6. 4. Legislative Consent Motion on the Wales Bill

Part of the debate – in the Senedd at 5:24 pm on 17 January 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Shadow Spokesperson (Wales) 5:24, 17 January 2017

(Translated)

Lywydd, over the past few months, I and Members of other parties, including Dafydd Elis-Thomas, Dafydd Wigley, Members of the Lib Dems and members of different cross-party groups have been doing what we can to correct the Wales Bill as it has gone through the House of Lords. I would like to pay tribute first of all to you, Llywydd, for your work on this Bill, and to the Constitutional and Legislative Affairs Committee, which helped us with some of the arguments that that we needed to make in the house, but also I think it has helped us to succeed in convincing the UK Government to compromise in so many areas and to accept our point of view that they had gone too far in trying to keep powers in London. But, of course, there are a number of matters in this Bill that do still cause us concern. May I be clear: the Wales Bill is complex, it’s unclear, and we can be sure that it won’t settle this question of Wales’s relationship with the United Kingdom for a generation, as was intended? The Bill isn’t based on any constitutional principles. There’s no clarity in the legislation, which means that we can’t guarantee that there won’t be any reference to the Supreme Court in future to decide where legislative powers lie.

Members of the House of Lords and, indeed, the Conservative Government have made it clear that they won’t be content to pass the legislation without the support of the majority of Assembly Members. The question therefore is whether we should pass this Bill.

Credaf fod y cwestiwn ynghylch a ddylem basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn un cytbwys o’r diwedd. Rwy'n meddwl bod y Bil yn parhau i fod yn ddiffygiol ac yn gymhleth iawn. Serch hynny, rwy’n credu y dylem basio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a hoffwn wneud fy rhesymau dros hyn yn glir. Yn gyntaf oll, rwy’n meddwl mai dyma’r unig fargen yr ydym yn debygol o’i gweld yn y dyfodol agos. Dyma'r pedwerydd Bil Cymru ers i’r cyhoedd yng Nghymru gefnogi sefydlu'r Cynulliad ym 1997. Nid yw Theresa May wedi dangos unrhyw ddiddordeb o gwbl yng Nghymru, ac mae Llywodraeth y DU yn debygol o fod yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar Brexit yn y dyfodol agos. Mae’r penderfyniad Brexit hwnnw, gyda chyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw i fynd am Brexit caled, yn golygu bod angen inni fwrw iddi yn gyfansoddiadol cyn i ni gael ein colbio yn y ffrwd wleidyddol sydd ar fin ein llyncu. Mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw ymgais ar ran Llywodraeth y DU i adennill pwerau o’r UE, ac i gadw'r hyn sy’n feysydd dilys o gymhwysedd Llywodraeth Cymru yn Llundain.

Mae'r Bil newydd yn cadarnhau confensiwn Sewel. Mae’r confensiwn hwnnw yn dweud na fydd Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb ganiatâd y Cynulliad. Mae hynny wedi'i ysgrifennu mewn statud. Y Bil cyfredol: nid yw yno. Mae hwn yn gam diogelu sydd ei angen arnom. Oni bai ein bod ar yr un dudalen gyfansoddiadol, ac o dan yr un system model a gedwir yn ôl â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn llawer mwy agored i gael ein taro pan fydd y pwerau’n cael eu hadfer dan Brexit. Mae hyn hefyd yn wir am y Bil diddymu mawr a addawyd, lle mae cyfle’n amlwg i Lywodraeth y DU fachu beth sydd yn gyfreithlon yn bwerau ein Cynulliad ni . Nid wyf fi, yn un, yn barod i gymryd y risg honno.

Nawr, mae'r fframwaith cyllidol a fformiwla Barnett, fel y clywsom, yn rhoi gwarantau na fyddwn yn waeth ein byd, o’n cymharu â Lloegr, os bydd gwariant cyhoeddus yn codi pan gaiff canran o bwerau treth incwm i Gymru ei ddatganoli. Mae'r cytundeb hefyd yn golygu bod gennym £500 miliwn ychwanegol y gallwn ei fenthyg er mwyn buddsoddi. Rwy'n credu bod hyn yn mynd i fod yn allweddol bwysig wrth i gyni barhau i frathu, wrth i ni weld crebachu yn yr economi a thynnu arian strwythurol yr UE yn ôl.

Rwy'n siomedig bod y Bil yn parhau i fod yn gymhleth, yn anhygyrch ac yn aneglur. Ni lwyddwyd i ymgorffori unrhyw egwyddorion sylfaenol neu gadarn yn y Bil, megis eglurder, sefydlogrwydd, cyfreithlondeb a datganoliaeth. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, drafftiodd Llywodraeth Cymru ei Bil ei hun, a gyflwynwyd y llynedd. Byddai hwnnw wedi darparu llwyfan llawer cadarnach ar gyfer y setliad cyfansoddiadol, ond nid ydym yn y sedd yrru yn San Steffan. Gadewch i ni gofio: Bil y Torïaid yw hwn.

Yn Nhŷ'r Arglwyddi, argyhoeddwyd Llywodraeth y DU gennym eu bod wedi mynd yn rhy bell drwy geisio adfachu pwerau sydd eisoes gan y Cynulliad mewn meysydd fel mabwysiadu, cynllunio rheilffyrdd a darparu rhyddhad y dreth gyngor. Awgrymodd un o'r tystion arbenigol i'r pwyllgor cyfansoddiad, dan y model presennol o lywodraeth a roddwyd, fod pob dim oni bai sinc y gegin wedi’i gadw. Ond wrth symud tuag at y model cadw pwerau, roedd hyd yn oed sinc y gegin erbyn hyn wedi’i gadw. Trwy wthio yn ôl yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydym bellach wedi adennill rheolaeth dros y rhan fwyaf o reoliadau adeiladu, gan gynnwys sinc y gegin. Rydym hefyd wedi argyhoeddi’r Llywodraeth i ehangu'r meysydd lle nad oedd gennym bŵer o'r blaen, gan gynnwys pŵer dros gyflogau athrawon, terfynellau betio ods sefydlog, gorchmynion prynu gorfodol a’r ardoll seilwaith cymunedol, i enwi ond ychydig. Ac rydym yn amlwg yn siomedig iawn bod pleidlais gyfartal ar gysylltiadau diwydiannol yn y sector cyhoeddus yn golygu bod Llywodraeth y DU yn mynd ar ei phen at ysgarmes gyfansoddiadol, hyd yn oed cyn i’r Bil hwn gael ei dderbyn.