Part of the debate – in the Senedd at 5:57 pm on 10 January 2017.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I very much welcome the tone of what the Minister has said in response to the Finance Committee’s recommendations on this Bill. I think it’s important to set out at the start that this is widely talked about as the first piece of tax legislation in Wales for 800 years. It’s very difficult to understand what tax legislation was in Wales 800 years ago—one thing was for certain, the Welsh princes were very fond of moving their courts around, arriving at a locality and saying, ‘Right, you’re now paying for us, mate.’ That’s why we’ve got so many Welsh plac names called ‘llys’ in Wales, it seems. And that was also a very medieval way of doing things.
We also know that Edward I, shortly after conquering Wales, tried to raise a subsidy on the Welsh people in order to pay for his war in Gascony. It was very unpopular with the people of Wales because, at that stage, we weren’t sending anyone to Parliament, of course, to decide on tax legislation. It was also unpopular with the Marcher Lords for other reasons. And we also know that after conquest, the English kings often tried to levy taxes on the Welsh people, and local ‘parliamentaria’ were assembled to decide whether the levy would be paid or not. That was a very informal way of trying to reflect the parliamentary process, perhaps, and using the word parliamentarian from time to time. What we can say with certainty is that this is the first Welsh tax to be brought forward before a Welsh Parliament, that has been, at least in part, accepted in principle by the Welsh people, by the referendum in 2011, and therefore is the first real democratic approach to taxation that we’ve had the opportunity to consider in Wales. And it’s in that context that I think I’ll move on to some of the detail of what the Finance Committee now has to say.
Felly, wrth droi at argymhellion y Pwyllgor Cyllid, yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae’r Pwyllgor Cyllid yn derbyn ac yn cymeradwyo bod y Cynulliad yn cymeradwyo’r Bil yma. Rŷm ni’n gwneud hynny ar ddwy sail. Yn gyntaf oll, oherwydd y penderfyniad democrataidd i ddatgymhwyso treth dir y dreth stamp yng Nghymru, fe fydd, wrth gwrs, colled ariannol i gyllid y Llywodraeth oni bai ein bod ni’n creu ein system drethiannol ein hunain, ac mae hynny’n troi o gwmpas cytundeb ar y fframwaith cyllidol, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a gyhoeddwyd jest cyn y Nadolig. Byddwn ni’n trafod hynny bore yfory gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ac, wrth gwrs, fe fydd y Cynulliad yn cael cyfle i edrych ar y fframwaith ehangach yr wythnos nesaf. Ond, ym marn y pwyllgor, mae’n gwbl briodol fod y Llywodraeth yn deddfu yn y maes yma, yn cyflwyno Bil trethiant yn y maes yma, ac yn gwbl briodol, felly, eu bod nhw’n gwneud hynny yn y ffordd y maen nhw wedi ei wneud.
Fe fydd, wrth gwrs, y dreth yn cael ei gweinyddu, serch hynny, nid gan y Llywodraeth, ond gan Awdurdod Cyllid Cymru, sef corff nad yw wedi ei sefydlu eto yn llawn. Bydd yn hanfodol, ym marn y pwyllgor, bod trefniadau ar waith i sicrhau trosglwyddiad diffwdan o’r system dreth gyfredol i’r system dreth newydd fel nad yw’r newid cyfundrefn yn peri trafferth i drethdalwyr neu gynghorwyr, neu’r ymarferwyr yn y maes. Bydd yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru fod yn barod i gasglu trethi o’r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod ganddo’r adnoddau a’r seilwaith technoleg gwybodaeth briodol i weithredu’n effeithiol. Ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb yn bositif i un o argymhellion y pwyllgor y prynhawn yma trwy ddweud y bydd mwy o fanylion ynglŷn â chostau sefydlu swyddfa Awdurdod Cyllid Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn ein bod ni’n ystyried Rhan 2 o’r Bil yn llawn.
Nawr, fel sefydliad newydd, ym marn y pwyllgor bydd yn bwysig i’r awdurdod cyllid gael mynediad at yr un wybodaeth a’r un arbenigedd â staff Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn bresennol. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau hyn yw sefydlu memoranda o ddealltwriaeth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Gofrestrfa Tir, sy’n elfen bwysig yn y jig-so yma.
Mae canllawiau ar weithredu’r darpariaethau yn y Bil yn fater pwysig a godwyd yn gyson yn adroddiad y Pwyllgor. Rydym wedi argymell, felly, fod Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol perthnasol yn y maes ynghylch paratoi canllawiau fel y gellir harneisio eu gwybodaeth ar gyfer llunio trefniadau yn y dyfodol a rhoi arweiniad effeithiol. Ac, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, mae tipyn o ohebiaeth rhyngom ni, fel pwyllgor, ac yntau ynglŷn â’r ffordd y bydd y canllawiau a’r cyngor yn cael eu paratoi.
