7. 7. Welsh Conservatives Debate: Business Rates

Part of the debate – in the Senedd at 4:36 pm on 23 November 2016.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:36, 23 November 2016

(Translated)

Thank you very much, Deputy Presiding Officer.

Wel, agorodd Russell George y ddadl, ac ategaf yr hyn a oedd ganddo i’w ddweud wrth bwysleisio cyfraniad pwysig y diwydiant manwerthu i economi Cymru, drwy gyflogaeth uniongyrchol yn y diwydiant a thrwy gysylltiadau’r gadwyn gyflenwi. Gwnaeth Jeremy Miles gyfres o bwyntiau pwysig ynglŷn â sut y gellir cefnogi economïau lleol a chanol trefi, a gosododd Mohammad Asghar ac Adam Price y cyd-destun cyfnewidiol y mae’n rhaid i’r stryd fawr weithredu ynddo heddiw, o doiledau cyhoeddus i siopa ar y we. A thynnodd David Rowlands sylw at y ffaith fod y ffactorau hyn yn mynd yn llawer ehangach na Chymru. Yn ei gyfraniad, canolbwyntiodd yn arbennig ar effaith ffioedd parcio ar y stryd fawr. Rwy’n edrych ymlaen at ei gefnogaeth yn y ddadl ar y gyllideb derfynol pan fydd yn awyddus, yn ddiau, i groesawu’r £3 miliwn sy’n rhan o’n cytundeb â Phlaid Cymru ar y gyllideb ddrafft ac sydd yno’n benodol er mwyn gostwng ffioedd parcio yn ein stryd fawr, ond i wneud hynny mewn ffordd sy’n ein galluogi i gasglu’r dystiolaeth gadarn a gwneud asesiad priodol o effaith y ffioedd hynny ar nifer yr ymwelwyr â’n strydoedd mawr.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n gobeithio y gwnewch chi faddau i mi os byddaf, yn yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, yn canolbwyntio’n fwy penodol ar y thema sydd wedi’i hadlewyrchu amlaf yn y ddadl y prynhawn yma, sef effaith ardrethi annomestig a’r ymarfer ailbrisio diweddar. Mae’n bwysig fy mod yn nodi hanes yr ymarfer hwnnw. Mae’r gofyniad i gynnal ailbrisiad bob pum mlynedd wedi’i nodi mewn statud, ond penderfynodd Llywodraeth y DU ohirio ailbrisiad 2015 am resymau na fydd angen i’r Aelodau yma ddyfalu llawer i ddychmygu pam fod y dyddiad hwnnw’n anghyfleus iddynt. Yn anfoddog, a chan ystyried yr effaith ar dalwyr ardrethi ar hyd y ffin, a’r rhai sydd ag eiddo yng Nghymru yn ogystal â Lloegr, penderfynwyd gohirio’r ailbrisio yng Nghymru hefyd, ac mae rhan o’r prynhawn yma yn ymwneud ag ymdrin ag effaith yr oedi hwnnw.

Jeremy Miles referred to the economy committee’s report, and I warmly welcome the report, too. There were a number of interesting aspects, as we saw at the beginning of the debate, in the way that the committee had gone about gathering its information.

Rwy’n cytuno â nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad diddorol hwnnw ac edrychaf ymlaen at ymateb yn ffurfiol iddo. Rwy’n credu y dylem edrych ar ddichonoldeb ailbrisio amlach, a fyddai’n helpu i lyfnhau’r newid gêr sydyn a welwn a’r hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn oedi cyn ailbrisio. Fel y mae’r adroddiad ei hun yn ei ddweud, os ydym i wneud hynny—os ydym i newid, er enghraifft, i gylchoedd tair blynedd—ni all ddigwydd yn syml drwy gyflymu’r system bresennol a gwneud iddi weithio’n gyflymach; byddai’n rhaid i ni gyflawni’r ymarfer ailbrisio mewn ffordd wahanol. Er mwyn gwneud hynny, byddai’n rhaid i ni ddibynnu ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio, oherwydd unwaith eto, mae’n bwysig—[Torri ar draws.] Ie, Andrew.