Part of the debate – in the Senedd at 5:47 pm on 10 January 2017.
Rwy'n ddiolchgar i'r ddau bwyllgor hynny am eu hadroddiadau pwysig ar ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 1 y Bil hwn. Yn amlwg, mae pwyntiau manwl yn adroddiadau’r ddau bwyllgor y bydd angen eu hystyried yn ofalus. Mae llawer o'r hyn y byddaf yn ei ddweud y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, yn canolbwyntio ar y materion hynny a amlygwyd yn ystod y broses graffu Cyfnod 1 hwnnw. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddarparu gwybodaeth ac eglurder ychwanegol ynglŷn â rhai o'u hargymhellion. Rwy'n bwriadu ysgrifennu eto at y Pwyllgor Cyllid i ymateb i bob un o'r argymhellion yn ei adroddiad, ac rwy'n falch o gadarnhau heddiw fy mod yn gallu derbyn dau o'r tri argymhelliad yn ystyriaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Rydw i'n mynd i geisio ymdrin yn eu tro â chyfres o faterion penodol a amlygir yn yr adroddiadau hynny. Rwy’n mynd i ddechrau â'r mater o ganllawiau oherwydd, wrth reswm, drwy gydol hanes y Bil, wrth ei baratoi ac wrth graffu arno yng Nghyfnod 1, bu llawer o drafodaeth am bwysigrwydd canllawiau cadarn. Yn benodol, bu pwyslais ar y rheol gyffredinol ar atal osgoi, y rheol wedi’i thargedu ar atal osgoi ar gyfer y gostyngiadau y gellir eu hawlio, y gwahaniaethau rhwng y dreth trafodiadau tir a deddfwriaeth treth dir y dreth stamp, a thrafodiadau trawsffiniol. Mae’r thema o wneud yn siŵr bod canllawiau cyfredol, manwl gywir a hygyrch ar gael wedi ei hadlewyrchu’n briodol yn adroddiad y pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Rwy’n cydnabod awydd y Pwyllgor Cyllid i ddeall y broses ar gyfer datblygu’r canllawiau hyd nes y bydd yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2018, ac ar y sail hon, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion y pwyllgor ar y materion hyn. Rwyf wedi gohebu yn flaenorol â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid wrth i’r broses graffu fynd rhagddi ac esboniais yn yr ohebiaeth honno y bydd y gwaith o ddatblygu’r canllawiau yn fater i Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n awyddus i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid cyn gynted ag y bo modd i ddatblygu canllawiau o ansawdd uchel, effeithiol, sy’n hawdd eu defnyddio. Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu yn rhan gyntaf y flwyddyn hon, a fydd yn cynnwys pobl sy'n gweithio yn y maes, arbenigwyr technegol o'r tu hwnt i'r Cynulliad, a fy swyddogion fy hun, i drafod materion technegol a gweithredol ac i helpu i ddrafftio'r canllawiau.
Bydd hon yn broses ailadroddol, ond bydd y canllawiau terfynol yn barod i'w rhannu a’u trafod â threthdalwyr a'u hasiantau mewn da bryd i helpu eu dealltwriaeth o'r gyfundrefn dreth newydd. Rwy'n awyddus i barhau i roi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol am y cynnydd wrth sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Ail argymhelliad y Pwyllgor Cyllid yw y dylai diweddariadau o'r fath gael eu darparu bob tymor ac rwy'n hapus i weithio yn unol â’r amserlen honno.
O ran costau, mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf ar Ddeddf Cymru 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ym mis Rhagfyr yn cadarnhau nad yw ein hamcangyfrifon presennol wedi newid ers iddynt gael eu cyhoeddi y llynedd. Byddaf mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gostau yn fuan, pan fydd cyfres arall o benderfyniadau wedi cael eu gwneud am gynllun sefydliadol Awdurdod Cyllid Cymru a phan fydd y gost wedi ei chadarnhau ar gyfer gwasanaethau digidol. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid cyn trafodion Cyfnod 2 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i ddatblygu amcangyfrifon costau, ac i nodi pryd y bydd amcangyfrif diwygiedig, terfynol ar gael.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n troi yn awr at gwestiwn y gordal annedd ychwanegol. Ar 14 Hydref, cyhoeddais fy mwriad i gynnig gwelliannau i'r Bil yn ystod Cyfnod 2 er mwyn cyflwyno gordal o'r fath. Gwnes i hynny oherwydd bod cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn hollbwysig i’r Llywodraeth hon, ac at y dibenion hyn, mae'r cyllid ychwanegol y bydd y gordal yn ei gynhyrchu yn hanfodol. Fy mwriad i yw y bydd y gordal annedd ychwanegol yn dilyn yn fras reolau cyfraddau uwch treth dir y dreth stamp. Fodd bynnag, byddaf yn cymryd y cyfle, wrth gyflwyno diwygiadau Cyfnod 2, i wneud y rheolau yn gliriach a, lle bo modd, yn decach, er mwyn gwella’r modd o’u defnyddio. Rwy’n dal i fod wedi ymrwymedig i sicrhau bod y darpariaethau gordal yn addas ar gyfer anghenion Cymru. Cyflwynwyd amrywiaeth o awgrymiadau gan randdeiliaid ynglŷn â sut i wneud hynny yn ystod yr ymgynghoriad technegol diweddar. Bydd angen asesu’r rhain yn briodol ochr yn ochr â thystiolaeth o effaith cyfraddau uwch treth dir y dreth stamp wrth iddi ddod ar gael. Ddirprwy Lywydd, dyma un o'r rhesymau dros gymryd pŵer i wneud is-deddfwriaeth, i ddiwygio'r gordal annedd ychwanegol, pe byddai tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod hyn yn angenrheidiol. Byddai'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn rhan bwysig o'r ddeddfwriaeth gan y bydd yn ein galluogi ni i sicrhau bod y gordal yn addas at y dyfodol a’i reoli'n effeithiol. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn gysylltiedig â hyn, am eu hymgynghoriad bod y Bil yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sy’n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i’w gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth, ac ar wahân i un enghraifft, mae’r weithdrefn a ddewiswyd o ran gwneud is-ddeddfwriaeth yn un yr oedd y pwyllgor yn ei hystyried yn rhesymol ac yn gymesur.
