Part of 1. 1. Questions to the Cabinet Secretary for Finance and Local Government – in the Senedd at 1:37 pm on 11 January 2017.
Thank you for the question.
Rwy’n awyddus iawn i gadw mewn cysylltiad â’r gwaith dichonoldeb sy’n mynd rhagddo yn Fife a Glasgow. Credaf ei bod yn bwysig bod yn realistig ynglŷn â’r hyn y maent wedi cychwyn ei wneud. Maent yn gobeithio trefnu astudiaeth ddichonoldeb dros y misoedd nesaf. Byddai’r astudiaeth ddichonoldeb honno yn casglu tystiolaeth, a phe bai’r dystiolaeth honno’n ddigon cryf, byddent yn sefydlu rhaglen beilot. Ond er hynny, mae hwnnw’n gam ymlaen yng nghyd-destun y DU. Mae hanes o lwyddiant gan incwm sylfaenol mewn rhannau eraill o’r byd eisoes. Talwyd incwm sylfaenol i ddinasyddion yn Alaska ers 1982 o gronfa ddifidend barhaol Alaska. Ac er ei fod yn waith sydd, yn yr Alban, wedi cael cefnogaeth yr SNP—yn Glasgow, caiff ei arwain gan gynghorydd Llafur, yn Fife, fe’i cefnogwyd gan arweinydd y grŵp Ceidwadol ar y cyngor yno—er hynny, pe baem yn parhau ag ef, byddai’n rhaid i ni fod yn barod i wynebu penawdau o’r math a ddefnyddiwyd gan bapur newydd ‘The Sun’ wrth adrodd ar arbrawf Glasgow, gan ddweud ei fod yn talu cyflog am ddim gwaith, hyd yn oed i bobl â swyddi. Felly, mae’r syniad, er ei fod yn ddeniadol o ran y ffordd y gallai symleiddio a chynorthwyo pobl sy’n gorfod dibynnu ar hyn o bryd ar gyfuniad cymhleth iawn o waith rhan-amser, budd-daliadau rhan-amser ac yn y blaen—bydd yn her i’r byd gwleidyddol argyhoeddi’r cyhoedd ynglŷn â rhinweddau’r cynllun.