Part of the debate – in the Senedd at 3:54 pm on 17 January 2017.
Pan edrychodd Llywodraeth y DU ar Fil Cymru am y tro cyntaf, roedd ymagwedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd yn seiliedig ar ofyn i adrannau Whitehall beth yr oeddent yn ei feddwl y dylid ei ddatganoli. Yn ddigon siŵr, cawsom y Bil cychwynnol a oedd yn seiliedig i raddau helaeth iawn ar anwybyddu canlyniadau refferendwm 2011 a cheisio sicrhau nad oedd y gyfraith yng Nghymru yn ymwahanu o gwbl bron oddi wrth y gyfraith yn Lloegr. Roedd yn Fil hynod oherwydd y ffaith na chafodd gefnogaeth, yn llythrennol, gan neb y gwn i amdano, mewn unrhyw fan yn y Siambr hon na’r tu allan iddi.
Felly, rydym yn canfod ein hunain nawr yn edrych ar y Bil presennol. Nid wyf yn mynd i esgus wrth y Siambr hon bod y Bil hwn yn bopeth y byddem yn ei ddymuno. Y Bil a oedd yn fy marn i yn Fil llawer gwell, yn Fil llawer cliriach, ac yn Fil a oedd yn adlewyrchu barn pobl Cymru, oedd y Bil drafft a luniwyd gan y Llywodraeth hon. Yr hyn sydd gennym yn hytrach na hynny yw Bil sy'n anfoddhaol mewn llawer o feysydd, ond sy’n gwneud cynnydd mewn eraill—ond Bil sydd wedi gofyn am lawer iawn o ystyriaeth gan grŵp Llafur Cymru yma o ran pa un a fyddem ni yn ei gefnogi ai peidio.
Roedd yn drafodaeth hir, fanwl a chytbwys. Gwnaethom benderfynu edrych ar y Bil fel pecyn. Oes, mae rhai meysydd sydd yn anfoddhaol, ac mae yna feysydd sydd heb gael sylw eto y bydd angen rhoi sylw iddynt yn y dyfodol. Ond, ar y cyfan, rydym wedi penderfynu cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma, er nad oedd y penderfyniad hwnnw yn un hawdd.
Mae'n bwysig, Lywydd, bod pobl Cymru yn cael y gair olaf ynghylch dyfodol y sefydliad hwn a'r hyn y mae'n ei wneud, ei fod wedi'i ymgorffori yng nghyfansoddiad y DU, ac mai pobl Cymru sy'n penderfynu sut y mae’r sefydliad hwn yn gweithio, yn penderfynu faint o Aelodau sydd ganddo, ac yn penderfynu beth yw system etholiadol y sefydliad hwn.
Mae hefyd yn bwysig bod confensiwn Sewel, sydd, yn yr Alban, wedi ei ymgorffori mewn statud, hefyd yn digwydd yma yng Nghymru. Nid pwynt cyfansoddiadol disylw yw hwn; mae’n taro tant, yn enwedig ar ddadl Brexit. Mae'n bosibl, er enghraifft, y gallai'r Goruchaf Lys ddweud, 'Wel, a dweud y gwir, mae’n rhaid i Senedd yr Alban roi ei chydsyniad i'r broses erthygl 50, oherwydd bod ganddi gonfensiwn Sewel sydd wedi'i ymgorffori yn y gyfraith. Nid oes gan Gymru hynny, felly nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr un sefyllfa'. Mae angen inni wneud yn siŵr bod ein sefyllfa gyfansoddiadol yn union yr un fath â'r Alban a Gogledd Iwerddon cyn, yn ôl pob tebyg, y 10 mlynedd nesaf o ddadl y byddwn yn ei chael dros Brexit. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod y tir cyfansoddiadol yn gadarn o dan ein traed.
Rwy’n croesawu'r symudiadau a wnaeth Llywodraeth y DU ar ynni, ar drafnidiaeth, ac ar ddŵr, ac maent wedi symud ymlaen mewn meysydd eraill. Rwy’n croesawu'r ffaith y bydd y rhan fwyaf o'r porthladdoedd yn cael eu datganoli, ar wahân i Aberdaugleddau, am resymau a eglurwyd gennyf yn gynharach. A bydd angen ailymweld â rhai meysydd yn y dyfodol. Ceir pryderon ynghylch cwmpas cyfyngedig ein pwerau ac effaith y cyfyngiadau yn y model newydd. Mae pwysau'r pryderon hyn yn dibynnu ar asesiad risg ynglŷn â'r prawf 'ymwneud â' a'r prawf anghenraid, ac i ba raddau y mae uchelgeisiau deddfwriaethol y Cynulliad yn y dyfodol yn debygol o daro yn erbyn cyfyngiadau’r profion hyn.
Bydd Llywodraeth y DU yn honni bod y Bil hwn yn rhoi mwy o sicrwydd, ond byddai'n tanseilio'r sicrwydd hwnnw pe byddem, o fewn rhai misoedd neu flynyddoedd, yn canfod ein hunain yn ôl o flaen y Goruchaf Lys yn gofyn i’r Goruchaf Lys wneud penderfyniad ynghylch ble mae’r ffin o ran pwerau datganoledig.
