7. 6. Debate: The Final Budget 2017-18

Part of the debate – in the Senedd at 4:46 pm on 10 January 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:46, 10 January 2017

(Translated)

Thank you very much, Llywydd. The Welsh Government’s draft budget was laid before the Assembly in October and had to be developed in very challenging circumstances. The UK Government’s autumn statement, which promised to reset fiscal policies, was published a few weeks after the draft budget was tabled. In the final budget, which was published on 20 December, we had to consider the statement’s impact on Wales. The draft budget and the final budget contain measures that are the result of discussions with Plaid Cymru. I’m very grateful to Adam Price and his team for ensuring that they were available during the tight timescales that are involved in the budget-making process. I also look forward to working together on the significant agenda that has been agreed for the joint committee on finance over the coming months.

Llywydd, I don’t intend to reiterate the details of the draft budget today. The Finance Committee has ably summarised these measures and has scrutinised them in its report. I’m grateful to the committee for its work on the draft budget for 2017-18 and for its constructive recommendations. Yesterday, I wrote to the Chair of the Finance Committee to respond to these recommendations in the report. Today, I intend to focus on two aspects. To begin, I will note the main differences between the draft budget and the final budget, and I will focus specifically on the impact of the autumn statement. I will then look to the future and consider the process of preparing next year’s budget and the need to ensure that our budget processes are appropriate for our new fiscal powers.

Gadewch i mi ddechrau, felly, Lywydd, gyda'r prif newidiadau sydd yn gorwedd rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys swm ychwanegol sy’n werth £337 miliwn o gyfalaf dros bedair blynedd, a ddyrennir i flaenoriaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys £136 miliwn ar gyfer datblygu tai fforddiadwy, cynlluniau atal llifogydd a phrosiectau adfywio ledled Cymru. O'r swm hwn, bydd £33 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn cefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ar gynlluniau rheoli risg llifogydd â blaenoriaeth dros y cyfnod hwnnw o bedair blynedd. Mae hyn yn ychwanegol at y £150 miliwn o arian rheoli risg arfordirol arloesol a fydd yn dechrau o 2018.

Mae pum deg tair miliwn o bunnoedd o'r cyfalaf ychwanegol wedi ei ddyrannu i gyflymu'r broses o gyflawni ymrwymiad craidd Llywodraeth Cymru i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yn gyfan gwbl, mae hyn yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf mewn tai i £1.413 biliwn dros y blynyddoedd nesaf. Bydd pum deg miliwn o bunnau o'r cyfalaf ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglenni adfywio sy'n canolbwyntio ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn buddsoddi £20 miliwn mewn cynllun grant cyfalaf bach i ffermwyr, gan ddod ag arian cyfatebol o £20 miliwn ychwanegol o raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Bydd y £40 miliwn yn helpu ffermwyr i leihau allyriadau carbon a gwella eu cydnerthedd a’u cystadleurwydd, gan gynnwys trwy arallgyfeirio.

Mae system drafnidiaeth Cymru yn cael hwb dan y gyllideb derfynol gan gyfalaf ychwanegol gwerth £15 miliwn dros bedair blynedd i leddfu mannau cyfyng trafnidiaeth ledled y wlad, ac mae £50 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf yn cyflymu darpariaeth ffordd osgoi Llandeilo yr A483. Ac mae'r ddau ddyraniad hyn yn rhan o'n cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae cyllid cyfalaf ychwanegol o £40 miliwn yn cael ei ddyrannu i wella ystad iechyd Cymru, wedi’i dargedu'n benodol at y gwaith o ddatblygu ein hadeiladau gofal sylfaenol mewn arddangosiad pellach o benderfyniad y Llywodraeth hon i fuddsoddi ar y rhyngwyneb iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wir, Lywydd, mae hon yn gyllideb sy'n parhau i roi blaenoriaeth i anghenion y sector gofal cymdeithasol. Yn y gyllideb ddrafft, mae £25 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i wasanaethau cymdeithasol. Yn awr, yn y gyllideb derfynol gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, mae £10 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd ar gael fel rhan o gytundeb tridarn rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyflogwyr gofal cymdeithasol i dalu costau cydnabyddedig yn y sector hwnnw.