Nawr, testun pryder i nifer o dystion ac aelodau’r pwyllgor oedd sut y byddai’r dreth yn cael ei chyfrifo ar gyfer pryniant eiddo sy’n pontio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fe ddechreuwyd craffu ar y Bil gan feddwl bod yna tua 400, o bosib, o eiddo neu dai, neu beth bynnag, yn y cyd-destun yma, ond, tua diwedd y craffu ar y Bil, fe dyfodd y nifer yna i tua 1,000 neu dros 1,000. Ac un o’r pethau oedd braidd yn syfrdanol i mi yn bersonol, mae’n rhaid dweud, i’w ddeall yn y broses yma oedd nad oedd gan y Gofrestrfa Tir ffin digidol ar eu mapiau o’r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr. Nid oedd angen, wrth gwrs, i fod yn deg, ond yn sicr bydd angen un nawr, achos mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gwybod lle mae’r ffin. Rydym ni’n gwybod lle mae’r ffin yn wleidyddol, rydym ni’n gwybod lle mae’r ffin yn ddemocrataidd, ond, o ran prynu tŷ ac eiddo, mae’n rhaid bod y Gofrestrfa Tir yn gallu dweud yn hollol bendant wrth ymarferwyr yn y maes, wrth gyfreithwyr, prynwyr, darpar brynwyr ac ati, lle mae’r ffin.
Mae hefyd yn fater o bryder i’r pwyllgor, er ei bod yn glir yn y cyd-destun cyfreithiol sut mae’r dreth yn cael ei chodi ar y ddwy ochr, nad yw efallai mor glir i drethdalwyr sut y bydd y dreth yna’n cael ei gweithredu mewn ffordd deg rhwng Cymru a Lloegr. Y ffaith amdani yw, os bydd eiddo yn pontio’r ffin, bydd y rhan o’r eiddo sydd ar ochr Cymru yn talu treth dir y dreth stamp—sori, ar ochr Lloegr, yn talu’r dreth dir y dreth stamp, SDLT, yn Lloegr, a bydd y rhan sydd yng Nghymru yn wynebu’r dreth trafodiad tir, LTT, fel sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae dwy dreth yn cael eu talu ar un eiddo, ac mae hynny’n ffaith sy’n deillio o’r systemau cyfreithiol a chyfansoddiadol presennol, ond nid yw’n gwneud codi trethi y peth mwyaf rhwydd i’w wneud, mae’n rhaid dweud. Ac yng ngoleuni’r dryswch ynghylch trefniadau trawsffiniol, roedd y pwyllgor felly yn arbennig o bryderus o ddeall bod angen map digidol a dylid comisiynu’r Gofrestrfa Tir i ddarparu map digidol o’r fath er mwyn hwyluso’r broses.
Yn ystod gwaith y pwyllgor, wrth inni graffu ar y Bil, mynegodd yr Ysgrifennydd Cabinet, fel rydym newydd ei glywed, ei fwriad i gyflwyno cyfraddau uwch o’r dreth trafodiadau tir ar gyfer pryniant eiddo ychwanegol—er enghraifft, prynu i osod, cartrefi ychwanegol, tai haf, ac ati. Roedd y pwyllgor wedi cael ei ddarbwyllo gan resymeg yr Ysgrifennydd Cabinet o ran diwygio’r Bil—dyma’r dreth sydd yn bodoli yn Lloegr a bydd y dreth yn cael ei cholli o Gymru oni bai ein bod ni’n gweld y gwelliannau. Ond, rydym yn edrych ymlaen nawr at y gwelliannau gan y Llywodraeth i weld sut fydd y dreth yma yn cael ei gweithredu yng Nghymru.
Roeddem ni’n siomedig, fel pwyllgor—ac rydym newydd glywed hyn gan y Gweinidog eto—nad yw’r Llywodraeth am gynnal ymgynghoriad llawn ar y mater hwn. Mae’r Llywodraeth o’r farn mai un o swyddogaethau allweddol y Llywodraeth yw pennu cyfraddau a bandiau treth. Fel mae’r Gweinidog newydd ei ddweud, nid yw’n digwydd mewn rhannau eraill o Brydain. Ond, fel rydym newydd drafod o ran y gyllideb, rydym ni’n edrych ar broses mwy seneddol, sydd yn gallu symud y pwyllgor a’r Senedd i gyd gyda’i gilydd i graffu mwy ar y broses o osod cyfraddau treth. Mae hynny’n bwnc y byddwn ni’n dychwelyd ato yn fwy eang, mae’n siŵr gen i, nid jest yng nghyd-destun y dreth yma.
I gloi, felly, ar y ddwy reol ar osgoi trethi sydd yn y Bil, mae yna reol dargededig ar atal osgoi ac mae yna reol gyffredinol ar atal osgoi yn y Bil. Roedd y pwyllgor wedi’i ddarbwyllo bod angen y ddau, ond roeddem yn arbennig yn chwilio am ganllawiau i sicrhau bod y rheolau yma’n glir yn y ffordd y maen nhw’n ymwneud â threthi nas datganolwyd. Felly, rydym yn cynnig yn gryf iawn i’r Cynulliad bod y Bil yn symud yn ei flaen at y cyfnodau nesaf.