Part of the debate – in the Senedd at 3:14 pm on 17 January 2017.
Thank you very much, Adam Price, for those detailed questions. May I thank him for what he said at the outset in welcoming a number of elements of the framework? I will now turn to his questions.
Cyn belled ag y mae Barnett yn y cwestiwn, mae’r ffigur o 115 y cant o fewn amrediad 114-117 y cant Holtham; hwn yw’r ffigur y mae Holtham ei hun yn ei ddefnyddio fwyaf aml wrth ddisgrifio i ba raddau y mae anghenion Cymru yn fwy na rhai ein cymheiriaid ar draws y ffin. Nid y ffigur ei hun yw’r peth mwyaf hanfodol yn y cytundeb hwn, ond yn hytrach, y gydnabyddiaeth bod yr anghenion hynny yn bodoli a’r sicrwydd eu bod yn sefydlog yn y modd y bydd y cyllid yn llifo rhwng y Trysorlys a Chymru yn y dyfodol.
O ran yr addasiad i’r grant bloc, mae'n bwysig iawn, Dirprwy Lywydd, i ystyried y fframwaith cyllidol yn ei gyfanrwydd. Mae iddo nifer o rannau cymhleth sy’n cydblethu. Aethom ati’n ofalus iawn i ystyried pa un a oedd hi’n bosibl darganfod cymharydd boddhaol i'r ddwy ochr ar gyfer treth dir y dreth stamp ai peidio, ac yn rhannol oherwydd bod rhai problemau technegol gyda hynny, nad oedd y Trysorlys yn credu y gallai eu datrys, rydym wedi cael y lluosydd Barnett o 105 y cant yn y cytundeb. Mae yna ddilysu a chydbwyso oddi mewn i hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud wrth yr Aelodau na ddylem dybio yn awtomatig y bydd derbyniadau yng Nghymru o dreth trafodiadau tir yn is na derbyniadau treth dir y dreth stamp yn Lloegr. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn ei rhagolwg mis Tachwedd ar gyfer datganiad yr hydref, yn tybio y bydd derbyniadau treth dir y dreth stamp yng Nghymru yn fwy na dyblu rhwng 2015-16 a 2021-22, gan amcangyfrif, yng ngweddill y DU, y bydd y cynnydd mewn derbyniadau yn rhyw 50 y cant. Felly, nid yw’n anochel o gwbl y bydd y gwahaniaethau rhwng Cymru a gweddill y DU yn anfanteisiol i ni. Os byddant yn anfanteisiol i ni yn y pen draw, yna mae’r lluosydd Barnett yno i gywiro hynny ac i sicrhau bod Cymru yn cael ei gwarchod rhag unrhyw ganlyniadau niweidiol o'r fath.
Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau am y ffordd y bydd anghydfodau o fewn y fframwaith yn cael eu trafod a swyddogaeth goruchwyliaeth annibynnol yn hynny. Mae'r fframwaith yn nodi proses cam i fyny lle, os oes materion yn cael eu nodi gan y naill ochr yn y fframwaith, y cam cyntaf yw i waith gael ei wneud ar y rhai hynny ar lefel swyddogol, i wybodaeth gael ei chytuno rhwng Cymru a Thrysorlys y DU, ac i gael y rhai hynny wedi’u datrys gan swyddogion. Os nad yw hynny'n bosibl, yna mae'n symud i Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd, lle byddai Gweinidog Cyllid Cymru yn eistedd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae’r anghydfodau hynny i’w datrys yno. Os ceir methiant i ddatrys y problemau yng Nghyd-Bwyllgor y Trysorlysoedd, yna mae’n rhaid troi at y dulliau datrys anghydfod hynny a nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd ar ddatganoli. Ar bob adeg yn y broses honno, ceir hawliau annibynnol i’r ddwy Lywodraeth ddefnyddio cyngor annibynnol, a gall y ddwy Lywodraeth sicrhau hynny’n annibynnol. Ac mae hynny’n ddatblygiad newydd pwysig iawn; nid ydym erioed wedi cael hynny o'r blaen. Ac mewn sawl ffordd, roeddem yn ddibynnol ar y ffaith bod yr Albanwyr wedi ennill wrth drafod eu fframwaith cyllidol nhw, oherwydd eu bod nhw wedi sicrhau hynny yn eu cytundeb, roeddem ni’n gallu cyfeirio at hynny a dweud nad oeddem yn gallu setlo am ddim llai.
Os, yn y diwedd, nad oes cytundeb rhwng y ddwy Lywodraeth, yna bydd y sefyllfa bresennol yn parhau. Nawr, efallai y byddwch chi’n dweud y gallai hynny olygu y bydd yna amgylchiadau anffafriol i Gymru, lle na allem ddwyn perswâd ar y Trysorlys, ond o fy safbwynt i, yn bwysicach, mewn sefyllfa lle nad yw pŵer yn cael ei dosbarthu'n gyfartal ar y ddwy ochr o’r bwrdd, mae hynny'n golygu nad yw'r Trysorlys bellach yn gallu, drwy ei benderfyniadau unochrog ei hun, gorfodi unrhyw beth ar Gymru. Ac felly mae'n bŵer sy'n gweithredu’r ddwy ffordd, ond rwy’n meddwl y bydd yn fwy arwyddocaol yn ein dwylo ni nag y byddai yn nwylo’r Trysorlys.