6. 4. Legislative Consent Motion on the Wales Bill

Part of the debate – in the Senedd at 5:38 pm on 17 January 2017.

Alert me about debates like this

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:38, 17 January 2017

A nation’s reach should exceed its grasp. Those are the words of Elystan Morgan, encouraging Westminster to adopt an ambitious approach to this Bill.

Ond, wrth edrych ar y Mesur yma, rwy’n gweld diffyg uchelgais—diffyg y math o uchelgais a oedd ynghlwm wrth y sylw hwnnw. Mae ystod o bwerau yma sydd yn bwerau defnyddiol, ond nid rhestr eang o bwerau y byddwn i wedi hoffi ei gweld yna. Mae’r Ddeddf, ar amryw o seiliau, yn gam yn ôl, fel yr ŷm ni wedi clywed yn y ddadl eisoes. Fe fyddwn ni’n cyflwyno Mesur ar gyfer undebau llafur na fyddai’n bosibl o dan y setliad newydd. Yn fy marn i, ac rwy’n siŵr bod lot yn y Siambr yn ei rhannu, dylai datganoli fod yn broses ‘incremental’, cam wrth gam, graddol, ond mewn un cyfeiriad. Felly, mae colli’r egwyddor honno yn beth pwysig iawn.

Nid dyma’r Mesur y byddwn i eisiau iddo fod o’n blaenau ni heddiw; byddwn i’n moyn gweld Mesur Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd y llynedd ar lawr y Siambr heddiw, gydag ystod o bwerau sydd yn deilwng o Gymru, gyda safbwynt eglur yn nhermau’r setliad, a hefyd yn ein symud ni ar lwybr i gyfartaledd gyda seneddau’r Alban a Gogledd Iwerddon. Ond, gwrthodwyd y Mesur hwnnw gan yr Ysgrifennydd Gwladol a gan y Llywodraeth Dorïaidd.

Felly, nid oes dim brwdfrydedd gyda fi heddiw yn dod fan hyn i edrych ar y Mesur hwn, ond mae cryfderau yn y Mesur, ac mae’n rhaid inni gydnabod yr elfennau positif sydd yn y Mesur hefyd. Mae symud o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gwyrdroi’r man cychwyn cyfansoddiadol. Rŷm ni’n dechrau o safbwynt hollol wahanol er gwaethaf rhestr faith, rhestr hirfaith, o gymalau cadw sydd, ar amryw seiliau, yn hollol anaddas. Mae’r egwyddor newydd honno yn cynnig sylfaen i ni allu adeiladu arni yn y blynyddoedd sydd i ddod—yn nhermau awdurdodaeth, yn sicr, ond hefyd yn nhermau tynnu nôl y cymylau cadw yna sydd yn gymaint o fwrn ar y Mesur.

Yn fy marn i, am wn i, ni fyddai hynny yn hollol ddigonol oni bai am y cwestiwn sydd yn gyd-destun i’r drafodaeth yma, ac i bob trafodaeth wleidyddol yr ŷm ni’n ei chael yma yng Nghymru, sef y cwestiwn o Brexit. Rwy’n credu ein bod ni’n tanystyried ar ein peryg—er gwaethaf y sylwadau rŷm ni wedi eu clywed heddiw, y bore yma, gan Theresa May, sydd wedi cael eu crybwyll yn y Siambr eisoes—rŷm ni’n tanystyried y risg i’r setliad datganoli a ddaw yn sgil y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn credu am eiliad fod greddf Llywodraeth San Steffan, na greddf y Prif Weinidog hon, o blaid unrhyw broses a fyddai’n caniatáu yn rhwydd i Gymru gael y pwerau o Frwsel rŷm ni’n haeddu eu cael, ac sydd yn hawl i ni.

Mae arweinydd yr wrthblaid wedi sôn am y ddelwedd o Brydain ac o Gymru y mae’r Prif Weinidog eisiau ei gweld, ac ni fyddai neb ar yr ochr yma o’r Siambr yn moyn gweld hynny. Dyna pam mae mor bwysig ein bod ni’n cryfhau ein sefyllfa ar gyfer y drafodaeth honno. Dyma pam mae mor bwysig bod gyda ni’r confensiwn Sewel, sydd yn rhoi cyfartaledd i ni gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon, a chyfle cryfach i ni allu dadlau ein hachos yn erbyn y Llywodraeth yn San Steffan.

I think this is an imperfect Bill. It’s imperfect because it fails to recognise the maturity of the Welsh constitutional settlement, and it fails to recognise the potential that Wales can deploy with these extra powers that we have asked for over some time. But, I believe that at its core is the correct principle, of moving to a reserved-powers model, and that on balance that equips us better for what is going to be a much bigger set of battles ahead.