Rwy’n troi yn awr at gwestiynau trawsffiniol. Rwy’n cytuno â phwyslais y Pwyllgor Cyllid ar yr angen i Cyllid a Thollau EM, Awdurdod Cyllid Cymru, Y Gofrestrfa Tir ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio weithio mewn dull cydweithredol. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn amlinellu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill. Caiff opsiynau eu harchwilio yn awr o ran y ffordd orau o gynorthwyo trethdalwyr i nodi ble y mae’r ffin yn gorwedd ar deitlau perthnasol. Byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod y cyrff hynny yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni dull integredig o ymdrin â materion gweithredol a pholisi eraill, gan gynnwys, yn bwysig, gorfodi a chydymffurfio.
Rwy’n troi yn awr at y mater o ryddhad. Mae rhanddeiliaid wedi bod yn glir yn eu hawydd i sicrhau cysondeb gyda threth dir y dreth stamp o ran rhyddhad ac eithriadau. Rwy’n bwriadu monitro’r defnydd a gwerth rhyddhad preswyl ac amhreswyl, gan mai fy null o ddiwygio rhyddhad, neu gyflwyno rhyddhad newydd yn y dyfodol, fydd yr un a nodais yn y Pwyllgor Cyllid. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ryddhad newydd posibl gael ei gyfochri â blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, i fod yn gost-effeithiol, i gyrraedd y targed polisi a fwriadwyd, ac i fod wedi’u seilio ar y dystiolaeth orau.
Mewn ymateb i argymhelliad 11 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy’n bwriadu cynnig rheol, trwy ddiwygiad Cyfnod 2, sy'n nodi sut y bydd cynlluniau contractiol awdurdodedig cydberchnogaeth yn cael eu trin at ddibenion treth. Mae'r rheol yn sicrhau ein bod yn gallu ystyried cyflwyno rhyddhad i drosglwyddiadau cychwynnol ar gyfer CoACS a chronfeydd buddsoddi eiddo awdurdodedig yn y dyfodol pan fydd digon o dystiolaeth i wneud hynny.
O ran cyfraddau a bandiau, gallaf gadarnhau fy mwriad y prynhawn yma i gyhoeddi cyfraddau treth ar gyfer yr holl drethi datganoledig mewn da bryd cyn Ebrill 2018. Bydd amseriad penodol unrhyw gyhoeddiad yn ystyried effeithiau posibl y bydd cyhoeddiadau yn eu cael ar ymddygiad drethdalwyr, a gofynion y broses gyllidebol. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau am gyfraddau a bandiau, fel gydag unrhyw fater cyllidebol pwysig arall. Yn y modd hwn, rwy’n credu y byddwn yn cyflawni ysbryd degfed argymhelliad y pwyllgor i gynnal ymgynghoriad llawn a helaeth ar gyfraddau a bandiau. Mae'n bwysig imi ddweud nad oes cynsail wedi’i osod gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth yr Alban o ran cynnal ymgynghoriad ffurfiol cyn pennu eu cyfraddau. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn atal ymgysylltu a deialog barhaus, ac rwyf yn parhau’n ymrwymedig i hynny.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, i roi hyn i gyd yng nghyd-destun polisi ehangach, rwy’n croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf ar yr agenda ddiwygio cyllidol. Mae'r archwilydd cyffredinol yn cydnabod bod hwn yn faes cymhleth, ac mae’r Bil hwn yn un o'i gerrig milltir arwyddocaol.
Rwyf hefyd yn falch o fod wedi dod i gytundeb gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar yr hyn sydd yn fy marn i yn fframwaith cyllidol teg, y bydd y dreth hon a threthi datganoledig eraill yn gweithredu oddi mewn iddo. Edrychaf ymlaen at drafod manylion y fframwaith â'r Pwyllgor Cyllid yfory a gwneud datganiad llafar arno yn y Siambr hon yr wythnos nesaf.
Drwy gydol y rhaglen waith hon, rydym wedi elwa ar gyngor a chefnogaeth nifer o unigolion a sefydliadau. Rwy’n ddiolchgar am eu cymorth ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd taith lwyddiannus y Bil hwn, os bydd yn symud ymlaen trwy'r Cynulliad Cenedlaethol, yn anfon neges bod Cymru yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn hyderus wrth gymryd y cam allweddol nesaf hwn wrth ddatganoli trethi. Gofynnaf i'r Aelodau gytuno i egwyddorion cyffredinol y Dreth Trafodiadau Tir a Bil Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) y prynhawn yma.