Yn olaf, cyn belled ag y mae cyfalaf yn y cwestiwn, mae’r gyllideb derfynol hon yn darparu £40 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni. Ymysg pethau eraill, bydd yn helpu 25,000 o gartrefi pellach i wresogi eu cartrefi am gost fwy fforddiadwy ac yn cefnogi mentrau twf gwyrdd eraill.

Lywydd, trof yn awr, yn fyr, at y prif newidiadau refeniw a gynhwysir yn y gyllideb derfynol, yn bennaf o ganlyniad i ddyraniad o'r cronfeydd wrth gefn. Yn 2017-18, bydd £15.5 miliwn o arian refeniw ychwanegol ar gael ar gyfer prentisiaethau. Mae hyn yn ychwanegol at y £111 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer prentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant.

Lywydd, rwyf wedi gwrando'n ofalus ar sylwadau a wnaed yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod ymgynghori. O ganlyniad, bydd refeniw ychwanegol o £10 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer cynllun grant rhyddhad ardrethi wedi'i dargedu i helpu busnesau bach ar y stryd fawr ac mewn sectorau lletygarwch gyda'u hardrethi busnes y flwyddyn nesaf. Ac rydym wedi cytuno ar y mecanwaith ar gyfer dosbarthu’r £10 miliwn hwn gyda Phlaid Cymru, a bydd ar waith erbyn mis Ebrill eleni. Mae hynny'n ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn yn y gyllideb ddrafft.

Lle mae awdurdodau lleol yn y cwestiwn, rydym hefyd wedi dyrannu £6 miliwn ychwanegol, a adlewyrchir yn y gyllideb derfynol hon, a fydd yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw i helpu i fynd i'r afael â'r problemau penodol ynghylch atal digartrefedd.

Yn olaf, Lywydd, cyn belled ag y mae newidiadau refeniw yn y cwestiwn, rwy’n arbennig o falch i dynnu sylw at y £500,000 o refeniw ychwanegol i ddarparu cymorth newydd i blant yn ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn ystod gwyliau hir yr haf. Mae hyn yn enghraifft glir o ble y mae defnyddio lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar wneud cyllideb.

Mae argymhellion 4, 5 a 6 o adroddiad y Pwyllgorau Cyllid yn canolbwyntio ar y cydadwaith rhwng y Ddeddf a phroses y gyllideb. Rydw i wedi ymrwymo yn fy ymateb i wneud mwy i adlewyrchu'r Ddeddf mewn paratoadau a chanlyniadau cyllideb yn y cylch cyllideb nesaf.

Lywydd, gadewch i mi droi yn awr, wrth orffen, at baratoadau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Y gyllideb y bydd y Cynulliad hwn yn ei hystyried ar gyfer 2018-19 fydd y gyntaf i arfer ein cyfrifoldebau cyllidol newydd a gwneud hynny o fewn y fframwaith cyllidol newydd a gytunwyd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Rhagfyr. Byddaf yn ateb cwestiynau ar fanylion y fframwaith cyllidol o flaen y Pwyllgor Cyllid yfory a byddaf yn gwneud datganiad yn ei gylch yn y Siambr hon yr wythnos nesaf. Bydd hyn oll yn gofyn am newidiadau i baratoadau cyllideb fewnol y Llywodraeth ei hun a chraffu arno gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda'r Comisiwn a’r Pwyllgor Cyllid i roi'r trefniadau newydd hyn ar waith wrth i ni ymateb i'r argymhellion yn y maes hwn a nodir yn adroddiad y pwyllgor.

Gadewch i mi orffen, felly, lle y dechreuais ym mis Hydref. Mae'r gyllideb o flaen y Cynulliad heddiw yn cyfuno sefydlogrwydd ac uchelgais. Mae'n darparu cyfnod cymharol fyr i baratoi ar gyfer cyfnod anoddach a dewisiadau caletach sy'n ein hwynebu yn ddiweddarach yn nhymor y Cynulliad hwn. Serch hynny mae’n buddsoddi yn ein dyfodol ac yn gosod y sylfaen ar gyfer y cyfrifoldebau cyllidol newydd sydd o'n blaenau. Rwy’n edrych ymlaen at y ddadl y prynhawn yma ac yn cymeradwyo'r gyllideb derfynol hon i Aelodau fel cyllideb i symud Cymru ymlaen.