas Workers in the Welsh NHS

Part of the debate – in the Senedd at 2:58 pm on 16 November 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:58, 16 November 2016

(Translated)

Thank you very much, and thanks to everyone who participated in this afternoon’s debate.

Gadewch i mi ymateb yn syth i’r sylwadau a wnaeth cynrychiolydd UKIP. Rydym i gyd yn gwybod y dywedir wrthym nad oes unrhyw broblem gyda phobl sydd yn y DU ar hyn o bryd yn aros. Dyna’r math o sylw difeddwl, diystyr a oedd yn nodweddu’r ddadl Ewropeaidd. Mae’n ymddangos bod UKIP wedi gwneud arferiad o gyhoeddi gwarantau ffug nad oes ganddynt awdurdod o gwbl i’w gwneud. Yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn San Steffan heddiw, gofynnodd Alberto Costa, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, am beidio â chael ei roi mewn sefyllfa byth lle y byddai gofyn iddo bleidleisio ar y posibilrwydd o allgludo’i rieni, sydd wedi bod yn y DU ers 50 mlynedd. Ymatebodd Theresa May drwy ddweud y buasai’n hoffi gallu gwarantu hynny, wrth gwrs, ond nid yw hi, hyd yn oed, yn gallu gwarantu hynny ar hyn o bryd. Felly, rwy’n anwybyddu’r sylwadau a wnaed unwaith eto gan UKIP.

Rwy’n croesawu’r sylwadau a wnaed gan Dawn Bowden. Mae llawer o’r sylwadau yma yn dangos bod gennym amcan ar y cyd, y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon, i sicrhau ein bod yn gwneud GIG Cymru yn GIG Cymru croesawgar.

Dywedodd Dawn Bowden ei bod yn ofni bod Plaid Cymru mewn perygl o fethu â chyrraedd ein nod drwy ddadlau am fwy o bwerau, ond fel rydym yn ei ddatgan yma mor aml, mae’n ymwneud â chael pwerau pwrpasol. Fy ofn yw, wrth roi ffydd yn Llywodraeth y DU, y mae hyd yn oed Angela Burns ar feinciau’r Ceidwadwyr yma wedi dweud nad oes ganddi lawer o ffydd ynddi mewn perthynas â staffio’r GIG, a rhai o’r synau rydym wedi eu clywed gan wleidyddion Ceidwadol y DU, mae angen i ni wneud yn siŵr fod gennym yr arfau gorau posibl yn ein harfogaeth yma yng Nghymru i amddiffyn ein hunain wrth i ni symud ymlaen.

Heddiw, er bod y pleidiau eraill yn dweud nad ydynt yn gallu ymrwymo iddo ar hyn o bryd, rwy’n meddwl ac yn gobeithio ein bod wedi hau had syniad y gallwn barhau i ddadlau’r achos drosto fel ffordd o gael y sicrwydd mewn perthynas â’r gweithlu y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Rydych wedi dangos eich ffydd heddiw—eich ymddiriedaeth—yn Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cyrraedd y pwynt lle nad oes gennyf ffydd o’r fath yn Llywodraeth y DU i roi’r camau angenrheidiol ar waith er mwyn diogelu gweithlu ein GIG yn y dyfodol. Mae hwn yn syniad y byddwn yn ei godi eto, hyd yn oed os nad yw’n cael eich cefnogaeth heddiw, oherwydd rydym am i Lywodraeth Cymru allu gwneud yr hyn y mae angen iddi ei wneud er mwyn sicrhau bod gennym GIG sy’n addas ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol.