Part of the debate – in the Senedd at 3:20 pm on 29 November 2016.
The introduction of the Landfill Disposals Tax (Wales) Bill marks another step forward in our tax devolution journey. It’s the second of two taxes that are being devolved to Wales. This follows the introduction of the Land Transaction Tax and Anti-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Bill, introduced in September, and the passage of the Tax Collection and Management (Wales) Act, passed earlier this year. The devolution of taxes to Wales will enable us to develop a tax system that is simpler and fairer for taxpayers and that supports our ambitions for public services, jobs and growth. For the first time in 800 years, we are developing and implementing a tax regime that is more directly suited to the circumstances and people of Wales. We have consulted widely with stakeholders throughout the development of this Bill, and I would like to thank all those who have contributed. I value their continued involvement in informing the ongoing and detailed work to come.
Bydd y Bil hwn yn sefydlu treth newydd ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi, a fydd yn disodli'r dreth dirlenwi bresennol, sy'n cael ei chodi ar sail Cymru a Lloegr, o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bwriad y dreth yw sicrhau bod y refeniw o dreth dirlenwi’n parhau i gael ei gasglu i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond nid dim ond mater o gasglu treth yw hwn, oherwydd mae’r Bil hwn yn cyd-fynd â'n polisi gwastraff. Bydd y dreth gwarediadau tirlenwi’n chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i gyflawni ein nod o greu Cymru ddiwastraff. Bydd yn parhau i sicrhau bod cost amgylcheddol rhoi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yn cael ei nodi a’i bod yn weladwy ac, wrth wneud hynny, bydd yn annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adennill gwastraff.
Trof yn awr at fanylion y Bil a'i gynnwys. Mae Rhan 2 yn cynnwys diffiniad o warediadau trethadwy ac o dan ba amgylchiadau y gallent fod wedi’u heithrio rhag treth. Mae Rhan 3 yn nodi'r trefniadau ar gyfer gwarediadau trethadwy a wneir mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig, megis rhwymedigaeth i dalu, cyfrifo treth, dyletswydd i gofrestru ag Awdurdod Cyllid Cymru a sut i roi cyfrif am y dreth, gan gynnwys gostyngiadau. Mae Rhan 4 yn darparu’r trefniadau ar gyfer gwarediadau trethadwy a wneir mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig, ac mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth atodol ar gyfer credydau, mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu, ymchwilio a rhannu gwybodaeth ac yn nodi trefniadau ynglŷn â phersonau, grwpiau, partneriaethau a chyrff anghorfforedig.
Un o negeseuon clir yr ymgynghori fu’r angen i drosglwyddo’n llyfn at dreth gwarediadau tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth wrth lunio'r Bil sydd ger eich bron. O ganlyniad, bydd y dreth newydd yn gymharol gyson â'r dreth dirlenwi bresennol—bydd prosesau treth a’r agwedd tuag at gyfraddau treth yn debyg, a bydd hynny’n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn lleihau'r risg o dwristiaeth gwastraff. Fodd bynnag, mewn ymateb i safbwyntiau rhanddeiliaid, mae'r ddeddfwriaeth hon yn gliriach ac yn symlach i’w defnyddio; mae'n adlewyrchu arferion sefydledig, mae'n gyfredol ac mae'n berthnasol i Gymru. Lle bo’r dreth dirlenwi bresennol yn cynnwys amwysedd, rydym wedi ceisio rhoi eglurder.
Yn y cyd-destun hwnnw, Ddirprwy Lywydd, dewch imi hefyd fod yn glir: bydd angen i bawb sydd â gwastraff i’w waredu gydymffurfio â’r dreth hon yn llwyr ac yn briodol. Bydd y Llywodraeth hon yn cymryd ymagwedd gadarn at gydymffurfio a gorfodi. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru i ymgymryd â swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi ar gyfer treth gwarediadau tir. Bydd hyn yn sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn elwa ar brofiad a gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ym maes tirlenwi a’r perthnasoedd y maent wedi’u sefydlu â gweithredwyr safleoedd tirlenwi. Bydd y Bil yn galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i godi treth ar warediadau gwastraff heb awdurdod, gan gau llwybr posibl i osgoi talu treth, a sicrhau tegwch cyffredinol i fusnesau gwastraff cyfreithlon. Bydd hyn yn ei gwneud yn fwy beichus yn ariannol i wneud gwarediadau heb awdurdod, ac yn newid y cydbwysedd o blaid gwaredu mewn safle tirlenwi awdurdodedig.
Cyflwynwyd treth ar warediadau heb awdurdod yn rhan o dreth dirlenwi yr Alban, ac mae wedi bod yn un o nodweddion ardoll dirlenwi Gweriniaeth Iwerddon am y 10 mlynedd diwethaf. Mae rhanddeiliaid yng Nghymru wedi rhoi croeso cynnes i’r penderfyniad i gynnwys rhywfaint o ddarpariaeth yn y Bil hwn. Bydd y ddeddfwriaeth yn sicrhau bod y broses yn dryloyw, yn gymesur ac yn ymarferol. Mae'r cynigion wedi'u datblygu i gydblethu â rheoliadau amgylcheddol presennol, fel y byddant yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.
Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu pwerau cyffredinol i Awdurdod Cyllid Cymru i gynnal ymchwiliadau troseddol ac erlyniadau sy’n ymwneud ag osgoi talu treth. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cryfder y pwerau hyn a sut i’w defnyddio yn gynnar y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau eu bod yn darparu ataliad effeithiol ond cymesur.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, defnyddir rhywfaint o’r cyllid a godir o'r dreth gwarediadau tirlenwi i gefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol yn yr ardaloedd hynny yr effeithir arnynt gan waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi. Caiff hyn ei gyflawni drwy gynllun grant cymunedau’r dreth gwarediadau tirlenwi, gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dosberthir y cyllid i brosiectau sy'n cefnogi bioamrywiaeth, ymdrechion i leihau gwastraff a gwelliannau amgylcheddol eraill er budd y cymunedau hynny.
Bydd ymarfer caffael yn cael ei lansio ar ôl y Nadolig i benodi trydydd parti i ddosbarthu cyllid yn uniongyrchol i brosiectau. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod cymunedau’n cael cymaint â phosibl o arian. Cyhoeddir papur i roi manylion pellach am ddatblygu’r cynllun cymunedol hwn cyn y Nadolig a chyn i’r Pwyllgor Cyllid ystyried y Bil. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi diweddariadau pellach wrth i'r Bil fynd ar ei daith drwy'r Cynulliad Cenedlaethol.
Deputy Presiding Officer, the Landfill Disposals Tax (Wales) Bill has been developed to provide clarity for taxpayers and the Welsh Revenue Authority and to ensure there is flexibility to accommodate future policy developments. I look forward to the scrutiny process and to hear from individuals and organisations within this Chamber and beyond. I’m sure that they will be interested in ensuring that this is Bill is a success.