Part of the debate – in the Senedd at 5:31 pm on 17 January 2017.
Nothing would give me more pleasure than being able to vote today for the implementation of a Wales Bill that would empower the people of Wales, that would enable this Assembly to mature further as a Parliament for our nation, and that would give the Welsh Government the necessary tools to stabilise and strengthen our economy, to create a healthier Wales, and to strengthen our education system in the way in which we here in Wales would want to prioritise. But that, for me, is not what this Bill that we are asked to give consent to today entails. This is not a Bill that gives me confidence that it will give the people of Anglesey and the rest of Wales the kind of assurances that they should have that their National Assembly has the rights to plough its own furrow, where necessary, without any of the arbitrary barriers put in place by the UK Parliament.
Credaf yn gryf y dylai datganoli ei hun gael ei ddatganoli—y dylem ni yng Nghymru benderfynu ar y meysydd hynny lle dylem gael cyfrifoldeb. Credaf yn angerddol y dylai unrhyw Fil ar ddyfodol cymhwysedd Cymru ddod o Gymru. Ac mae'r Bil diffygiol iawn y gofynnir i ni ei gymeradwyo heddiw, rwy’n credu, yn ymgorfforiad perffaith o bwysigrwydd yr egwyddor honno. Nid wyf am ailadrodd pwyntiau manwl a wnaed gan rai o’m cydweithwyr am y rhestr afresymol o amheuon. Gallwn siarad am y penderfyniad cadarn i wrthod datganoli plismona, y penderfyniad anfaddeuol ac anesboniadwy i wrthod symud tuag at awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig wahanol—mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Ond o ran ein pwerau i ddeddfu ar ran pobl Cymru, rwy'n credu bod y Bil hwn, er gwaethaf consesiynau sydd wedi cael eu gwneud, yn parhau i fod ychydig yn fwy na briwsion San Steffan a rannwyd gan Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y DU i Gymru sydd i fod i ystyried ei hun yn ddiolchgar i'w derbyn.
Wrth gwrs, ceir elfennau cadarnhaol yma, a dyna pam, fel y dywedodd Leanne Wood, mai gyda chalon drom yr ydym yn pleidleisio yn erbyn cryfhau pwerau i'r Cynulliad hwn, fel sefydliad, dros ei faterion ei hun—dros drefniadau etholiadol, ac yn y blaen. Rwyf i, wrth gwrs, yn dymuno gweld cychwyn datganoli treth incwm yn ein harfogaeth trethi. Cymeradwyaf waith a wnaed ar y fframwaith cyllidol. Rwyf i, wrth gwrs, yn dymuno gweld fformiwla ariannu newydd. Rwy’n deall pam y gallai pobl eraill ddod i'r casgliad ei bod yn werth cefnogi hyn oherwydd y pethau cadarnhaol hynny. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun fod y grŵp Lafur wedi dod i benderfyniad anfoddog.
Ar y pwynt hwnnw, i'r rhai hynny sy'n awgrymu ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn pleidleisio yn ei erbyn, rywsut yn y wybodaeth, oherwydd y cysur bod Llafur yn ei gefnogi, fel y dywedodd Simon cawsom ninnau hefyd drafodaethau manwl, fforensig. Cafodd yr achos ei wneud i gefnogi hyn. Gan fy mod yn cydnabod y pethau cadarnhaol, roeddwn efallai yn ystyried mai ymatal egwyddorol hyd yn oed oedd y peth gorau i'w wneud y prynhawn yma. Ond, yn y diwedd, roedd yn rhaid i mi ofyn i mi fy hun i ba raddau y mae’r pethau cadarnhaol yn fawr mwy na melysyddion i'w cymryd ochr yn ochr â'r hyn sydd fel arall yn bilsen chwerw iawn o ran Bil Cymru. Mae’r elfen gadarnhaol ar gyflwyno model cadw pwerau, mewn egwyddor, er enghraifft, sy’n rhywbeth yr ydym wedi galw amdano ers amser hir, yn cael ei ddadwneud, braidd, onid yw, gan y rhestr chwerthinllyd honno a gyfansoddwyd gan Whitehall ei hun? Mae Plaid Cymru—