Ceir agweddau cadarnhaol, gan gynnwys ffin ddatganoli clir o ran awdurdodau cyhoeddus datganoledig a rhyddid penodol i ddeddfu ar y gyfraith breifat a’r gyfraith droseddol. Mae caniatâd Gweinidogion y Goron, er ei fod wedi’i ostwng yn sylweddol o fod yn annerbyniol yn y Bil drafft, yn dal i gynrychioli cyfyngiadau newydd ar y setliad presennol, er nad oes rhyw lawer o gynnydd wedi’i wneud i leihau nifer y materion a gedwir yn ôl: 217 yn y Bil drafft i 193 nawr—ac mae rhai o'r rheini’n eithaf arwynebol. Mae meysydd o hyd lle nad ydym yn gweld y symudiad y byddem wedi ei hoffi: gwerthu a chyflenwi alcohol. Nid oes rheswm rhesymegol wedi’i gyflwyno ynghylch pam y dylid datganoli cyflenwi a gwerthu alcohol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru. Nid oes dadl resymegol wedi ei chynnig o blaid hynny heblaw, 'Dyma’r ffordd y mae wedi bod erioed, anlwcus.' Ac nid dyna’r ffordd o ymdrin â phethau yn y dyfodol.
Rydym yn gwybod am fater cymhwysedd cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol sydd gennym ar hyn o bryd. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd i hynny yn Nhŷ'r Arglwyddi yr wythnos diwethaf: cyfartal o ran y bleidlais. Nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu—gweld yr hyn sy'n ymddangos i fod yn gyfyngiad ar gymhwysedd. Efallai y cafodd ei greu ar ddamwain gan y Goruchaf Lys ond, serch hynny, mae’n rhywbeth sydd wedi bod gennym. Ac nid yw'n bosibl dod i'r casgliad bod y model cadw pwerau—er bod croeso iddo, yn ddamcaniaethol—yn addas i’w ddiben yn y tymor hir, ac un o'r prif resymau dros hyn yw cyfiawnder a'r awdurdodaeth.
Nid wyf yn gwybod am unrhyw wlad arall lle mae dwy ddeddfwrfa yn bodoli yn yr un awdurdodaeth. Nid oes neb wedi clywed am hynny yn unman arall ac mae’n cael effaith ymarferol bwysig. Mae'n bosibl, yn y dyfodol, y gallai rhywun gael ei arestio yng Nghaerdydd am rywbeth nad yw'n drosedd yng Nghymru. Mae'n bosibl y gallai rhywun gael dedfryd i fwrw tymor mewn carchar yn Lloegr am rywbeth nad yw'n drosedd yn Lloegr. Nid yw hynny, i mi, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl cyn belled ag y mae’r dyfodol dan sylw. Mae hefyd yn achosi dryswch i'r cyhoedd ac i'r proffesiynau. Eisoes, rwy’n clywed gan yr Arglwydd Brif Ustus am enghreifftiau o gyfreithwyr yn cyrraedd llysoedd Cymru ac yn dadlau’r gyfraith anghywir, oherwydd eu bod yn cymryd yn ganiataol bod y gyfraith yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Cyfeiriodd Simon Thomas, ychydig fisoedd yn ôl, at etholwr yr oedd wedi siarad ag ef. Roedd yr etholwr wedi cyflwyno deddfwriaeth—Deddf Seneddol—iddo, a oedd yn dweud bod y Ddeddf Seneddol yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Ond, wrth gwrs, dim ond i Loegr yr oedd yn berthnasol. Mae'r dryswch a achosodd hynny ym meddwl etholwr—mae hyn yn ffordd gymhleth iawn, iawn o ymdrin â rhywbeth sydd, mewn gwirionedd, yn syml iawn. Ond, wrth gwrs, mae’r cymhlethdod hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi dewis ei wneud.
Mae methiant Llywodraeth y DU i ateb y cwestiynau sylfaenol am gyfiawnder a’r awdurdodaeth yn golygu na all y Bil fod yn setliad cynaliadwy, hirdymor. Mae dyfodol cyfiawnder yng Nghymru, â’r corff cynyddol o gyfraith ddatganoledig Cymru sy’n darparu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru, yn rhy bwysig i'w anwybyddu. Dyna pam y buom yn dadlau drwy gydol hynt y Bil bod arnom angen comisiwn i ystyried y trefniadau y mae angen eu rhoi ar waith, a chyflwyno adroddiad amdanynt, i sicrhau bod gennym system gyfiawnder yng Nghymru sy'n addas i’w diben ac, wrth gwrs, yn addas i’r setliad datganoli newydd. Gan fod Llywodraeth y DU wedi bod yn amharod i wneud y dasg honno, fe wnawn ni hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gyhoeddiadau am hyn dros y misoedd nesaf.
Mae honno, fodd bynnag, yn ddadl ar gyfer diwrnod arall. Dyma rai pryderon mwy uniongyrchol i'r cyhoedd: y fframwaith cyllidol—rwy’n talu teyrnged fawr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y gwaith y mae wedi'i wneud i lunio fframwaith ariannol sydd, ar ei gwaethaf, yn niwtral ac ar ei gorau, yn ôl ein hasesiadau ni, ychydig bach yn gadarnhaol. Ond roedd hi’n hynod bwysig, cyn inni weld unrhyw ddatganoli sylweddol o ran treth incwm, ein bod wedi sicrhau nad oedd Cymru mewn sefyllfa waeth o ganlyniad. Mae ef wedi sicrhau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhoi llawer o ffydd i ni ynglŷn â’r dyfodol. Ac, wrth gwrs, ceir y goblygiadau Brexit. Nid ydym ar sail gyfartal â gweddill gwledydd y DU o hyd. Mae risg parhaus gwirioneddol o ymweliadau â’r Goruchaf Lys yn dal i fodoli, ac rwy'n credu'n gryf y bydd hyn yn wir tan y caiff mater yr awdurdodaeth ei ddatrys.