Part of the debate – in the Senedd at 5:40 pm on 10 January 2017.
Thank you, Llywydd.
A gaf i ddiolch i’r holl Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth? Mae llawer o Aelodau wedi cyfeirio at y pethau hynny yr ydym wedi gallu eu cyflawni yn y gyllideb, yn y buddsoddiadau newydd yr ydym wedi gallu eu gwneud rhwng y drafft a'r gyllideb derfynol. Roeddwn i’n credu y byddwn yn y fan yma yn ailadrodd y llwybr gwneud penderfyniadau a nodais gerbron y Pwyllgor Cyllid mewn cysylltiad ag unrhyw gyfalaf ychwanegol a allai fod wedi dod i ni yn natganiad yr hydref. Fy mlaenoriaeth gyntaf i oedd adfer arian i gyllidebau lle’r oedd cyfyngiadau ar y cam cyllideb ddrafft yn golygu nad oeddem wedi gallu gwneud popeth y byddem wedi hoffi ei wneud. A dyna pam yr ydych yn gweld yn y gyllideb hon fuddsoddiadau newydd mewn rheoli risg llifogydd ac mewn adfywio trefol.
Yr ail flaenoriaeth oedd edrych ar yr ymrwymiadau allweddol hynny yn y rhaglen lywodraethu a, lle bo modd, cyflymu ein gallu i gyflawni hynny. Rwyf wedi ymrwymo’n arbennig i’r 20,000 o gartrefi fforddiadwy—targed heriol, ond mae’r angen am dai yng Nghymru yn fater real iawn, iawn i lawer o deuluoedd, ac mae unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i ymateb i'r agenda honno yn rhywbeth yr wyf yn awyddus i’w gefnogi yn y gyllideb hon.
Ac yna, pan oeddem wedi gwneud hynny, edrychais i weld a oedd unrhyw syniadau nad oedd wedi bod yn bosibl eu cefnogi o gwbl tan nawr, ac yno, y buddsoddiad o £40 miliwn yn yr ystâd gofal sylfaenol —enghraifft arall o benderfyniad y Llywodraeth, ac rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau ohono y prynhawn yma, i wneud pethau pwysig ym maes gofal cymdeithasol, yn ogystal â meddygaeth sylfaenol a chymunedol, i gydnabod y system honno fel system o fewn y cylch.
Lywydd, rwy’n credu bod tair thema wedi rhedeg drwy'r drafodaeth. Byddaf yn dweud rhywbeth yn fyr iawn am bob un ohonynt. Yn gyntaf oll, bu rhywfaint o drafodaeth ddiddorol am y ffordd y mae'r gyllideb yn cael ei gwneud. Gadewch i mi gytuno â'r hyn a ddywedodd un o’m cyd Aelodau: ein bod yn Llywodraeth heb fwyafrif, ac nid oes gennym fonopoli ar syniadau. Felly, mae gweithio gyda phleidiau eraill i ystyried ein cynigion, i fod yn gallu ychwanegu at y rhestr o bosibiliadau, yn fy marn i, yn rhywbeth y dylem ei groesawu fel ffordd o gynnal busnes yma. A yw'r gyllideb yn wahanol o ganlyniad i'n trafodaethau gyda Phlaid Cymru? Wrth gwrs ei bod. A oes unrhyw beth yn y gyllideb hon na fyddai Aelodau Llafur yn falch i’w gefnogi? Wrth gwrs nad oes. Dyna natur trafodaethau. Ochr yn ochr â'r trafodaethau uniongyrchol hynny, felly, fe welwch, oherwydd ein bod wedi ei chyhoeddi fel rhan o gytundeb y gyllideb, mae gennym agenda o faterion tymor hwy y byddwn yn eu trafod yn y grŵp cyswllt cyllid. Eleni, heb etholiad a heb y cyfyngiadau y mae hynny’n eu rhoi ar ein hamserlen, byddwn yn gallu rhoi sylw i’r materion hynny hefyd.
Bu dadl y prynhawn yma am ansicrwydd a chynaliadwyedd. Wrth gwrs, roeddwn wedi dymuno gallu darparu cyllidebau tymor hirach ar yr ochr refeniw i fynd ochr yn ochr â'r cyllidebau cyfalaf pedair blynedd yr ydym wedi gallu eu cynnig. Ond, fel y dywedodd Simon Thomas, mae ansicrwydd yn ein hwynebu, nid eleni yn unig, ond yn y blynyddoedd i ddod. Bydd yn rhaid inni ymgodymu ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae gennym anhawster parhaus y polisi diffygiol a hunandrechol o gyni y tynnodd Mike Hedges sylw ato a'r ffordd y mae hynny yn gwasgu ar ein cyllidebau. Mae gennym yr anhawster penodol a gadarnhawyd gan y Canghellor ei fod yn bwriadu mynd ymlaen â gwerth £3.5 biliwn o doriadau refeniw yn 2019-20. Byddai hynny ar ei ben ei hun yn dileu unrhyw un o'r enillion refeniw a gawsom gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, er fy mod yn gwbl barod i gydnabod pa mor ddymunol yw cynaliadwyedd mewn cynllunio tymor hir, mae’n rhaid i chi ddal i ymdopi â'r ansicrwydd real iawn sy'n eich wynebu chi yma, ar hyn o bryd, ac a fydd yn parhau i fod yn gyd-destun anodd ar gyfer gwneud cyllideb yn y Cynulliad hwn ar gyfer y cyfnod nesaf.
Yn olaf, bu trafodaeth am broses y gyllideb, ac rwy’n cytuno yn llwyr, wrth inni ddechrau ymarfer ein cyfrifoldebau cyllidol newydd, y bydd angen i ni ail-bennu ein prosesau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu canolbwyntio ar y penderfyniadau ehangach a fydd wrth wraidd y ffordd y mae'r gyllideb yn cael ei pharatoi a'i datblygu mewn blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu bod gwahanol syniadau ynglŷn â’r ffordd orau y gellid gwneud hynny, ond mae'n drafodaeth y mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn darparu sylfaen ddefnyddiol iawn ar gyfer cytuno ar fanylion hynny dros y flwyddyn nesaf.
Lywydd, mae cynllunio a pharatoi gofalus o'n blaenau, felly, er mwyn wynebu her y dewisiadau caletach hynny a’r ystod amrywiol o bosibiliadau sy'n ein hwynebu dros y 12 mis nesaf. Rydym eisoes yn paratoi ar gyfer y cylch cyllideb nesaf, a thu hwnt byddwn yn defnyddio adroddiad craffu'r Pwyllgor Cyllid fel cyfraniad pwysig at hynny. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda fy nghydweithwyr ynghylch sut y byddwn yn bwrw ati yn ystod gweddill y flwyddyn hon. Serch hynny, yn yr holl amgylchiadau hynny, Lywydd, mae hon yn gyllideb sy'n mynd â Chymru yn ei blaen. Mae'n buddsoddi yn y meysydd pwysig hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad y prynhawn yma.